Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/15

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Eglwys Llangattwg" ydoedd, o herwydd mai Mr. Jones, pan yr oedd yn weinidog plwyf Llangattwg, ddarfu ei chasglu a'i chorpholi. Mae yn debygol hefyd i gynifer o aelodau yr eglwys a gorpholwyd yn Abertawy, a'r gymydogaeth cyn y rhyfel, gan Mr. A. Mostyn a'r Milwriad Phillip Jones, ag a ddewisent addoli yn yr iaith Gymraeg, ar ol adferiad Siarl II. ymuno ag eglwys Llangattwg, gan mai yn yr iaith Saesoneg yn unig y dygai yr eglwys Ymneillduol yn nhref Abertawy ei gwasanaeth cyhoeddus yn mlaen. Dywed y diweddar Mr. John Davies, Mynyddbach, yn yr hanes a gyhoeddwyd ganddo yn 1852, dan yr enw Y Lloffyn Addfed, i Mr. Jenkin Jones fod yn weinidog i'r eglwys yn mhlwyf Llangafelach, mewn cysylltiad a Chastellnedd, am rai blynyddau ar ol adferiad Siarl II., ond y mae hyny yn anghywir, canys cafodd Mr. Jones ei garcharu yn Mehefin, 1660. Bu am fis yn garcharor yn Nghaerfyrddin, ac nid oes un math o grybwylliad am dano ar ol hyny. Os na bu efe farw cyn diwedd y flwyddyn hono, bu raid iddo ymguddio yn rhywle am weddill ei oes, canys yr oedd yr awdurdodau ar ei ol fel gwaedgwn, o herwydd ei fod yn ddyn cyfoethog, dylanwadol, rhyfeddol o weithgar, yn Ymneillduwr didroi, ac yn enwedig o herwydd iddo gymeryd rhan mor amlwg yn y rhyfel, ac mewn achosion gwladol yn gystal a chrefyddol, yn amser y Senedd hir a'r Werinlywodraeth. Mae yn sicr na feiddiodd y dyn da hwn agoryd ei enau fel pregethwr ar ol y flwyddyn 1660, os na fu farw yn y flwyddyn hono. Un eglwys y cyfrifid yr holl Annibynwyr yn mhob ardal o Gynffyg hyd Gasllwchwr o'r flwyddyn 1662 hyd ar ol dechreuad y ganrif ddiweddaf. Yr oedd rhai Bedyddwyr a gwrth-Fedyddwyr (Catabaptists) yn eu mysg mewn rhai cymydogaethau.[1]

Mae yn ymddangos mai Mr. Robert Thomas, yr hwn a droisid allan o eglwys Baglan, fu y gweinidog sefydlog cyntaf ar yr eglwys hon ar ol adferiad Siarl II. Cynorthwyid ef yn y weinidogaeth gan y Meistri Jacob Christopher a Richard Cradock, a chan fod y Meistri Marmaduke Mathews, Stephen Hughes, David Jones, Llandysilio, a Meredith Davies, Llanon, yn byw yn Abertawy a'r ardal, mae yn ddiameu fod cangen Langafelach o'r eglwys wasgaredig hon yn mwynhau gweinidogaeth pob un o honynt hwy yn achlysurol. Bu Mr. Robert Thomas yn ffyddlon yn llanw ei gylch gweinidogaethol eang hyd ei farwolaeth tua y flwyddyn 1693. Mewn anedd-dai y cynhelid y moddion crefyddol yn mhob ardal hyd nes i ddeddf y Goddefiad ddyfod i rym yn 1688, a bu rhai cynnulleidfaoedd am ddegau o flynyddau ar ol hyny cyn' adeiladu addoldai. Mewn amaethdy o'r enw Cilfwnwr yr ymgynnullai eglwys y Mynyddbach am rai blynyddau; a dywedir mai llithriad gwraig y tŷ i'r pechod o odineb gyda'i gwas a barodd i'r gynnulleidfa roddi y lle hwnw i fyny ac edrych allan am le arall. Symudasant o Gilfwnwr i amaethdy a elwir Ty'rdwncyn, ac yno y buwyd yn ymgynnull hyd nes yr adeiladwyd capel y Mynyddbach yn 1762. Dilynwyd Mr. Robert Thomas yn y weinidogaeth gan Mr. Lewis Davies, aelod o'r eglwys yn Llanedi. Mae yn debygol i Mr. Davies ddechreu ei weinidogaeth yn y flwyddyn 1693, os nad yn gynt. Mae amser ei farwolaeth yn anhysbys. Yr oedd yn fyw yn 1700, a dichon iddo fyw ddeg neu ddeuddeng mlynedd ar ol hyny; ond yn 1715, Thomas Davies a David Thomas oedd y gweinidogion yn y cylch hwn.[2] Yr oedd Mr.

  1. The Lambeth MSS. Vol. 639. Broadmead Records. Page 514.
  2. Dr. John Evans's MSS.