Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/160

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

wadol. Bu o dŷ yn agored i weision Crist o bell ag agos am fwy na haner canrif. Bu ef farw tua phymtheng-mlynedd-ar-hugain yn ol. Yn ddiweddar y claddwyd ei weddw rhagorol, pryd yr oedd yn agos i gan' mlwydd oed. Yr oedd Ezeciel, Daniel, a Benjamin Evans, meibion yr hen weinidog, William Evans, yn ddynion nodedig yn eu hoes fel crefyddwyr. Nid yn fuan yr anghofir enwau Edward William, Glyncynwelisaf; Richard Bowen, Dorwen; Owen Bowen, Penywern; Sion Gwilym, Thomas William, Cwmtwrch; Dafydd William, Ddolgam; Dafydd Sion Lewis, William J. Thomas, Felinfach; Dafydd Isaac, Y Dderi; John Harries, Coedffalde; Griffith T. Williams, a Lewis Rowlands. Rhagorai rhai o'r gwyr hyn yn eu doniau fel gweddiwyr, eraill yn eu medr i drafod achosfon eglwysig, ac eraill fel blaenoriaid y gân; ac y mae pob sail i gredu eu bod oll heddyw yn nghymanfa a chynnulleidfa y rhai cyntafanedig.

Mae eglwys Cwmllynfell nid yn unig wedi gofalu am gynal gweinidog aeth efengylaidd yn yr ardal am fwy na dau gant o flynyddau, ond y mae hefyd er's llawer o flynyddau wedi gofalu am ysgol ddyddiol i blant y gymydogaeth. Adeiladwyd ysgoldy yn ymyl y capel yn 1804, a chafodd ei helaethu wedi hyny ddwy waith. Mae yn bresenol yn ysgoldy eang a chyfleus, ac ysgol effeithiol yn cael ei chynal ynddo.*

COFNODION BYWGRAPHYDDOL.

LLEWELLYN BEVAN. Nid oes genym ond y peth nesaf i ddim o hanes am dano ef. Bernir mai un genedigol o'r ardal yma ydoedd, a bod ei dad, John Llewellyn, yn weinidog yma o'i flaen. Yn Ystradowen, yn agos i'r capel, yr oedd yn cyfaneddu. Mae yn dra thebyg ei fod wedi dechreu ei weinidogaeth yma cyn y flwyddyn 1700. Nis gwyddom pa bryd y bu farw. Bu farw ei wraig yn 1724, a chladdwyd hi wrth gapel Fforchegel. Yr oedd ei chareg fedd i'w gweled yno ychydig flynyddau yn ol, ar cofnodiad canlynol arni:-"Yma y gorwedd corph Mary John, gwraig Llewellyn Bevan, o Ystradowen, gweinidog efengyl Iesu Grist, yr hon a ymadawodd a'r bywyd hwn ar y 24ain dydd o'r XI mis, yn y flwyddyn 1724, yn 63 mlwydd oed." Mae yn debyg iddo yntau farw cyn pen llawer o flynyddau ar ol ei briod, ond nis gwyddom yr amser na pha le y claddwyd ef.

ROGER HOWELL. Dywedir mai un genedigol o'r gymydogaeth hon oedd yntau. Mae amser ei enedigaeth yn anhysbys i ni. Gof ydoedd wrth ei alwedigaeth, a pharhaodd i ddilyn yr alwedigaeth hono hyd derfyn ei oes. Mae yn debyg iddo gael ei urddo yn gynorthwywr i Mr. Llewellyn Bevan ryw gymaint o amser cyn marwolaeth y gwr hwnw. Bu yntau farw yn 1742. Yr ydym yn casglu oddiwrth ei lawysgrifen ei fod yn ysgolhaig da. Dywedir ei fod yn ddyn nodedig ei gof. Mewn cyfarfod gweinidogion yn Llanedi gofynodd un ar giniawu i'r gweinidogion, a wyddai un o honynt pa le yr oedd Mynegair Ysgrythyrol ar werth. Atebodd rhyw un "Yr

Yr ydym yn ddyledus am lawer o'r ffeithiau uchod i'r hen batriarch ffyddlon John Herbert, yr hwn sydd yn aelod yn y lle er's wyth-mlynedd-a-deugain, ac yn swyddwr er's deuddeg-ar-hugain. Er ei fod yn agos i bedwar ugain oed, y mae yn hynod o fywiog mewn corph a meddwl. Ni ddylem hefyd anghofio cydnabod ein rhwymau i'n cyfaill llafurus Mr. John Jones, ysgrifenydd yr eglwys; dyn cymharol ieuange, ond yn ymdrechgar rhyfeddol gyda'r achos goreu, er yn cael ei analluogi y fawr gan gystudd.

wyf fi yn gwybod pale y mae Mynegain Ysgrythyról, ond nid_wyf yn gwybod a ydyw ar werth, Roger Howell, Llanguwg ydyw. Y mae yr holl Fibl ganddo ar ei gof." Dywed Mr. Edmund Jones, Pontypool, nad oedd neb a'i hadwaenai yn ameu nad oedd Mr. Roger Howell yn ddyn gwir dduwiol, a'i fod yn hynod ddefosiynol yn ei deulu ac yn yr eglwys, ond fod rhai yn barnu ei fod yn gogwyddo at Arminiaeth, neu yn hytrach at olygiadau Baxter. Gorwyr iddo ef oedd y diweddar Mr. Roger Howell, Baran.

JOSEPH SIMMONS.

Մ

Gweler hanes Maesyrhaf, Castellnedd. WILLIAM EVANS. Ganwyd ef yn Abercraf, yn mhlwyf Ystradgynlais, yn y flwyddyn 1716. Pan yn ddeunaw mlwydd oed derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn Nghwmllynfell. Nis gwyddom pa bryd y dechreuodd bregethu. Cafodd ef a Mr. Thomas Davies, o'r Fagwyr, Llangafelach, eu hurddo yr un diwrnod yn y Chwarelaubach, Castellnedd, mae yn debygol fel gweinidogion cynorthwyol yn holl eglwysi y gymydogaeth, yn 1754. Yn fuan wedi hyny cafodd Mr. Davies alwad i Lanybri, a chymerodd Mr. Evans ofal yr eglwysi yn Rhydymardy a'r Cwmmawr. Byddai yn rhoddi ei lafur am ddau Sabboth o bob mis yn y lleoedd hyny, ac am y ddau Sabboth arall yn Brychgoed a Blaenglyntawy. Yn mhen rhyw gymaint o amser rhoddodd y Brychgoed a Glyntawy i fyny, a chymerodd ofal ei fam-eglwys yn Nghwmilynfell, mewn cysylltiad a'r Cwmmawr a Rhydy. mardy. Adfywiodd yr achos yn rhyfeddol yn Nghwmllynfell yn y tymor byr y bu yr eglwys dan ei ofal ef. Trwy ei lafur ef y sefydlwyd yr eglwysi yn yr Alltwen a Chwmaman. Bu farw yn nghanol ei ddyddiau a'i ddefnyddioldeb yn 1770, pryd yr oedd yn bedair-ar-ddeg-a-deugain oed. Dywed Edmund Jones fod William Evans yn ddyn nodedig o ragorol a selog dros athrawiaeth grass Yr oedd yn ysgolhaig da, ac yn weinidog rhyfeddol o weithgar a llwyddianus. Bu yn briod ddwywaith. Cafodd un mab o'i wraig gyntaf, a deg o feibion a merched o'r ail Bu saith o'i blant fyw i henaint teg, ac yr oeddynt oll yn ddynion nodedig o ragorol fel crefyddwyr. Gorwyr iddo ef yw Mr. Daniel Evans, gweinidog presenol Nazareth, sir Gaerfyrddin. Yn mhlwyf Llanguwg y bu yn byw trwy ei oes, ac wrth eglwys y plwyf hwnw y claddwyd ef.

JOHN DAVIES. Rhoddir eis gofiant ef yn nglyn a hanes yr Alltwen, gan mai wrth yr enw "Davies, Alltwen," yr adnabyddid ef yn gyffredin. JOHN ROWLANDS. Ganwyd ef yn agos i'r Ystrad, yn y rhan uchaf ó sir Aberteifi, yn 1792. Yr oedd ei rieni yn bobl grefyddol, ac yn aelodau gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Llangeitho. Hysbysir ni ei fod yn berthynas o ochr ei dad i'r enwog Daniel Rowlands Tueddwyd John Rowlands pan yn ieuange i fyned i wrando Dr. Phillips yn y Neuaddlwyd, a derbyniwyd ef yn gyflawn aelod yno pan yn 15 oed. Tynodd yn fuan sylw yr eglwys ar gyfrif ei gynydd mewn gwybodaeth a'i ddoniau mewn gweddi, fel yr anogwyd ef, cyn hir, i ddechreu pregethu; a rhoddodd brawf yn fuan ei fod wedi ei alw i'r gwaith nid gan ddynion yn unig ond gan Dduw hefyd. Wedi bod am dymor dan addysg ei hybarch weinidog yn y Neuaddlwyd, derbyniwyd ef i athrofa Caerfyrddin, lle y treuliodd allan y tymor rheolaidd. Gwnaeth gynydd cyflym mewn gwybodaeth gyffredinol, a phrofodd ei fod yn meddu ar alluoedd meddyliol cryfion Edrychid i fyny ato gan ei gydefrydwyr, fel un o feddwl uwchraddol, ao ystyrid ef ganddynt ar gyfrif ei synwyr cyffredin cryf yn gyfarwyddwr pwyllog a diogel, ao yr oedd ei ffyddlondeb y fath fel yr oedd ganddynt oll ymddiried

[ocr errors] ynddo. Derbyniodd alwad gan yr eglwys a gyfarfyddai yn y capel newydd Llanybri, yr hon oedd newydd gael ei ffurfio mewn canlyniad i ymraniad a gymerasai le yn yr hen gapel; ac urddwyd ef yr un adeg ag yr agorwyd y capel. newydd, rywbryd yn y flwyddyn 1816. Bu yno yn dderbyniol a llwyddianus iawn am chwe' blynedd; ac yr oedd ei bwyll a'i dynerwch yn ei wneyd yn un cymhwys iawn i'r lle yn yr adeg hono pan yr oedd teimladau briwedig rhwng pleidiau ar gyfrif yr ymraniad a gymerasai le. Yn y flwyddyn 1822, derbyniodd alwad o Gwmllynfell a Chwmaman, a symudodd yno, lle y bu yn barchus a chymeradwy hyd derfyn ei oes. Priododd yn 1828 a Miss Jane Jones, merch Mr. Jones, Brynbrain, un o ddiaconiaid mwyaf parchus yr eglwys yn Nghwmllynfell, a dedwydd iawn a fu yr undeb a ffurfiwyd hyd nes y gwahanwyd hwy gan angau. Yr oedd Mr. Rowlands ar ol ei symudiad i Gwmllynfell wedi dyfod i faes eang lle yr oedd cyflawnder o gyfleusderau iddo i ddadblygu ei ddoniau fel pregethwr, a'i ysbryd cyhoeddus fel gweinidog.

Yr oedd Mr. Rowlands yn ddyn o faintioli cyffredin, ac yn meddu corph cryf cymhwys i fyned trwy lawer o waith, a dal tywydd garw ac ystormydd wrth fyned dros waunydd noethion, a mynyddeedd uchel. Yr oedd ei olwg yn serchog ac ennillgar-ei dymer yn hynaws a digyffro-a'i gyfarchiad yn wastad yn hawddgar a serchog, er y medrai os byddai angen ddyweyd geiriau a gyrhaeddai i'r asgwrn. Nid oedd yn bosibl fod dyn tynerach ei deimladau, a chyrchai pregethwyr ieuaingc ato am gynghor a chyfarwyddid fel at eu tad. Cymerai drafferth i'w hyfforddi a'u haddysgu, ond os gwelai ambell un yn llawn ymchwydd a balchder nid hir y byddai cyn dwyn y cyfryw i adnabod ei hun, a gwnai hyny yn y dull esmwythaf a mwyaf didramgwydd. Nid â ei garedigrwydd a'i dynerwch yn anghof gan y rhai a fu yn aros dan ei gronlwyd; ac ar unrhyw gyfrif ni throai yr ieuange o'r neilldu er anrhydeddu y gwr mawr. Digwyddodd unwaith fod pregethwr ieuange iawn o gymydogaeth wledig heb fod yn mhell oddi wrtho wedi anfon ei gyhoeddiad i bregethu ar un noson i Gwmaman, ond yn ddiarwybod i'r llange yr oedd cyhoeddiad Meistri Michael Jones, Llanuwchllyn, a W. Williams, o'r Wern, i fod yn Nghwmaman y noson hono. Yr oedd Mr. & Mrs. Rowlands wedi dyfod yno gyda'r bwriad o fyned a'r ddau ŵr enwog o'r Gogledd gydag ef adref, ac meddai wrth y gwr ieuangc, "Well i tithau dd'od hefyd-ti leici fod gyda nhw mi wn.' Un o gant a feddyliasai am wahodd bachgenyn ieuangc tlawd felly, pan yr oedd ganddo y fath wyr enwog i'w croesawi. Yr oedd wedi darllen llawer yn enwedig ar byngciau duwinyddol ac Ysgrythyrol, ac yr oedd ei gof bron yn ddihysbydd, ac nid oedd dim yn myned i golli o hono unwaith y deuai i mewn iddo. Yr oedd yn gwybod cynwys yr holl lyfrau a ddarllenasai, a medrai adrodd darnau cyfain o waith gwahanol awduron, a hyny heb ymddangos ei fod mewn un modd yn trethu ei gof wrth wneyd hyny. Darllenodd weithiau Jonathan Edwards, ac Edward Williams, ac Andrew Fuller; ac yr oedd yn deall yn glir yr olwg a gymerent ar drefn yr efengyl, ond yr oedd yn nodedig o ochelgar wrth draethu golygiadau felly, a phan y traethai hwy gwnai hyny yn ei eiriau a'i dermau ei hun, a hyny gyda'r fath wres a hyawdledd fel na ddrwgdybid ef gan y Calfin uchaf, o fod mewn un modd yn ymylu ar yr hyn a elwid yn "System newydd." Yr oedd ei bregethau yn cynwys casgliad trefnus o'r drychfeddyliau prydferthaf yn cael eu traddodi gyda chyflymdra didor, mewn iaith gref, fywiog, gynhyrfus; a'i ysbryd ei hun yn llawn o dan yr efengyl. Anaml y

[ocr errors] gwelwyd pregethwr ac ynddo gydgyfarfyddiad cyflawnach o'r elfenau gofynol i wneyd yr hyn a elwir yn bregethwr poblogaidd.

Ond ni bu ei dymor er hyny ond byr mewn cydmariaeth. Yn Mai, 1834, yr oedd cymanfa sir Forganwg yn Nghwmllynfell, ac yr oedd y cynnulliad yn un lluosog o bregethwyr a gwrandawyr, ac yr oedd Mr. Rowlands yno yn ei nerth a'i sirioldeb arferol. Dydd Mawrth ar ol y gymanfa yr oedd mewn cyfarfod eglwysig yn Nghwmaman, a phregethodd oddiar y geiriau "Gan brynu yr amser." Ychydig o bosibl a feddyliodd ef na neb o'i wrandawyr fod ei amser ef mor agos i'r terfyn, ond dyna y bregeth olaf iddo byth. Boreu dranoeth, sef Mai 28ain, aeth allan o'i dý yn ei iechyd arferol, tua naw o'r gloch, ac wedi ychydig fynudau o ynddiddan a'i frawd-yn-nghyfraith, i'r hwn yr ymddangosai yn iach a siriol, aeth rhagddo ar hyd y ffordd, a'r newydd cyntaf a gafwyd oedd ei fod wedi ei gael yn farw yn ochr y ffordd. Cariwyd ef i'w dŷ yn gorph cyn deg o'r gloch, a llanwyd yr holl wlad a galar oblegid iddo gael ei alw ymaith mor ddisymwth yn 42 oed. Y Sadwrn canlynol, sef Mai 31ain, 1834, cyfarfu tyrfa fawr yn Nghorsto i ddilyn ei weddillion marwol i'r "tý rhagderfynedig i bob dyn byw." Pregethwyd yn Nghorsto gan Meistri D. Jones, Gwynfe, D. Davies, Pantteg, ac wedi cyrhaedd Cwmllynfell, pregethwyd gan Meistri W. Jones, Penybont-ar-ogwy, a D. Davies, Sardis, a chladdwyd ef mewn bedd newydd yn mynwent newydd Cwmllynfell. Efe oedd y cyntaf a gladdwyd ynddi, ond y mae tyrfa fawr wedi eu rhoddi i orwedd ynddi ar ei ol.

RHYS PRYSE. Ganwyd ef mewn lle a elwir Penrhiw-llwyn-fynwent yn mhlwyf Llangammarch, sir Frycheiniog, yn niwedd y flwyddyn 1807. Pan nad oedd ef ond plentyn, symudodd ei rieni i le a elwid Caerhedynbach, gerllaw Glancledan, yn mhlwyf Llanwrtyd; ac yno bu farw ei dad, ac yn fuan symudodd ei fam weddw gyda'i thri phlentyn amddifad i got-tý bychan, syml yr olwg arno, o'r enw Pwllclai, mewn culbant neillduedig, heb fod yn mhell o lanau Irfon, ac o fewn rhyw bellder o haner milldir i bentref Llanwrtyd, neu Bontrhydyfferau, fel y gelwid ef gynt; ac yno y trigianodd hyd y dydd yr ymddangosodd efe i Israel yn ei gymeriad cyhoeddus fel pregethwr. Mae yr hen fwthyn diaddurn wedi ei chwalu i wneyd lle i'r ffordd haiarn sydd wedi ei hagor i fyned heibio, ond ymhyfryda rhai o'r hen frodorion etto, mewn dangos y fan y safai i'r rhai a ymwelent a'r lle. Dilynai ei frawd ac yntau y gelfyddyd o wehyddion, ac yr oeddynt yn barchus iawn gan eu holl gymydogion fel dynion gonest, heddychol, a diymyraeth. Dechreuodd ei frawd, Hugh Pryse, bregethu yn y flwyddyn 1824, a chyn hir aeth i athrofa y Drefnewydd, ac wedi bod yno am ysbaid, gwanychodd ei iechyd fel y bu raid iddo ddychwelyd i dŷ ei fam, a bu farw Gorphenaf 11eg, 1826. Er yr arferai Rhys Pryse wrando yr efengyl o'i febyd, yn benaf o dan weinidogaeth ei ewythyr, yr hybarch David Williams, Llanwrtyd; ac er fod ei fywyd cyffredin yn hollol ddiargyhoedd, etto nid oedd wedi ymuno a'r eglwys hyd ddychweliad ei frawd adref yn glaf. Un noson ychydig cyn i Hugh Pryse "huno yn yr Iesu," aeth ei fam at ochr ei wely, ar ol dychwelyd o'r gyfeillach grefyddol yn hen gapel Llanwrtyd, gan ofyn iddo, "A wyddost ti pwy ddaeth i'r seiet heno ?" "Na wn i," ebe yntau. "Rhysun dy frawd," ebai hithau. Yr oedd ar y pryd cyn waned fel mai prin v medrai symud, ond effeithiodd y newydd da mor fawr arno, fel y cyfododd yn ei eistedd, a chan guro ei ddwylaw teneuon yn nghyd mewn gorfoledd, bloeddiodd

allamfel y medeni, Bendigedig fyddo Duw--Diolch iddo." Ymddangosai yn dawelach i farw ar ol clywed fod ei unig frawd wedi bwrw ei goelbren gyda phobl Dduw. Yr oedd y ddau yn gyfeillion mawr, a chan eu bod yn byw yn neillduedig o gymdeithas y byd, ac yn ymhyfrydu mewn pethau gwahanol i'r rhan fwyaf o'u cymydogion, ymglymai eu serchiadau yn gryfach y naill at y llall. Yr oedd athrylith gelfyddydol yn wreiddiol yn y ddau, a rhoddasant brawf o hyny pan nad oeddynt ond plant. Er nad oedd Pwllolai ond bwthyn bychan diaddurn, etto yr oedd yn lanwaith a thaclus, ac yn llawn o holl angenrheidiau bywyd, ac yr oedd diwydrwydd a chynildeb y llangbiau wedi cyfodi y teulu uwchlaw angen. Gan ei fod o dueddfryd ddistawa diymyraeth, ychydig a ymgymysgai Rhys Pryse a neb o'r eglwys hyd yn nod ar ol ei dderbyniad yn aelod. Wrtho ei hun y byddai fynychaf yn myned i ac yn dychwelyd o'r capel; a theimlai ei fod yn cael mwy o adeiladaeth pan wrtho ei hun i edrych ar weithredoedd rhyfeddol yr Anfeidrol, neu i adfyfyrio ar yr hyn a wrandawsai yn y capel, nac a gawsai oddiwrth ymddiddanion y rhan fwyaf o'i gydgrefyddwyr. Ychydig a wyddai ei gymydogion am dano, yn ychwaneg nag yr ystyrid ef yn un hynod, ac yn wastad ar ei ben ei hun. Yn mhen amser wedi ei dderbyn yn aelod, ceisiwyd ganddo fyned i weddi mewn cyfarfod gweddio a gynhelid mewn tŷ anedd yn y gymydogaeth. Cydsyniodd yn ddinacad, a gweddiodd yn y fath fodd nes synu y gwyddfodolion at gyflawnder a phriodoldeb ei ymadroddion, a thaerineb ei erfyniau, ac yr oedd pawb wrth ddychwelyd yn barod i ofyn, "Beth a fydd y bachgen hwn ?" ac nid oedd petrusder yn meddwl neb nad oedd pregethwr mawr wedi codi yn eu plith. Cymhellid ef yn daer ar ol hyn i feddwl am bregethu, ond nid oedd dim a'i brawychai yn fwy na chyhoeddusrwydd mewn dinodedd y dymunasai gael arosond wedi hir gymell rhoddodd ei fryd ar barotoi pregeth, a rhyw noson mewn cyfarfod gweddio oedd i'w gynal mewn amaethdy o'r enw Pyllbo, rhwng Llanwrtyd ac Abergwesyn, ar ol darllen a gweddio, rhoddodd emyr allan, a darllenodd yn destyn y geiriau, "Gadawed by drygionus ei ffordd, a'r gwr anwir ei feddyliau, a dychweled at yr Arglwydd, ac efe a gymer drugaredd arno, ac at ein Duw ni oherwydd efe a arbed yn helaeth." Traddododd ei bregeth heb na diffyg na choll, ac nid oedd tòrar ei hyawdledd o'r dechreu i'r diwedd. Yr oedd hyn yn y flwyddyn 1829. Ar ol yr oedfa hono aeth son am dano ef trwy yr holl wlad oddiamgylch, a dilifal gwahoddiadau iddo o'r holl eglwysi cylchynol. Yr oedd golwg wreiddiol arno o ran sei wisg a'i ymddangosiad y pryd hwnw, ac yr oedd yn eglur arno mai un o blant y mynydd-dir ydoedd. Nid oedd ei gymydogion yn synu at ei wisg a'i ddiwyg, oblegid yr oeddynt wedi cynefino ag ef, ac nid rhyw lawer oedd y gwahaniaeth rhyngddo ef a'r rhan fwyaf o honynt, ond yn unig ei fod yn edrych yn fwy meddylgar na hwynt oll; ond tynai yr olwg ddyeithr oedd arno sylw neillduol yn mhob man y tu allan i'w fro ei hun. Er prawf o hyn, cymerwn y difyniad canlynol o un o gyfres o lythyrau galluog a ysgrifenodd ei gyfaill, Mr. J. R. Kilsby Jones, ar ei nodwedd a'i athrylith, yn y Tyst Cymreig yn fuan ar ol ei farwolaeth; ac i'r rhai yr ydym yn ddyledus am lawer o ffeithiau y cofnodion hyn.

66

1

[ocr errors] Cyn ei weled y waith gyntaf, yr oeddym wedi clywed llawer o son am dano gan ewythr i ni a ddigwyddai fod yn ddiacon yn hen eglwys Annibynol Llanwrtyd. Trwy lawer o waith llwyddodd ein perthynas d gael ganddo addaw treulio Sabboth yn Ffaldybrenhin. Gallassi fod y