Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/14

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

MYNYDDBACH.

Mae addoldy y Mynyddbach, neu Ty'rdwncyn Newydd, fel y gelwid ef gynt, yn mhlwyf Llangafelach, tua thair milldir i'r gogledd o dref Abertawy; ac y mae yr eglwys a gyferfydd yma yn un o'r rhai henaf yn y Dywysogaeth. Dywedir yn y Broadmead Records, mai Mr. Ambrose Mostyn ddarfu gasglu yr eglwys gyntaf yn Abertawy, a chan na fu Mr. Mostyn yn arosol yn y Deheubarth ar ol y rhyfel a derfynodd yn 1646, mae yn rhaid mai cyn y rhyfel y casglwyd yr eglwys ganddo yma. Ond gan nad yw yn debygol y buasai yr awdurdodau yn goddef iddo sefydlu eglwys Ymneillduol yn y dref cyn y rhyfel, mae yn naturiol casglu mai yn rhywle y tu allan i'r dref yr oedd. Yr oedd Mr. Phillip Jones, wedi hyny o Gastell Ffonmon, yn byw yr amser hwn yn Mhentwyn, Llangafelach, ac fel y mae yn hysbys, yn Buritan ac Annibynwr selog, a chan ei fod yn foneddwr o safle uchel a dylanwad mawr, mae yn ddigon tebygol mai ar ei gymhelliad a than ei nawdd ef y daeth Mr. Mostyn i'r ardal. Dywed Dr. Walker, yn ei hanes am ddyoddefiadau yr offeiriaid, i Mr. Hugh Peters, a'r Milwriad Phillip Jones, sefydlu eglwys Annibynol yn Abertawy tua'r flwyddyn 1650; ond y peth tebycaf ydyw fod yr eglwys wedi ei ffurfio gan Mr. Mostyn a'r Milwriad Jones ddeng mlynedd cyn hyny; ac os bu rhyw beth a wnelsai Mr. H. Peters, yr hwn oedd yn Sais, a'r achos yn 1650, cynorthwyo i ffurfio cangen Saesonig yn y dref, yw y peth mwyaf tebygol iddo wneyd. Felly yr ydym yn cael ein gogwyddo yn gryf i gredu i eglwys Annibynol gael ei ffurfio yn mhlwyf Llangafelach trwy lafur Mr. Mostyn a'r Milwriad Jones tua 1640, neu yn y flwyddyn ganlynol, ac mai hyny oedd dechreuad yr achos sydd yn bresenol yn y Mynyddbach. Cafodd yr Ymneillduwyr ryddid cyflawn i daenu eu golygiadau pa le bynag yr ewyllysient o 1646 hyd 1660, ac i raddau hyd 1662; ac y mae yn dra sicr fod trigolion plwyf Llangafelach wedi cael rhan helaeth o lafur y pregethwyr teithiol a ymwelent a'r gwahanol ardaloedd yn y tymor hwnw. Gorphenaf 24ain, 1646, penderfynwyd gan bwyllgor Seneddol, fod Mr. David Walter, pregethwr poblogaidd iawn, i gael ei dalu o gynyrch degymau plwyf Llandilo, Talybont, a rhyw blwyf arall yn y gymydogaeth, mewn trefn iddo fyned oddiamgylch "i bregethu, holwyddori, ac i addysgu y plwyfolion a'r trigolion yn y gwahanol blwyfydd."[1] Felly gwelir fod trigolion cymydogaeth y Mynyddbach wedi cael eu bendithio a gweinidogaeth effeithiol er's mwy na dau cant ac ugain o flynyddau. Yr oedd Mr. Walter yn bregethwr o'r radd uchaf. Dywedir y byddai Eglwys Gadeiriol Llandaf yn orlawn bob amser y byddai ef yn pregethu ynddi. Mae yn dra sicr i effeithiau gweinidogaeth nerthol Mr. Jenkin Jones, o Langattwg, Glynnedd, gyrhaedd y parthau hyn; ac y mae hefyd yn fwy na thebyg i Mr. Jones gorpholi eglwys Annibynol yn Llangattwg yn amser y Werinlywodraeth, a bod rhai o bobl Llangafelach a Llansamlet yn aelodau o'r eglwys hono. "Eglwys Llangattwg," oedd yr enw wrth ba un yr adnabyddid yr eglwys Annibynol, yr hon a gyfarfyddai mewn gwahanol anedd-dai yn Cynffyg, Baglan, Llangafelach, &c., yn y flwyddyn 1675.[2] Ymddengys mai y rheswm paham y gelwid hi yn

  1. State Papers. Interregnum. Vol. 286. Page 136.
  2. Rees's History of Nonconformity in Wales. Page 209.