Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/158

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mae yn sicr mae yma y cyfo dwyd William Evans. Daw pob un o honynt hwy dan sylw etto.

Evan Williams, brawd William Evans, y gweinidog, yw y pregethwr cyntaf a godwyd yma ag y mae genym ni hanes am dano, heblaw y rhai fuont yn weinidogion yn y lle. Ganwyd ef yn Abercraf, yn mhlwyf Ystradgynlais, Ionawr 6ed, 1719. Yr oedd ei dad a'i fam yn aelodau ffyddlon o'r eglwys yn Nghwmllynfell, a'i fam yn un o hiliogaeth sylfaenwyr yr achos yn y lle. Dechreuodd deimlo dylanwad crefyddol ar ei feddwl yn ieuange, a than bregeth Mr. Lewis Jones, Penybont-ar-ogwy, torwyd pob dadl yn ei fynwes, a phenderfynodd roddi ei hun i'r Arglwydd ac i'w bobl. Derbyniwyd ef yn aelod yn Nghwmllynfell gan Mr. Roger Howell tua'r flwyddyn 1739. Yn fuan ar ol ei dderbyniad daeth gwresogrwydd ei ysbryd a'i weithgarwch crefyddol i'r amlwg, fel y daeth yn wr ieuange mwy cyhoeddus a defnyddiol na'r cyffredinolrwydd o'i gyfoedion. Gan fod y Methodistiaid, y rhai oeddynt yn awr yn dechreu cyffroi y wlad a thynu sylw, yn fwy cydweddol yn eu dull o ddwyn crefydd yn mlaen a'i ysbryd gwresog ef na Mr. Howell, a'i bobl, efe a ymunodd a'r bobl hyny. Yn mhen ychydig amser wedi iddo ymuno a'r Methodistiaid, aeth i ogledd Cymru yn athraw ysgol dan Mr. Griffith Jones, Llanddowror. Mawrth 4ydd, 1742, agorodd ysgol yn Lleyn, sir Gaernarfon, ond cymaint oedd yr ysbryd erledigaethus yn y parth hwnw o'r wlad fel na oddefwyd iddo gadw ei ysgol ond am ddau ddiwrnod yn unig. Yn hwyr yr ail ddydd daeth dau ddyn ffyrnig i'w letty i holi pa beth oedd a fynai ef a dyfod i'r ardal, gan ddyweyd nad oedd arnynt hwy ddim o'i eisieu ef, ei ysgol, na'i lyfrau, fod y Bibl a'r Llyfr Gweddi Cyffredin yn ddigon i'w cyfarwyddo hwy i'r nefoedd. Mynent iddo fyned allan o'r tŷ, i'r dyben o'i guro, fel y bernid, ond gwrthododd fyned, ac aethant hwythau ymaith rhyw bryd cyn haner nos. Bore dranoeth, sef y Sabboth, aeth Mr. Williams i eglwys y plwyf, lle y traddododd y person bregeth chwerw yn ei erbyn ef, yr Ymneillduwyr, a'r Methodistiaid. Ar ddiwedd y gwasanaeth aeth Mr. Williams allan, ond cyn gynted ag yr aeth y tu allan i furiau y tir cysegredig diosgodd un o ffyddlon ganlynwyr y person ei ddillad a dechreuodd guro y gwr ieuange yn ddidrugaredd. Wrth ei guro archollodd ei ben yn dost. Edrychai y lleill o wrandawyr y person a chwarddant wrth weled y diniwed yn cael ei guro gyda'r fath greulondeb. Pan flinodd ei elyn ei guro, aeth ef tua ei letty dan ei glwyfau. Tua haner nos y noswaith hono daeth rhai cyfeillion crefyddol i'w letty i'w hysbysu fod ei erlidwyr yn bwriadu dyfod yno bore dranoeth i'w ddal, ac anogasant ef i fyned gyda hwy i le o ddiogelwch. Aethant ag ef i'r Tyddynmawr. Dranoeth ymgasglodd tua deg-ar-hugain o erlidwyr wedi eu harfogi a drylliau, ffyn, a chwn, fel pe buasent yn myned i ddal bwystfil rheibus; a'r ol chwilio yn ofer am dano trwy y dydd, aethant i le a elwid Bodfeiliog, yn agos i'r Tyddynmawr, i fwyta ac yfed, yna aethant drachefa o dŷ i dŷ i chwilio am eu hysglyfaeth, ac yn mysg manau eraill aethant i'r Tyddynmawr. Erbyn eu bod yno yr oedd y teulu wedi perswadio Mr. Williams i ymguddio mewn cwpwrdd. Ar ol chwilio yr holl dŷ, rhoddodd un o honynt droediad i'r cwpwrdd yn yr hwn y llechai, gan ddywedyd, "Dichon ei fod yma." "Ÿ ffwl," ebai un o honynt, "Pa beth a wnelai mewn lle fel yna," ffwrdd yr aethant i ryw le arall. Wedi iddynt ymadael ymgynghorodd ef a'r teulu, a phenderfynwyd mai gwell fuasai iddo ddychwelyd i'r Deheudir, ac felly y gwnaeth. Cychwynodd tua haner nos. Bu mewn enbyd-