Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/154

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd yn cyfaneddu ar y pryd. Yn 1840, cafodd alwad oddiwrth yr eglwys yn Newton-on-Mumbles. Ar ol bod yno am rai blynyddau, cymerodd ofal yr eglwys ieuangc yn y Taibach, a'r eglwys fechan yn y Tabernacl, Aberafan, ac yn 1866, rhoddodd ei ofal gweinidogaethol i fyny o herwydd henaint a methiant. Bu farw Rhagfyr, 1869, a chladdwyd ef yn mynwent plwyf Oystermouth, gerllaw Abertawy.

Yr oedd John Steadman yn gristion pur ei fuchedd, ac yn bregethwr galluog, ac efengylaidd, yn ei ddyddiau goreu, ond achwynid yn dost arno o herwydd meithder ei bregethau. Dywedir y byddai weithiau yn pregethu dros ddwy awr cyn tewi. Yr oedd wedi diwygio i raddau mawr oddiwrth y bai hwnw yn ei flynyddau diweddaf. Er ei fod yn ddyn da, nid oedd yn un o'r rhai mwyaf medrus i lywyddu dynion ac i'w cadw yn heddychol. Cyfododd ymrysonau ragor nag unwaith yn yr eglwysi dan ei ofal, yr hyn a allesid yn rhwydd ragflaenu pe buasai ef yn fwy doeth a phwyllog. Dichon ei fod yn rhy benderfynol i fýny cario allan ei gynlluniau pa beth bynag fuasai y canlyniad; ond cydnabyddid ef gan bawb yn ddyn da, ac yn gristion didwyll,

SARDIS, PONTRHYDYFEN.

Dechreuwyd cynal cyfarfodydd gweddio tua'r Efailfach gan nifer o aelodau y Rock a Fforchdwn, y rhai a gwynent oblegid pellder y ffordd oedd ganddynt i fyned i addoli. Nid oedd y boblogaeth yn lluosog, ac nid addawol iawn oedd y rhagolygon am achos yn y lle; ond cyn hir anturiodd yr ychydig gyfeillion yn y lle a chodi capel, yr hwn a alwyd Sardis. Agorwyd ef Ebrill sydd a'r 4ydd, 1859, ac ar yr un adeg neillduwyd Mr. David Jones, yr hwn oedd yn aelod yn Bethania, Cwmafan, i gyflawn waith y weinidogaeth. Ar yr achlysur gweinyddwyd gan Meistri J. Mathews, Castellnedd; J. Davies, Cwmafan; W. Thomas, Rock; O. Owens, Brynmenyn; T. Thomas, Glandwr; J. Jones, Maesteg, ac eraill.[1] Mae Mr. Jones yn parhau yn weinidog yn y lle, ac er na bu yr achos erioed yn gryf, etto y mae yn Sardis "ychydig enwau" yn ffyddlon i gynal coffadwriaeth o enw yr Arglwydd.

BRYNCAWS.

Mae y lle hwn ar lechwedd bryn yn mhlwyf Llangattwg, Glynnedd, tua milldir i'r gogledd o Aberdulais, ac yn agos i dair milldir o dref Castellnedd. Hyd yn ddiweddar nid oedd yn y gymydogaeth ond tri neu bedwar o amaethdai, ond wedi agoryd gweithiau glo yma daeth rhai degau o deuluoedd i fyw i'r ardal. Yn 1866, rhoddodd Mr. Owen Jones, Bryncaws, dir at adeiladu capel, am yr ardreth o chwe'cheiniog y flwyddyn am fil ond un o flynyddau, ac ar yr un pryd, rhoddodd ei hun yn ei henaint, i fod yn ddysgybl proffesedig i'r Arglwydd Iesu. Adeiladwyd yma gapel bychan a thlws, o werth dau gant o bunau, gan y diweddar Evan Evans, Ysw., Castellnedd, a rhoddodd ef yn anrheg i'r gynnulleidfa. Ffurfiwyd yma eglwys yn 1866, cynwysedig yn benaf o aelodau Zoar, Castellnedd. Mae y gangen fechan hon o'r dechreuad dan ofal gweinidogaethol Mr. Mathews,

  1. Diwygiwr, 1859. Tu dal. 165.