Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/159

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rwydd mawr dranoeth. Bu dynion yn rhedeg ar ei ol i geisio ei ddal, ac yntau er diange rhagddynt a redodd trwy afon yn agos i Bwllheli, lle y bu agos a boddi o herwydd fod llanw y mor i mewn yn lled uchel ar y pryd. Wedi croesi yr afon cerddodd am amryw filldiroedd yn ei ddillad gwlybion. Cafodd rhyw fath o letty y noson hono rhwng Pwllheli a Phorthmadog; a gwisgodd ei ddillad gwlybion bore dranoeth, ac ymaith yr aeth tua ei fro ei hun. Effeithiodd y driniaeth greulon hono ar ei iechyd am weddill ei oes, a bu yn achos o'i farwolaeth.

Wedi dychwelyd adref ymunodd drachefn a'r Ymneillduwyr yn 1743, a chafodd ei dderbyn yn fyfyriwr i athrofa Caerfyrddin yn 1745. Tra y bu yno byddai galwadau beunyddiol arno i bregethu, ac yr oedd effeithiau bendithiol yn dilyn ei bregethau yn mhob man. Yn 1747, ymwelodd drachefn a'r Gogledd a bu yn pregethu yn sir Gaernarfon hyd y Nadolig y flwyddyn hono, pryd y dychwelodd i'r athrofa i Gaerfyrddin. Ar y 13eg o Awst, 1748, cymerwyd ef yn glaf a bu farw wedi chwe' diwrnod o gystudd. Claddwyd ef wrth gapel Heol Awst, Caerfyrddin. Buasai Evan Williams yn debyg o ddyfod yn un o'r gweinidogion mwyaf enwog a defnyddiol yn Nghymru pe cawsai fywyd ac iechyd, ond ewyllys yr Anfeidrol ddoeth oedd ei gymeryd ato ei hun gyda bod ei werth a'i ddefnyddioldeb yn dechreu ymddangos.

Morgan Jones. Dechreuodd bregethu yn y flwyddyn 1770, a derbyniwyd ef i athrofa Abergavenny. Daw ef etto dan ein sylw yn nglyn a hanes yr eglwys yn Llangattwg, Crughowell, lle yr urddwyd ef. Thomas Davies. Nai Mr. John Davies, y gweinidog. Cawn etto achlysur i son am dano ef yn hanes Bethania, Llanon, a'r Cymer, Morganwg, lle y bu farw.

William Jones, Llwynhen. Bu ef yn weinidog am flynyddau yn St. Ives, Cornwell, lle y bu farw amryw flynyddau yn ol.

Daniel Morgan. Dywedir mai gyda'r Saeson y bu yntau yn gweinidogaethu, ond nis gwyddom yn mha le.

Evan B. Evans, o Hyde Parke, America.

Evan Watkins, yn awr o Langattwg, Crughowell.

Daniel Rees, yr hwn ar ol bod yma am flynyddau yn bregethwr cynorthwyol derbyniol, a ymfudodd i'r America. Urddwyd ef yno yn Beavers Meadow, ac yno y bu farw.

John Morgan Thomas, gynt o Glynnedd, ond yn awr o America.

William Thomas, gweinidog yr eglwysi yn Bethel a Zoar, gerllaw yr Hendygwyn-ar-daf.

Moses Rees. Bu yn athrofa Aberhonddu, ac y mae yn awr yn ysgolfeistr gerllaw Llundain.

John Gwrhyd Lewis. Mae yn bresenol yn fyfyriwr yn athrofa Caerfyrddin.

Morgan Hopkin. Mae yntau yn fyfyriwr yn Nghaerfyrddin.

John Williams. Mewn ysgol ragbarotoawl yn Nghaerdydd y mae ef. William J. Gwilym. Gwr ieuangc sydd wedi dechreu pregethu yn ddiweddar.

Mae lluaws o aelodau yr eglwys hon yn deilwng o'u coff hau ar gyfrif eu rhagoriaeth fel crefyddwyr, ond ni oddefa ein terfynau i ni enwi ond ychydig o honynt. Yr oedd Mr. John Jones, Brynbrain, tad-yn-nghyfraith Mr. Rowlands a Mr. Pryse, yn un o ragorolion y ddaear. Yr oedd yn grefyddwr rhagorol, ac yn ddefnyddiol, haelionus, a digyffelyb o ddylan-