Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/145

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddiacon ffyddlawn Evan Enoch, yr hwn sydd ar fin 80 oed. Mae yr eglwys yma wedi dyoddef oddiwrth fethiant rhai o weithfeydd yr ardal, ac ymadawiad llawer o aelodau i eglwysi eraill; ac nid yw yr ymadawiadau bob amser wedi bod yn y dull mwyaf rheolaidd; ond y mae yr achos er hyny mewn gwedd lewyrchus, ac ni bu ei heddwch mewnol yn helaethach mewn unrhyw gyfnod yn ei hanes, ac nid heddwch diffrwyth ydyw ychwaith canys yr oedd cyfanswm derbyniadau yr eglwys at bob achos am 1870 yn ymyl dau cant o bunau, ac y mae dyled y capel wedi ei dynu i lawr o dan ddau cant.

Bu yma lawer o bersonau ffyddlon o bryd i bryd y rhai y mae ei henwau yn teilyngu eu cofnodi yn barchus. Benjamin James oedd frawd ffyddlon a llafurus. David Griffiths a David Bowen oeddynt ystwyth ac iraidd eu profiad. Morgan Hussey oedd un a wir ofalai am yr achos yn y lle er pan y daeth yma o'r Mynyddbach, a pharhaodd felly hyd y diwedd. Bu farw yn hen ac yn gyflawn o ddyddiau, (93 oed,) ac er ei fod er's blynyddau wedi colli ei olygon, yr oedd ei weled yn gwrando a'i ddagrau mawrion yn treiglo dros ei ruddiau yn dangos fel yr oedd ei enaid yn mwynhau diddanwch yr efengyl. Evan Jones oedd ddyn tawel a heddychol, a dangosodd y dorf fawr a ddaeth i'w gladdedigaeth y parch oedd i'w gymeriad; ac y mae yn ddyled cofnodi, yn mysg llawer o wragedd rhinweddol a fu yma, enw Catherine Howell, yr hon a fu farw y flwyddyn hon (1871). Yr oedd yn berthynas i'r hen bregethwr hynod Siencyn Thomas, Penhydd, ac mewn pethau yn dwyn tebygolrwydd iddo. Yr oedd yn un o'r rhai olaf o'r hen do a welwyd lawer gwaith yn neidio ac yn llamu o flaen Arch Duw. Codwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon:

John Phillips. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1807, mewn lle a elwir Nantysaeson, yn mhlwyf Llanfyrnach. Bedyddiwyd ef gan Mr. William Evans, Hebron, gyda'r hwn yr oedd ei rieni yn aelodau. Derbyniwyd John Phillips yn aelod yn Hebron gan Mr. John Evans, pan nad oedd ond 12 oed. Wedi iddo briodi bu yn trigianu am flynyddau yn ymyl Mr. Evans, Hebron, ac yn gweithio iddo, a theimlai John Phillips trwy ei oes yn fraint iddo gael ei ddwyn i gysylltiad mor agos a'r gwr nodedig hwnw. Cafodd ei wraig ei chystuddio yn drwm am flynyddau, a thrwy fod ei deulu yn lluosog, bu raid iddo adael cymydogaeth dawel Hebron, a throi ei wyneb tua Morganwg i ymofyn cynhaliaeth iddynt. Sefydlodd yn Aberafan, lle y bu yn ddefnyddiol iawn gyda chrefydd. Tua diwedd y flwyddyn 1845, anogwyd ef i ddechreu pregethu, ac o hyny hyd ddiwedd ei oes bu yn bregethwr cynorthwyol derbyniol a chymeradwy. Heblaw yn Aberafan, pregethodd lawer yn Melinycwrt, Glynnedd, Ystradfellte, Llwyni, Cefncribwr, Drefnewydd a manau eraill, a bu yn myned yn fisol am flynyddau i rai o'r lleoedd a enwyd. Cymerai deithiau byrion yn achlysurol i sir Gaerfyrddin neu sir Benfro, ac yr oedd yn hynod o gymeradwy pa le bynag yr elai. Yr oedd yn ddyn o ddeall da, o barabl clir, a'i lais yn hyglyw. Edrychid arno fel dyn tyner a charedig, ac yr oedd yn ffyddlon gyda holl ddyledswyddau crefydd, yn enwedig yn ei ofal am y llesg, y trallodedig, a'r cystuddiol. Pregethai yn bur a sylweddol, ac yr oedd ei draddodiad yn wastad yn gynes a bywiog. Gallesid yn yr olwg arno ddisgwyl iddo fyw i oedran teg; ond gwelwyd arwyddion fod y dyfrglwyf arno, yr hwn a gynyddodd yn gyflym, a bu farw Mai 25ain, 1866, yn 59 oed, a chladdwyd ef yn barchus un o'r dyddiau canlynol yn mynwent eglwys blwyfol Aberafan.