Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/152

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

1847, ffurfiwyd yr ychydig aelodau yn y lle yn eglwys, a gweinyddwyd yr ordinhad o Swper yr Arglwydd iddynt gan Mr. David Williams, Hermon, Ystradfellte. Wedi bod dros rai blynyddoedd yn ymddibynu ar weinidogaeth achlysurol, cymerodd Mr. John Davies, Bryn-troed-gam ofal y lle, a bu yn ffyddlawn yn gofalu am dano. Wedi hyny tu y lle yn olynol dan ofal Mr. E. Evans, Sciwen, a Mr. W. Thomas, Rock; ond yn nechreu y flwyddyn 1866, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. John Davies, pregethwr cynorthwyol a godwyd ynddi; ac urddwyd ef Ebrill 4ydd a'r Bed, y flwyddyn hono, ac y mae yn parhau i ofalu am y lle. Nid oes ym a hyd yn hyn gapel wedi ei adeiladu, ond cyfarfyddant mewn ysgoldy ar y Tonmawr.

Codwyd yma ddau bregethwr, sef John Davies, y gweinidog presenol, ac Evan Lewis, yr hwn a symudodd oddiyma i Pontypridd.

TAIBACH.

Mae y pentref poblog hwn yn mhlwyf Margam, tua milldir i'r de o Aberafan. Yr oedd Mr. Hugh Owen wedi dechreu pregethu, ac wedi bwriadu cychwyn achos Annibynol yma, yn y flwyddyn 1821, cyn fod gan un enwad arall achos yn y lle, ond o herwydd camddealldwriaeth rhyngddo ef a Mr. Llewellyn, goruchwyliwr Mr. Talbot, perchenog yr holl blwyf. gwrthodwyd tir i'r Annibynwyr i adeiladu capel yn y lle hyd o fewn un-flynedd-ar-bymtheg yn ol. Yr oedd yr ychydig Annibynwyr a breswylient yn y lle hwn yn myned i Gapel Seion, Cwmafan i gymuno yn amser Mr. H. Owen, ac wedi hyny i'r Tabernacl, Aberafan; ond ni bu yr achos yno ond gwywlyd ac ar drancedigaeth nes i Mr. Evans, Castellnedd, gymeryd ei ofal yn 1837; o hyny allan parhaodd i ychwanegu nerth o flwyddyn i flwyddyn. Yn 1841, derbyniodd Mr. Evans chwech o breswylwyr Taibach yn aelodau yn y Tabernacl, Aberafan, a pharhaodd i dderbyn rhai o'r lle hwn yn feunyddiol nes oeddynt erbyn y flwyddyn 1852 wedi myned yn ddigon lluosog i gadw cyfeillach grefyddol iddynt eu hunain. Cynhaliwyd y gyfeillach gyntaf yn nhŷ John Williams, Groeswen, tad Mr. Robert Williams, Morfa, Mynwy, Ebrill 1af, 1852. Y rhif oedd yn bresenol y noson hono ydoedd un-ar-ddeg. Parhawyd i gynal y gyfeillach a chyfarfodydd gweddio, ac ar y 9fed o Ebrill, 1854, dechreuwyd Ysgol Sabbothol yn rhif 13, Constant Row. Ar yr 21ain o Fai, yn yr un flwyddyn, corpholwyd yma eglwys, cynwysedig o 23 o aelodau, y rhai a gawsant ollyngdod o eglwys y Wern, Aberafan. Ar ffurfiad yr eglwys, gweddiodd Mr. John Phillips, Aberafan, a phregethodd Mr. Evans, Castellnedd, a gweinyddodd yr ordinhad o Swper yr Arglwydd. Gweinyddodd Evan Enoch, un o ddiaconiaid eglwys y Wern, fel diacon ar yr achlysur. Wedi cael eglwys yn y lle yr oedd yn rhaid cael moddion crefyddol yn fwy rheolaidd nag o'r blaen, ac felly cydunwyd i dderbyn gwasanaeth Mr. John Steadman fel gweinidog. Y peth nesaf oedd edrych am le i adeiladu capel, ac nid bychan y drafferth a gafwyd cyn ei gael, o herwydd fod Mr. Llewellyn, goruchwyliwr Mr. Talbot yn gosod pob rhwystr a fedrai ar y ffordd. O'r diwedd llwyddodd Mr. Steadman i gael gan Mr. Vivian, perchenog y gwaith yn y lle, a Mr. Gray, ei oruchwyliwr, i ddylanwadu ar Mr. Talbot i roddi tir, ac ar yr 28ain o Ragfyr, 1855, gosodwyd y gareg sylfaen i lawr. Gan fod y tywydd yn nyfnder y gauaf yn anghyfaddas at adeiladu, ni ddechreu-