Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/153

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wyd ar y gwaith cyn Mawrth, 1856. Yr oedd Mr. Vivian a'i feibion wedi addaw 65p. at y draul, a'r bobl wedi casglu ychydig at hyny. Yn y mis canlynol, ataliwyd y gwaith i fyned yn mlaen gan oruchwyliwr Mr. Talbot, o herwydd fod arian yn ddyledus i gyfaill iddo oddiwrth gynnulleidfa yn Nghwmafan, nes y buasai yr arian hyny wedi eu talu. Bu hyny drachefn yn rhwystr am gryn lawer o amser. Ar ol llawer o drafferth cafwyd y ffordd yn rhydd i orphen y gwaith, a chafodd y capel ei agor Ebrill 3ydd a'r 4ydd, 1861. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri O. Owens, Brynmenyn; W. Griffiths, Llanharan; D. Rees, Llanelli; J. Thomas, Bryn; Job Jones, Aberafan; J. Davies, Cwmaman; J. Mathews, Castellnedd, ac eraill. Costiodd y capel ychydig dros 600p. Mae yn addoldy hardd a chyfleus, yn mesur 52 troedfedd wrth 38. Rhif yr aelodau pan agorwyd y capel oed1 70, a'r Ysgol Sabbothol yn 140. Aeth pethau yn mlaen yn ddymunol iawn am ychydig amser ar ol hyn; cynyddodd y gynnulleidfa a'r eglwys, a thalwyd cryn gyfran o'r ddyled, ond tua 1864, aeth pethau yn annymunol rhwng Mr. Steadman a rhai o'r aelodau, fel y lleihaodd y gynnulleidfa, ac y taflwyd y cwbl i ddyryswch. Yn 1866, rhoddodd Mr. Steadman y lle i fyny o herwydd henaint a methiant, a rhoddwyd galwad unfrydol i Mr. John Stephens, Siloh, sir Gaernarfon, yr hwn a ddechreuodd ei weinidogaeth yma yn 1867. Erbyn hyn yr oedd yr achos drachefn yn dechreu cyfodi ei ben uwchlaw y dwfr. Bu Mr. Stephens yn llwyddianus a chysurus yma am tua dwy flynedd; llanwyd y capel o wrandawyr, a lluosogodd yr eglwys yn fawr. Ond tua dwy flynedd yn ol, cyfododd trallod tost drachefn. Ymrysonodd y glowyr a'u meistriaid; gwasgarwyd ugeiniau o honynt o'r ardal, a daeth Saeson i'w gwaith. Gan mai glowyr oedd y rhan fwyaf o aelodau yr eglwys hon, bu yr amgylchiad gofidus hwn yn niweidiol iawn i'r achos, ac mae yn debyg y dyoddefa oddiwrtho am flynyddau etto. Gan fod yr eglwys wedi myned yn rhy wan i gynal gweinidog, ac nad oes un argoel i bethau wellhau yma yn fuan, gorfu i Mr. Stephens wneyd ei feddwl i fyny i ymadael, ac yn Hydref 1871, symudodd oddiyma i Brynteg, Casllwchwr. Felly mae yr eglwys hon yn bresenol heb weinidog, ac y mae yn debyg o fod yn analluog i gynal un nes y ceir adfywiad ar y gweithiau ac ar grefydd. Hyderwn y ceir pob un o'r ddau yn fuan. Gwelir oddiwrth yr hanes blaenorol nad oes nemawr o achos o'i oed wedi bod mewn mwy o helbulon na hwn, ond y mae wedi cael ei gadw yn fyw ynddynt oll. Dylid crybwyll fod y diweddar Mr. John Phillips, Aberafan, a Mr. Richard Morgan, gweinidog presenol y Tabernacl, Aberafan, wedi bod yn gymorth mawr i'r achos hwn yn ei gychwyniad, ac am flynyddau wedi hyny.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.

JOHN STEADMAN. Ganwyd ef yn mhlwyf Llangunor, yn agos i Gaerfyrddin, yn y flwyddyn 1791. Ymunodd a'r Methodistiaid Calfinaidd yn Nghaerfyrddin yn dra ieuangc. Aeth i Gaerodor i weithio ei gelfyddyd fel saer, ac ymaelododd gyda'r Methodistiaid yno. Yn mhen rhyw gymaint o amser, oddeutu y flwyddyn 1818, fel y tybiwn, dechreuodd bregethu. Symudodd o Gaerodor i'r Casnewydd, lle y bu am lawer o flynyddau. Daeth yn lled enwog yn mysg y Methodistiaid fel pregethwr. Tua'r flwyddyn 1838, ymunodd a'r Annibynwyr yn Nghaerdydd, lle yr