Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/16

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Lewis Davies yn weinidog enwog a defnyddiol iawn, ac yn nodedig o lafurus i egwyddori plant ac ieuengctyd ei gynnulleidfaoedd yn ngair Duw. Yr oedd ganddo Ysgolion Sabbothol yn Nhy'rdwncyr a'r Chwarelau bach, mor foreu a'r flwyddyn 1697. Dechreuodd hen daid y diweddar Mr. J. Davies, Mynyddbach fyned i'r Ysgol Suli Dy'rdwncyn yn blentyn deg oed, yn y flwyddyn hono, a pharhaodd i fyned iddi am lawer o flynyddau. Ei enw oedd Morgan John, y Gof. Yr oedd cofnodiad o'r ffaith hon yn llawysgrifen Morgan John, wedi ei ysgrifenu ganddo yn 1720, yn meddiant ei orwyr, Mr. Davies, Mynyddbach, ychydig flynyddau yn ol. Yn y flwyddyn 1700, cyhoeddodd Mr. Davies, gyfamod a rheolau eglwysig, a chan fod y llyfryn bychan hwn yn dangos syniadau yr hen Ymneillduwyr am drefn a dysgyblaeth eglwysig, rhoddwn ef yma air yn ngair o'r argraffiad a gyhoeddwyd gan Mr. Lewis Rees yn y flwyddyn 1774.

Cyfamod eglwysig a gyfansoddwyd gan y Parchedig Mr. Lewis Davies, gweinidog yr efengyl, yn Nhy' rdwneyn, yn y flwyddyn 1700, ac a adnewyddwyd gan y Parchedig Mr. Samuel Jones, a Mr. Lewis Rees, trwy gydsyniad y gynnulleidfa, Rhagfyr, 1759.

Yr ydym ni, y rhai sydd a'n henwau isod yn cymeryd yr unig wir Dduw a'n holl galonau i fod yn Dduw i ni a'n daioni penaf; a'r Arglwydd Iesu Grist i fod yn Waredwr ac yn Iachawdwr i ni. Ac yr ydym ni yn cymeryd yr Ysbryd Glan i fod yn Sancteiddydd i ni, a'r athrawiaeth a ddatguddiwyd ganddo, ac a seliwyd a'i wyrthiau, ac yr awr hon yn gynhwysedig yn yr Ysgrythyrau sanctaidd i ni, yn nghyfraith ein Duw, yn rheol ein ffydd a'n bywyd, a chan edifarhau yn ddiragrith am ein holl bechodau, yr ydym ni'n bwriadu trwy gymorth gras Daw roi ufudd-dod gwirioneddus iddo, trwy ymdrechu i fod yn sanctaidd tuag at Dduw, ac yn gyfiawn tuag at ddynion, a chenym enwedigol gariad tuag at holl bobl Dduw. Ac yr ydym ni yn bwriadu cadw cymundeb gyda hwynt yn erbyn holl brofedigaethau'r diafol a'r byd a'n cnawd ein hunain, a hyny hyd angau.

Yr ydym ni hefyd yn cydsynio o lwyr ewyllys ein calonau i fod ac i barhau yn aelodau o eglwys neillduol Iesu Grist sydd yn cyfarfod yn Nhy'rdwncyn, ar ba un y mae ein brawd Lewis Rees yn fugail ac yn olygwr. Ac yr ydym ni, trwy ras Duw yn bwriadu i ddyfal wrando ei athrawiaeth a'i weinidogol gyfarwyddiad, ac yn addunedu ymddarostwng i'w lywodraeth eglwysig, yn ol rheol gair Duw. Ac yr ydym ni yn bwriadu cadw cymundeb enwedigol gyda'r eglwys hon yn mhob rhan o addoliad Duw, ac i ymddarostwng i rybuddion ein cydaelodau, fel trwy hyny y byddo i ni gael ein hadeiladu mewn gwybodaeth a sancteiddrwydd; ac felly yn gymwysach i barhau ein hufudd-dod i Grist a daioni'r eglwys, fel y byddo i ni yn hyn ac yn y cwbl ogoneddu Duw. Amen.

Rheolau efengylaidd, pa rai a roddwyd gan y Parch. Mr. Lewis Davies; ac a dderbyniwyd ac a gymeradwywyd gan eglwys Ty'rdwncyn, yn y flwyddyn 1700.

RHEOL I.-Yn nghylch bywyd ac ymarweddiad efengylaidd ein cydaelodau.-Gwyliwch yn ddiwyd ar rodiad ac ymarweddiad y naill y llall, gan ofalu am fod уц ddiachos tramgwydd i Iuddewon a chenhedloedd, ac i eglwys Dduw. 1 Cor. x. 32, 33. "Byddwch ddiachos tramgwydd i'r Iuddewon ac i'r cenhedloedd, ac i eglwys Dduw. Megis yr ydwyf finau yn rhyngu bodd i bawb yn mhob peth, heb geisio fy lleshad fy hun, ond lleshad llaweroedd, fel y byddont hwy gadwedig." Ac yn mhob peth yn gyfatebol i orchymynion Crist ac anrhydedd yr efengyl. Phil. i. 27. "Yn unig ymddygwch yn addas i efengyl Crist." Heb. xii. 14, 15. "Dilynwch heddwch a phawb, a sancteiddrwydd, heb yr hwn ni chaiff neb weled yr Arglwydd. Gan edrych yn ddyfal na bo neb yn pallu oddiwrth ras Duw, rhag bod un gwreiddyn chwerwedd yn tyfu i fyny, ac yn peri blinder, a thrwy hwnw lygru llawer.' 1 Pedr i. 15, 16. "Eithr megis y mae y neb a'ch galwodd chwi yn sanctaidd, byddwch chwithau sanctaidd yn mhob ymarweddiad, oblegid y mae yn ysgrifenedig, Byddwoh sanctaidd, canys sanctaidd ydwyf fi." Os digwydd i un o'r brodyr neu'r chwiorydd gael ei oddiweddyd a rhyw bechod neu fai, eich dyled yw myned ato a'i geryddu of neu hi am y bai, yn neillduol mewn cariad. Gal. vi. 1. "Y brodyr, os goddiweddir dyn ar ryw fai, chwychwi y rhai ysbrydol, adgyweiriwch y cyfryw un