Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/157

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mr. D. Evans, Cwmwysg; holwyd y gofyniadau gan Mr. W. Davies, Llanymddyfri; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. H. Herbert, Drefnewydd ; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. D. Williams, Llanwrtyd, ac i'r eglwys gan Mr. P. Griffiths, Alltwen.[1] Bu yn enwog a llwyddianus iawn yma hyd derfyn ei oes. Yn fuan ar ol ei sefydliad ef yn Nghwmllynfell adeiladwyd capel a chorpholwyd eglwys yn Mrynaman, yr hon sydd er's llawer o flynyddoedd bellach yn eglwys gref a blodeuog iawn. År farwolaeth Mr. Pryse, rhanwyd cylch ei weinidogaeth a chymerodd pob un o'r eglwysi weinidogion iddynt eu hunain. Rhoddodd eglwys Cwmllynfell alwad i Mr. John Rees, myfyriwr yn athrofa y Bala, ac urddwyd ef yma Medi 28ain a'r 29ain, 1870. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. W. E. Evans, Capel Seion; gofynwyd yr holiadau arferol gan Mr. W. Williams, Hirwaun; gweddiodd Mr. P. Griffiths, Alltwen, am fendith ar yr undeb; rhoddwyd siars i'r gweinidog gan Mr. J. Peter, Bala, ac i'r eglwys gan Dr. T. Rees, Abertawy.[2] Efe yw y gweinidog yn bresenol. Yr ydym yn hyderu y pery yntau, fel ei ragflaenoriaid enwog, i lafurio yn dderbyniol a llwyddianus yma hyd derfyn ei yrfa. Nid oes genym hanes fod neb, ond Mr. Joseph Simmons, o weinidogion yr eglwys hon wedi ei gadael nes iddynt gael eu lluddias gan farwolaeth i barhau.

Nid ydym wedi gallu dyfod o hyd i amseriad adeiladiad y capel cyntaf. Adeiladwyd yr ail gapel yn 1814, a chafodd ei adgyweirio a'i ad-drefnu yn 1823. Yn 1860, tynwyd yr hen gapel i lawr ac adeiladwyd yr un helaeth presenol. Yn yr un flwyddyn hefyd, adeiladwyd tŷ helaeth yn Nghwmtwrch, yr hwn a elwir y Temperance Hall, lle y cedwir Ysgol Sabbothol, cyfeillachau crefyddol, cyfarfodydd gweddio, a phregethu achlysurol.

Gellir ystyried yr holl eglwysi Annibynol a Methodistaidd o Flaen-glyntawy i Gwmaman, ac o Odrerhos a Phontardawy i Frynaman, fel canghenau uniongyrchol neu anuniongyrchol o'r hen fam-eglwys yn Nghwmllynfell, ac er yr holl ganghenau a aethant allan o honi, mae yr hen eglwys yn awr yn gryfach a lluosocach nag y bu erioed. Un cylch gweinidogaethol, os nad un eglwys y cyfrifid Cwmllynfell a'r Gellionen hyd tua y flwyddyn 1767, pryd yr ymsefydlodd Mr. Josiah Rees yn y Gellionen, ac yr aeth y gynnulleidfa hono i gael ei chyfrif yn Arminaidd, ac o radd i radd aeth yn Ariaidd, ac er's mwy na thriugain mlynedd bellach yn hollol Undodaidd. Pan oedd y cynnulleidfaoedd yn y Gellionen a Chwmllynfell dan yr un weinidogaeth yr oedd ganddynt gapel bychan yn Fforchegel, ar fin y mynydd, tua haner y ffordd rhwng y ddau le. Cafodd amryw eu claddu yno. Wedi ymraniad y ddwy gynnulleidfa, aeth y capel yn Fforchegel yn ddiddefnydd, gan nad yw yn debygol y gallasent mwyach gyduno i'w gyd-ddefnyddio yn lle addoliad ar brydnawn Sabbothau, fel y gwnelent gynt. Nid oes yn awr yn Fforchegel unrhyw olion o'r hen addoldy, ond ychydig ddarnau drylliedig o'r hen fedd-feini; ond y mae capel Carmel, Rhydyfro, a'r Gwryd yn mwy na llenwi lle yr hen fan gysegredig hwnw.

Mae yn ddiameu fod llawer iawn o bregethwyr wedi cyfodi yn yr hen eglwys hon o oes i oes, ond yr ydym wedi methu a dyfod o hyd i enwau nemawr o'r rhai a gyfodwyd yma yn nhymor boreuaf yr achos. Mae yn dra thebyg mai aelodau gwreiddiol o'r eglwys hon oedd Llewellyn Bevan, a Roger Howell, y rhai a fuont am flynyddau yn weinidogion yma, ac y

  1. Diwygiwr, 1836. Tu dal. 275. CYF. II.
  2. Tyst Cymreig, Hydref 7fed, 1870.