Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/151

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ni chodwyd yma ond un pregethwr, sef Thomas Phillips, yr hwn a fu farw pan yn cychwyn ei efrydiau er parotoi ar gyfer y weinidogaeth. Deiffwyd ei brydferthwch gan awelon oerion y darfodedigaeth, a gwywodd fel blodeuyn pan yn dechreu ymagor.

BRYN, CWMAFAN.

Dechreuwyd pregethu yma yn achlysurol mewn tai anedd tua'r flwyddyn 1841, ond yn 1846 y dechreuwyd gwneyd hyny yn rheolaidd. Adeiladwyd yma haner cant o dai newyddion ar gyfer y glowyr a'r mwnwyr oedd wedi dyfod i'r ardal i weithio, ac yn mhlith eraill daeth rhai o aelodau Capel Seion a'r Rock, Cwmafan, a Zoar, Maesteg, yma i fyw. Cymerwyd yma anedd-dy, a threfnwyd ef at gadw moddion crefyddol. Ffurfiwyd yma eglwys yn 1847 gan Meistri W. Thomas, Rock; E. Roberts, Cwmafan, a W. Watkins, Maesteg.[1] Yn y flwyddyn ganlynol rhoddodd yr eglwys, er nad oedd ei rhif ond ychydig, alwad i Mr. John Davies, pregethwr cynorthwyol yn Seion, Cwmafan; ac urddwyd ef Hydref 18fed a'r 19eg, 1848. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. E. Roberts, Cwmafan; holwyd y gweinidog gan Mr. W. Thomas, Rock; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. J. Davies, Mynyddbach; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. P. Griffiths, Alltwen, ac i'r eglwys gan Mr. W. Watkins, Maesteg. Bu Mr. John Davies yma yn barchus am fwy na phedair blynedd, hyd nes y syrthiodd i bechod gwarthus fel y bu raid i'r eglwys ymwrthod ag ef. Bu farw yn mhen blynyddoedd heb fod mewn cysylltiad a'r weinidogaeth. Ar ol hyny bu gofal yr eglwys ar Mr. David Henry mewn cysylltiad a Cymer-glyn-corwg hyd y flwyddyn 1859, pan y symudodd i Benygroes, sir Gaerfyrddin. Aeth yr achos rhagddo yn raddol yn ystod y blynyddau hyn, ac yn niwedd 1860 a dechreu 1861, adeiladwyd yma gapel newydd cyfleus. Rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Richard Williams, pregethwr cynorthwyol yn y Rock i fod yn weinidog iddi, ac urddwyd ef yn nglyn ag agoriad y capel Mai 21ain a'r 22ain, 1861. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. E. Roberts, Cwmafan; holwyd y gofyniadau gan Mr. J. Jones, Maesteg; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. D. Henry, Penygroes; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. W. Thomas, Rock, ac i'r eglwys gan Mr. W. Rees, Maesteg.[2] Ysigwyd llawer ar yr achos yma tua diwedd y flwyddyn 1860, pan y safodd gwaith yr ardal, ond y mae pethau er hyny wedi adfywio, a'r achos yn myned rhagddo, er nid gyda chyflymder mawr.

TONMAWR.

Mae y lle yma yn myned dan wahanol enwau, gelwid of gynt yn Fforchdwn, wedi hyny galwyd ef yn Cwmgwenffrwd; ond dewisir yn awr ei alw Tonmawr, am mai yno y mae yr ysgoldy lle yr ymgynnullent i addoli. Pregethodd Mr. Daniel Griffiths, Castellnedd, ac eraill lawer mewn anedd-dai yn yr ardal, a chynhelid yma Ysgol Sabbothol a chyfarfodydd gweddio, a chyfrifid y lle fel cangen e Zoar, Castellnedd. Yn haf

  1. Diwygiwr, 1848. Tu dal. 387
  2. Diywgiwr, 1841. Tu dal. 216.