Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/156

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CWMLLYNFELL.

Saif yr addoldy hwn yn mhlwyf Llanguwg, Morganwg, ond o fewn ychydig latheni i derfyn plwyf Llangadog, sir Gaerfyrddin, ac yn dra agos hefyd i blwyf Ystradgynlais, yn sir Frycheiniog. Mae yn dra sicr i'r achos yn y lle hwn gael ei ddechreu yn foreu yn amser yr Anghydffurfwyr, ond yr ydym wedi methu dyfod o hyd i amser ei ddechreuad, nac enwau neb o'i gychwynwyr. "Tybir mai un o'r enw Phillips oedd y gweinidog cyntaf yn Nghwmllynfell, ac iddo gael ei ganlyn gan John Llewellyn, a Llewellyn Bevan."[1] Ni ddigwyddodd i ni daro with enwau Mr. Phillips na Mr. John Llewellyn mewn unrhyw gofnodiad argraffedig nac ysgrifenedig, ond yn unig yn llawysgrif Mr. Pryse, ond y mae enw Llewellyn Bevan i'w gyfarfod yn aml mewn hen lawysgrifau. Yr oedd ef yn weinidog yn Nghwmllynfell, y Gellionen, a Gwynfe, yn 1715, ac o bosibl amryw flynyddau cyn hyny. Yr oedd y tair cynnulleidfa hyn, mae yn debyg o'r dechreuad, dan yr un weinidogaeth, ac yn 1715, yr oeddynt yn nghyd yn chwech chant o rif, a'r aelodau yn meddu naw-ar-hugain o bleidleisiau dros siroedd Morganwg, Caerfyrddin, a Brycheiniog. Yr ydym yn anhysbys o amser marwolaeth Llewellyn Bevan, ond yr oedd Roger Howell yn gydweinidog ag ef yn 1715, a pharhaodd i weinidogaethu yma hyd ei farwolaeth yn 1742. Mae yn debygol i Joseph Simmons gael ei urddo yma yn gydweinidog a Roger Howell tuag amser marwolaeth Llewellyn Bevan, a pharhaodd ef i wasanaethu i'r eglwys hon a'r Gellionen, hyd nes iddo gymeryd gofal yr eglwys yn Maesyrhaf, Castellnedd, tua'r flwyddyn 1751. Nid ydym yn deall fod un gweinidog sefydlog wedi bod yma ar ol ei ymadawiad ef nes i William Evans gael ei urddo yn Nghastellnedd fel gweinidog cynorthwyol yn 1754. Yr oedd ef yn gwasanaethu yr eglwysi yn Rhydymardy a'r Cwmmawr ddau Sabboth o bob mis, a'r Brychgoed am un Sabboth o'r mis am rai blynyddau, a thebyg mai ei fam-eglwys yn Nghwmllynfell oedd yn cael ei wasanaeth ar y Sabboth arall. Bu Mr. Evan Williams, o'r Brychgoed, a Mr. Lewis Rees, Mynyddbach, yn rhoddi rhan o'u gweinidogaeth i bobl Cwmllynfell rhwng 1757 a 1769, ond mae yn debygol mai fel cynorthwy wyr i Mr. William Evans yr oeddynt hwy yn ymweled a'r lle, oblegid yr oedd y cynnulleidfaoedd yn Nghwmtawy, Cwmaman, a'r Alltwen dan ei ofal ef, yn gystal a Chwmllynfell, Rhydymardy, a'r Cwmmawr. Er dirfawr golled i'r eglwys, a'r wlad yn gyffredinol, bu farw y gweinidog gweithgar hwn yn beduir-ar-ddeg-a-deugain oed, yn 1770. Dywedir iddo ar ei wely angau gynghori pobl Cwmllynfell, yr Alltwen, a Chwmaman, i roddi galwad i Mr. John Davies, Pentre-tŷ-gwyn, i fod yn ganlyniedydd iddo ef, yr hyn a wnaethant. Dechreuodd Mr. Davies ei weinidogaeth yma yn 1771, a pharhaodd i lafurio yma gyda pharch a dylanwad mawr hyd 1821, pryd y bu farw mewn henaint teg. Yn fua wedi marwolaeth Mr. Davies, rhoddodd yr eglwysi yn Nghwmllynfell Chwmaman alwad i Mr. John Rowlands, Llanybri, a bu yntau yma yn barchus a rhyfeddol o boblogaidd hyd ei farwolaeth ddisymwth yn Mai 1834. Ar ol bod tua blwyddyn heb un gweinidog sefydlog, rhoddodd eglwys Cwmllynfell alwad i Mr. Rhys Pryse, Llanwityd, ac urddwyd e Awst 19eg a'r 20ted, 1835. Ar yr achlysur traddodwyd y gynaraeth gai

  1. Llawysgrif Mr. R. Pryse.