Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/149

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nad yw y lle hwn ond dwy filldir o Gastellnedd, mae yn ddiameu fod llawer o aelodau a gwrandawyr y Chwarelaubach a Maesyrhaf yn trigianu yma o oes i oes. Yn y flwyddyn 1809, gan fod Mr. Bowen, Castellnedd, wedi bod yn ddyoddefydd o herwydd pregethu mewn tai heb eu trwyddedu, mynodd drwyddedu tŷ yma fel y gallasai bregethu yn ddiofn cosp. A ganlyn sydd gopi o'r drwydded.

"To all to whom it my concern. Whereas the dwellinghouse of David Rees of the parish of Briton Ferry, in the county of Glamorgan, and the Diocese of Llandaff, is certified to the Right Reverend Father in God, Richard, by Divine permission, Bishop of Llandaff, to be lately fixed upon as a proper place for the Protestant Dissenters of the Independent persuasion to meet in for Divine Worship.

These are, pursuant to an Act of Parliament, in that behalf made and provided, To certify that the Certificate hereof was Registered in the said Lord Bishop's Registry the 1st day of April, in the year of Our Lord 1809.


EDW. PEARSON,

Registrar."

Bu Mr. Bowen yn pregethu yn fynych yma hyd derfyn ei oes, ac ymwelid a'r ardal yn aml gan weinidogion o ardaloedd eraill, megis Methusalem Jones, Merthyr; W. Jones, Penybont, &c. Pregethodd yr enwog Daniel Griffiths lawer yma yn ei dymor, ond ei ganlyniedydd Mr. J. Mathews gafodd yr anrhydedd o sefydlu achos yn y lle. Yn 1847, cynaliwyd Ysgol Sabbothol, a chyfarfodydd gweddio, yn nghyd a phregethu achlysurol, gan Mr. Mathews, a phobl Zoar, Castellnedd, mewn anedd-dy yn Giant's Grave. Yn y flwyddyn 1848, adeiladwyd yma gapel lled helaeth a chyfleus yn cynwys tua 400 o eisteddleoedd. Yn mhen tua blwyddyn ar ol agor y capel corpholwyd yma eglwys yn cael ei gwneyd i fyny gan mwyaf oll o aelodau a ollyngasid o Zoar. Mr. Mathews, a Mr. William Parker, un o ddiaconiaid Zoar, fu yn gweinyddu ar yr achlysur. Y dynion mwyaf blaenllaw a gweithgar yma fel aelodau ar ffurfiad yr eglwys oeddynt Griffith Lewis, Thomas Morgan, Thomas Parker, William Hughes, Thomas Davies, William Hunter, Benjamin Howells, a William Lovett. Bu yr eglwys ieuangc dan ofal Mr. Mathews hyd Hydref, 1851, pryd yr urddwyd Mr. Griffith Roberts yn weinidog. Ychydig gyda dwy flynedd y bu ef yma cyn i'w fuchedd fyned yn rhy annheilwng iddo gael ei ddyoddef yn hwy fel gweinidog yr efengyl. Ar ol ei ymadawiad ef bu yr eglwys yn ymddibynu ar weinidogaeth achlysurol hyd 1859, pryd yr ymsefydlodd Mr. David Evans, y gweinidog presenol yma. Mae gweinidogaeth Mr. Evans wedi bod yn dderbyniol a llwyddianus iawn hyd yn bresenol. Yn y flwyddyn 1865, tynwyd yr hen gapel i lawr ac adeiladwyd un llawer mwy a harddach ar ei safle. Cynwysa y capel presenol saith i wyth cant o eisteddleoedd. Traul adeiladaeth y capel cyntaf oedd 516p., a thraul adeiladaeth yr ail oedd 1500p. Rhif yr aelodau bresenol yw 260. Ni fu yma ddim tebyg i derfysg eglwysig hyd o fewn tair blynedd yn ol, pryd y darfu i ryw nifer o'r aelodau yn nghymydogaeth Giant's Grave fyned i groes-dynu a'r eglwys, ac amlygu dymuniad am gael eu ffurfio yn eglwys ar eu penau eu hunain, ond barnai yr eglwys yn wahanol iddynt, am y golygent fod un achos Annibynol yn bresenol yn ddigon i gyfateb i anghenion yr ardal. Parhaodd y blaid fechan hon i ymgyndynu. O'r diwedd, rhoddwyd llythyrau gollyngdod iddynt i fyned i Zoar, Castellnedd, ond nid oedd hyny drachefn yn eu boddloni. Dechreu achos newydd