Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/147

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dau bregethwr cynorthwyol perthynol i Zoar; ac o hyny allan cafwyd Ysgol Sabbothol bob boreu Sabboth, pregethu am ddau, a chyfarfod gweddi yn yr hwyr. Deuai y ddau bregethwr a enwyd o Zoar, Castellnedd yma, a Zechariah Davies, aelod o Gapel Seion, a David Griffiths, pregethwr perthynol i'r Bedyddwyr, yr hwn sydd yn aros etto yn Nghwmafan. Cafwyd cyfarfod pregethu yma yn 1838, pryd y pregethodd Meistri W. Thomas, Cymer-glyn-corwg; D. Griffiths, Castellnedd; W. Morgan, Llwyni, a P. Griffiths, Alltwen. Yn niwedd Mehefin, 1839, daeth Mr. Daniel Griffiths, Castellnedd yma i bregethu, ac i gorpholi yr aelodau yn y lle yn eglwys, ac i weinyddu yr ordinhadau. Bu y lle am ychydig dan ofal Mr. Griffiths, ac wrth weled pethau yn myned yn mlaen mor obeithiol, edrychwyd am le i adeiladu capel; yr hyn a gafwyd yn ymyl y lle y saif y capel presenol. Codwyd capel bychan, diaddurn, ac agorwyd ef Awst 20fed a'r 21ain, 1840. Ar ol cael capel newydd, anogodd Mr. Griffiths yr eglwys yn y lle i edrych am ryw un i'w bugeilio, gan fod ei lafur ef eisioes yn ormod i allu gwneyd hyny. Cyn diwedd y flwyddyn 1841, cymerodd Mr. William Thomas, Cymer-glyn-corwg, ofal y lle mewn rhan, yr hwn oedd wedi bod yn un o brif gefnogwyr y lle o'r dechreuad. Bu yn gofalu am y lle felly yn rhanol mewn cysylltiad a Cefnoribwr hyd Ebrill 1845, pryd y rhoddodd yr eglwys yno i fyny, ac y cymerodd yn gyflawn at yr achos yma; ac y mae yn parhau i lafurio yn y lle hyd yr awr hon. [1] Yn fuan wedi sefydliad Mr. Thomas, lluosogodd yr eglwys a'r gynnulleidfa. Rhoddwyd oriel ar y capel, ac wedi y llwyddiant mawr a gafwyd yn 1849, aeth yn llawer rhy fychan i gynwys y gynnulleidfa. Yn hytrach na helaethu y Rock, penderfynwyd codi capel newydd eang ar y Wauntymaen, mewn man lle yr oedd y boblogaeth yn cynyddu yn gyflym; ac wedi ei gael yn barod aeth rhan o'r eglwys yno. Effeithiodd ymadawiad cynifer o'r aelodau ar yr un pryd ar y lle dros ychydig; ond cryfhaodd yn raddol, fel y daeth y capel yn llawn drachefn, ac erbyn y flwyddyn 1869, penderfynwyd cael capel newydd eangach, ac adeiladwyd un gwerth wyth gant o bunau, yr hwn a agorwyd Tachwedd 20fed a'r 21ain, 1870; ac erbyn hyn nid oes ond cant-a-thri-ugain punt o ddyled yn aros, yr hyn a ddengys fod gan y bobl galon i weithio.[2]

Mae yr eglwys hon wedi bod bob amser yn heddychol a thangnefeddus, ac wedi gwasgar ei dylanwad er daioni mawr yn y cylch pwysig y mae ynddo.

Codwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon:—

William Rees. Urddwyd ef yn Siloh, Maesteg, lle y mae yn aros etto. Jenkin Davies, Mynyddbychan. Dechreuodd bregethu yn 1856. Yr oedd yn bregethwr ieuangc gobeithiol, a disgwyliadau mawrion wrtho, ond gwaelodd ei iechyd, a bu farw yn mlodeu ei ddyddiau, Tachwedd 27ain, 1861.

Richard Williams. Urddwyd ef yn y Bryn, lle y mae yn parhau i lafurio.

George Williams. Bu yn yr ysgol Normalaidd yn Abertawy. Urddwyd ef yn Nhrewyddel, ac y mae yn awr yn Amlwch.

John Evans (Ieuan Afan). Mae ef yn parhau yn bregethwr cynorthwyol yn yr eglwys, ac yn gwasanaethu gyda Mr. Thomas, y gweinidog, fel "ei fab anwyl yn y ffydd."

  1. Llythyr Mr. Thomas, Rock,
  2. Llythyr Mr. J. Evans (Ieuan Afan).