Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/148

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

BETHANIA, TYMAEN.

Ar ol yr ychwanegiad mawr a fu at yr eglwysi yn Nghwmafan, fel mewn llawer o fanau eraill yn Morganwg yn y flwyddyn 1849, aeth capel y Rock yn rhy gyfyng i'r gynnulleidfa, fel y penderfynodd Mr. Thomas a'r eglwys yn hytrach na'i ailadeiladu, i godi capel arall mewn man cyfleus i ran o'r eglwys yn nes i ganol y Cwm. Cafwyd darn o dir ar Wauntymaen, lle yr oedd llawer o dai eisioes wedi eu codi a'r boblogaeth yn cynyddu yn ddirfawr. Adeiladwyd yma gapel eang yn mesur dros y muriau 54 troedfedd o hyd wrth 50 troedfedd o led, a chostiodd yn agos i naw cant o bunau. Agorwyd ef Mai 5ed a'r 6ed, 1861, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri W. Humphreys, Cadle; O. Owens, Brynmenyn; H. Rees, Ystrad; J. Thomas, Glynnedd; T. Thomas, Clydach; E. Griffiths, Abertawy; T. Jones, Treforis; T. Davies, Treforis; E. Jacob, Abertawy; J. Steadman, Mumbles; J. Mathews, Castellnedd, a J. Davies, Mynyddbach.[1] Yn anffodus wedi dechreu adeiladu cafwyd allan fod y tir o dan y capel yn ymollwng ac agenodd y muriau ychydig fel y bu raid eu cadarnhau a barau heiyrn, yr hyn, heblaw ychwanegu y draul, a barodd lawer bryder i'r cyfeillion yn y lle. Dyoddefodd yr eglwys hon yn gystal a holl eglwysi y Cwm, oblegid arafwch masnach y lle am flynyddoedd, ac ymadawodd llawer mewn canlyniad i ardaloedd eraill; ond teimlodd yr eglwys hon yn fwy, oblegid mai achos newydd ydoedd, dan faich o ddyled; ond daliodd yr achos ei dir, a thrwy ddyfalbarhad Mr. Thomas, y gweinidog, ac ychydig ffyddloniaid, cariwyd yr achos yn mlaen yn ddiwaradwydd. Yn 1858 gorphenwyd ac ad-drefnwyd y capel, a gwnaed rhyw gyfnewidiadau ynddo; a chynhaliwyd cyfarfodydd ei ail agoriad Gorphenaf 18ed a'r 19eg. Tua diwedd y flwyddyn hono a dechreu yr un ganlynol ychwanegwyd tua 220 at yr eglwys; ond y mae yr eglwys er hyny wedi dyoddef colledion mawrion trwy symudiadau a marwolaethau, ond y mae yr achos mewn cyflwr gobeithiol; a'r ddyled yr hon unwaith a ofnid mor fawr wedi dyfod i lawr i 300p. er i'r capel trwy ei adeiladiad a'i ad-drefniad gostio dros 1300p.[2] Erbyn hyn y mae yr eglwys wedi dyfod yn mlaen yn gryf a llwyddianus. Mae yr achos o'r dechreuad wedi bod mewn cysylltiad a'r Rock, ac o dan yr un weinidogaeth. Ni chodwyd yma ond un pregethwr, sef John Stephens, sydd yn awr yn yr ysgol yn Menybont-ar-ogwy.

LLANSAWEL, NEU BRITON FERRY.

Er nad yw yr achos Annibynol yn y plwyf hwn yn hen, dichon na fn un adeg er's yn agos i ddau cant a haner o flynyddau heb fod aelodau perthynol i'r Annibynwyr yn byw yn y plwyf. Yma yr oedd Bussey Mansel yn byw yn yr ail-ganrif-ar-bymtheg, ac efe oedd perchenog y rhan fwyaf, os nad yr oll, o'r plwyf. Yr oedd y boneddwr hwnw yn un o weinyddwyr y weithred er taenu yr efengyl yn Nghymru yn 1650, a bu trwy dymor yr erledigaeth yn aelod ffyddlon ac yn noddwr cadarn i'r eglwys yn y Chwarelaubach. Gresyn na buasai Iarlliaid Jersey, ei ddisgynyddion a'i etifeddion, yn glynu gydag egwyddorion eu henafiaid. Gan

  1. Diwygiwr 1851. Tu dal. 187.
  2. Llythyr Mr. Thomas, Rock.