Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/155

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a phob peth yn myned yn mlaen yn gysurus a gobeithiol iawn. Yr ymddiriedolwyr yn y weithred ydynt Meistri J. Mathews, y gweinidog; Joseph Lloyd Mathews, David Bevan, Evan Evans Bevan, Owen Jones, Jonah Owen Jones, John Jones, a William Davies. Mae tri phregethwr cynorthwyol yn aelodau yma, sef John Davies, William Davies, a William Close. Er nad yw yr eglwys hyd yma ond ychydig o rif, etto, gan fod poblogaeth yr ardal ar gynydd mae yn debyg y bydd yma eglwys luosog yn mhen ychydig o flynyddau.

CASTELLNEDD, (SAESONAEG).

Teimlid er's blynyddoedd fod angen achos Seisnig yn y dref; ac yn Mehefin, 1848, cymerwyd Neuadd y dref i'r perwyl. Pregethwyd yma yn gyntaf gan Mr. W. Jones, Castle-Street, Abertawy; a ffurfiwyd eglwys ar y pryd. Mr. W. T. Morgan a'i deulu; Mr. Thomas Sims, a Mr. David Davies, oll yn dal cysylltiad a Maesyrhaf, oedd a'r llaw flaenaf yn nghychwyniad yr achos, ac unodd amryw eraill y tu allan gyda hwy. Dechreuwyd cyn hir ag adeiladu capel yn Wind-Street, ac agorwyd ef Hydref 10fed a'r 11eg, 1849. Mae yn addoldy cyfleus yn mesur 42 troedfedd wrth 32 troedfedd. Wedi cael y capel yn barod, rhoddwyd galwad i Mr. E. S. Hart, M.A., ac urddwyd ef Mehefin 29ain, 1850. Ni bu yma ond ychydig canys symudodd i St. Ives yn Ebrill, 1851. Wedi bod am dymor yn dibynu ar weinidogion cylchynol, rhoddwyd galwad i Mr. David Davies, B. A., o athrofa Caerfyrddin, a dechreuodd ei weinidogaeth yma yn mis Medi, 1853. Bu yr achos yn dra blodeuog yn y tymor hwn. Talwyd 400p. o ddyled oedd yn aros ar y capel, a gwisgai pob peth agwedd lwyddianus, ond yn Awst, 1856, ymadawodd Mr. Davies oddiyma i Therfield, Herts, lle y mae etto. Rhoddwyd galwad yn ddioed i Mr. Benjamin B. Williams, B.A., myfyriwr o athrofa Aberhonddu. Dechreuodd ei weinidogaeth yma Hydref, 1856, a bu yma hyd fis Mai, 1858, pryd yr ymadawodd i fyned i Pembroke Dock. Yn mhen y flwyddyn wedi ymadawiad Mr. Williams, rhoddwyd galwad i Mr. John Evans, B.A., myfyriwr. o athrofa Aberhonddu, a dechreuodd ei weinidogaeth yma yn Gorphenaf, 1859, a bu yma hyd Ebrill, 1864, pryd yr ymadawodd i Milford. Yn Mawrth, 1865, daeth Mr. David S. Jones yma, yr hwn a fuasai yn weinidog yn Hope Chapel, Aberteifi, a bu yma hyd nes yr ymadawodd i'r America yn Ebrill, 1869. Cyn diwedd y flwyddyn hono, rhoddwyd galwad i Mr. Thomas P. Lyke, myfyriwr o athrofa Aberhonddu. Dechreuodd ei weinidogaeth yma yn Rhagfyr, 1869, ond o herwydd gwaeledd ei iechyd bu raid iddo roddi y weinidogaeth i fyny yn Gorphenaf y flwyddyn ganlynol. Yn Ionawr, 1871, dechreuodd Mr. J. L. Phillips-yr hwn a urddwyd yn weinidog ar yr eglwys yn Nhredegar-ei weinidogaeth yma; ac y mae yn parhau yn y lle hyd yn bresenol, a'r achos yn myned rhagddo yn llwyddianus. Yn ystod y flwyddyn hon y mae y capel wedi myned dan gyfnewidiadau trwy ei ad-drefnu a rhoddi oriel ynddo, ac aeth y draul yn fwy na 260p., ond nid oes yn aros ond 80p. o'r ddyled heb ei thalu.[1] Gwelir fod yr achos wedi myned trwy lawer o gyfnewidiadau yn ystod yr ychydig gydag ugain mlynedd er y sefydlwyd ef; ond y mae yma rai wedi bod yn ffyddlon iddo trwy yr amgylchiadau; ac yn ol yr argoelion presenol y mae dyddiau gwell yn aros yr achos yn y lle.

  1. Llythyr Mr. J. Mathews.