Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/150

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn Giant's Grave oedd eu pwngc hwy. Buont yn nghyfarfodydd chwarterol yr undeb sirol yn gofyn cymeradwyaeth i gwblhau eu hamcanion, ond pan wrthododd y gweinidogion yn benderfynol eu cefnogi, aethant i gyfarfod misol y Methodistiaid, a chawsant dderbyniad ganddynt hwy. Peth blin yw gweled y naill enwad crefyddol yn y modd hwn yn cefnogi rhwygiadau mewn enwad arall. Nid oes un enwad yn Nghymru yn hollol ddifai ar y pen hwn, ond y mae yn llawn bryd i ni oll amlygu mwy o ysbryd caredig cristionogaeth a llai o ysbryd plaid.

SCIWEN.

Cangen o Zoar, Castellnedd yw yr eglwys hon. Dechreuwyd yr ardal gan Mr. Daniel Griffiths, yr hwn a bregethodd lawer mewn tai yn yr achos flynyddau cyn bod son am gapel; a derbyniwyd llawer o bersonau o'r gymydogaeth yn aelodau yn y dref. Cynhelid yma Ysgol Sabbothol, yr hon a gynyddodd i'r fath raddau fel yr oedd pedwar o dai anedd yn rhy gyfyng i gynwys y rhai a ddeuent yn nghyd. Gwelwyd yn angenrheidiol cael capel, a phrynwyd darn o dir, a chodwyd arno gapel yn mesur 34 troedfedd wrth 28 troedfedd. Agorwyd ef Mehefin 8fed a'r 9fed, 1842; ac ar yr achlysur gweinyddodd Meistri D. Evans, Castellnedd; E. Watkins, Llanelli, Brycheiniog; J. Davies, Mynyddbach; W. Morris, Glandwr; J. Davies, Cwmaman; R. Pryse, Cwmllynfell, a W. Morgan, Llwyni.[1] Am rai blynyddau ar ol hyn cedwid yma Ysgol Sabbothol, a chyfarfodydd yn yr wythnos, a chyfarfod gweddi neu bregeth bob nos Sabboth; ond yr oeddynt yn myned i'r dref bob boreu Sabboth, ac i'r dref i gymundeb; ond gweinyddid yma gymundeb yn achlysurol er mantais i'r rhai oedd yn analluog i fyned i'r dref; ac felly y parhaodd hyd farwolaeth Mr. Griffiths, ac am dymor wedi i Mr. Mathews ddechreu ei weinidogaeth yn Zoar. Ond wrth weled y lle yn cynyddu barnwyd yn ddoeth ffurfio eglwys yma, a rhoddwyd gollyngdod i 53 o aelodau o Zoar, ac ar foreu Sabboth, Medi 24ain, 1848, corpholodd Mr. Mathews hwy yn eglwys yn y lle. Parhaodd y Sciwen dan ofal Mr. Mathews hyd y flwyddyn 1851, pan y barnodd yn ddoethach ei rhoddi i fyny gan fod maes ei lafur yn rhy eang. Yn fuan ar ol hyn rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Evan Evans, yr hwn a fuasai dan addysg gyda Mr. Davies yn Llanelli, Brycheiniog; ac urddwyd ef Mai 26ain a'r 27ain, 1851. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. J. Davies, Llanelli; holwyd y gofyniadau gan Mr. J. Mathews, Castellnedd; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. S. Evans, Rheoboth, (brawd yr urddedig); pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. W. Jenkins, Nantyglo, ac i'r eglwys gan Mr. J. Thomas, Glynnedd. Cymerwyd rhan hefyd yn ngyfarfodydd yr urddiad gan Meistri J. Rees, Canaan; T. Jones, Treforis; D. Evans, Castellnedd; R. Rees, Abertawy; P. Griffiths, Alltwen; W. Miles, Tyrhos; J. Davies, Mynyddbach; T. Davies, Treforis, ac eraill.[2] Mae Mr. Evans wedi llafurio yma bellach am fwy nag ugain mlynedd, ac y mae yr achos, er gorfod myned trwy lawer o gyfnewidiadau, wedi myned rhagddo yn llwyddianus. Aeth yr hen gapel yn rhy fychan yn fuan, ac yn 1859, penderfynwyd adeiladu capel newydd heb fod yn mhell o'r fan lle y safai yr hen, ac aeth yr eglwys i'w theml newydd a hardd yn mis Awst, 1860.

  1. Diwygiwr, 1842. Tu dal. 252
  2. Diwygiwr 1851. Tu dal. 216.