Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/13

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

HANES

EGLWYSI ANNIBYNOL CYMRU.

SIR FORGANWG.

Amgylchynir y sir hon ar y dwyrain gan sir Fynwy, ar y de gan gulfor Caerodor, ar y gorllewin gan fôr y Werydd a sir Gaerfyrddin, ac ar y gogledd gan siroedd Caerfyrddin a Brycheiniog. Ei harwynebedd yw 547,494 o erwau. Mae ei chyfoeth o lô, mŵn, haiarn, ceryg calch, &c., yn ddihysbydd, a'i chyfleusderau gweithfaol yn ddigyffelyb. Ar gyfrif y pethau hyn y mae ei phoblogaeth wedi cynyddu yn ddirfawr er dechreuad y ganrif bresenol Rhif y trigolion yn 1801, oedd 70,879; yn 1811, 85,067; yn 1821, 102,073; yn 1831, 126,612; yn 1841, 171,188; yn 1851, 231,849; yn 1861, 317,752, ac yn 1871, yr oedd yn 396,010. Darfu i Ymneillduaeth osod ei throed i lawr yn y sir hon gydag un o'r manau cyntaf yn Nghymru, ac y mae wedi dal ei thir ac ychwanegu nerth o flwyddyn i flwyddyn o'r dechreuad hyd yn awr. Gan fod y trigolion yn cael eu gwneyd i fyny o ddynion o bob parth o'r deyrnas, y mae agos pob enwad o grefyddwyr, ag sydd yn adnabyddus yn y deyrnas gyfunol, i'w cael yn y sir hon. Yr Annibynwyr yw yr enwad lluosocaf o lawer yma, ac y mae ei gynydd yn yr ugain mlynedd diweddaf wedi bod yn rhyfeddol. Rhif y capeli yma yn 1851, oedd 114, yn 1860, 142, ac yn 1871, y maent yn 202, ac amryw eraill ar gael eu hadeiladu. Yr enwad nesaf at yr Annibynwyr mewn nifer yw y Bedyddwyr; y Methodistiaid Calfinaidd yw y trydydd, a'r Wesleyaid yw y pedwerydd. O'r man enwadau Protestanaidd, y Trefnyddion Cyntefig, (Primitive Methodists,) yw y lluosocaf. Y mae ganddynt hwy rai ugeiniau o gynnulleidfaoedd yma. Er cryfed yw yr enwadau efengylaidd yma, y mae anfoesoldeb yn ofnadwy o rwysgfawr yn mysg y trigolion; ond y mae yn deilwng o sylw mai Gwyddelod, Saeson, ac estroniaid eraill, yw wyth o bob deg o'r drwgweithredwyr a gosbir am droseddu y cyfreithiau. Gan fod poblogaeth y sir i raddau mawr yn cael ei chwyddo o flwyddyn i flwyddyn gan lawer o wehilion pob sir yn Lloegr a'r Iwerddon, buasai y lle yn uffern ar y ddaear oni buasai fod crefydd Ysgrythyrol wedi cymeryd gafael mor gadarn a chyffredinol yma.