Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/146

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Robert B. Williams. Dechreuodd bregethu yr un pryd a John Phillipsac y mae yn awr yn weinidog yn y Morfa, sir Fynwy.

Richard Morgan. Urddwyd ef, fel y gwelsom, yn weinidog yn y Tabernacl, Aberafan.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.

JOB JONES. Mab ydoedd i David a Mary Jones, o'r Crinoedd, yn agos i Narberth. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1834. Derbyniwyd ef yn aelod pan yn ieuangc, ac yn fuan wedi dechreu pregethu aeth i'r athrofa i Gaerfyrddin. Wedi treulio ei amser yno, derbyniodd alwad o'r Wern, Aberafan. Cychwynodd ei weinidogaeth ar adeg fywiog-ar haf o ddiwygiad, ac yr oedd wedi cyfranogi yn helaeth o'r un ysbryd. Cynhelid cyfarfodydd gweddio undebol ar y pryd, ac yr oedd ei dymer serchog a'i ddawn melus yn ei wneyd yn dderbyniol nid yn unig gan ei bobl ei hun, ond gan bob enwad yn y dref; ond yr oedd yr eglwys a'r gynulleidfa dan ei ofal wedi ymserchu yn arbenig ynddo. Pregethai yn danllyd iawn, yn rhy danllyd o lawer i ateb i'w nerth, a llosgodd allan yn fuan. Yn mhen tua chwe' mis wedi ei urddiad gwelwyd arwyddion eglur fod y darfodedigaeth wedi ymafael ynddo. Aeth adref i dy ei rieni gan ddisgwyl gwellhad, ond nychodd yn raddol, a bu farw brydnhawn Sabboth Medi 29ain, 1861, a chladdwyd ef y dydd Iau canlynol yn mynwent Brynsion, ac ar yr achlysur gweinyddwyd gan Meistri L. James, Carfan; J. Lewis, Henllan; J. Davies, Gapel Sion, Abertawy; W. Thomas, Whitland, a J. Morris, Narberth. Bu eglwys y Wern yn hynod o garedig iddo yn ystod ei gystudd, ac elai rhai o honynt yn aml yr holl ffordd o Aberafan i ymyl Narberth i ymweled ag ef, ac aeth tua haner cant o honynt i'w angladd. Cymerasant holl draul ei gladdedigaeth, a chodasant gofadail ar ei fedd; ac y mae maen coffadwriaethol am dano ef a'i ragflaenor, Mr. Evans, i'w weled mewn man amlwg yn nghapel y Wern. Ete oedd ganwyll yn llosgi ac yn goleuo," a thros amser byr yr oedd yr eglwys yn "ewyllysgar yn gorfoleddu yn ei oleuni ef."

ROCK.

Dechreuwyd yr achos yma yn 1888, trwy gadw cyfarfod gweddi yn nhŷ John Griffiths, cefnder Mr. Daniel Griffiths, Castellnedd. Yr oedd y tŷ yr oedd John Griffiths yn byw ynddo wedi bod yn dafarndy, o dan yr enw Rock & Fountain, ac oddiwrth hyny y gelwir y capel hyd heddyw Capel y Rock. Aelodau yn Zoar, Castellnedd, oedd John Griffiths, Rock; Edward Jenkins, Penstar, a Thomas Hughes, Cwmclais, y tri a gychwynasant yr achos, ac unodd Morgan Rees, dilledydd, ac eraill o gapel Seion a rhai o aelodau y Cymer gyda hwy. Yr oedd Morgan Rees yn ganwr rhagorol, yr hyn oedd yn help mawr i'r achos ar ei gychwyniad. Cadwyd y gyfeillach gyntaf yma ar foreu Nadolig 1838, ar ol oedfa-weddi blygeiniol a gynhelid, ac arosodd Rees Griffiths, mab John Griffiths, a Jennet Rees a William Rees, Pontrhydyfen, ynddi. Cedwid cyfeillach yn rheolaidd bob wythnos ar ol hyn, a daeth Thomas Lewis a'i frawd William Lewis yn fuan attynt, a derbyniwyd y pump yn gyflawn aelodau yr un Sabboth yn Zoar, Castellnedd. Yn mhen oddeutu tri mis cafwyd dwy bregeth yn y lle ar brydnhawn Sabboth gan John Davies a David Griffiths,