Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/17

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mewn ysbryd addfwynder, gan ystyried dy hun rhag dy demtio dithau." Mat. xviii. 15. "Ac os pecha dy frawd i'th erbyn, dos, ac argyhoedda ef rhyngot ti ac ef ei hun," &c. Lef. xix. 17. "Ac na chasa dy frawd yn dy galon, gan geryddu cerydda dy gymydog, ac na ddyoddef bechod ynddo." 2 Thes. iii. 15. Iago v. 19, 20. "Fy mrodyr, od aeth nebo honoch ar gyfeiliorn oddiwrth y gwirionedd, a throi o ryw un ef; gwybydded y bydd i'r hwn a drodd bechadur oddiwrth gyfeiliorni ei ffordd, gadw enaid rhag angau, a chuddio lluaws o bechodau." Ac os y cerydd neu'r rhybudd neillduol ni thycia gyda'r cyfryw a roddodd y tramgwydd, ond myned yn mlaen; mae yn ddyled arnoch chwi gymeryd un neu ddau gyda chwi i'w rybuddio a'i ddwysbigo ef o'i fai; os hyny ni thycia, rhaid i chwi ddywedyd wrth yr eglwys. Mat. xivii. 17. "Ac os ni wrendy efe ar yr eglwys chwaith, bydded ef i chwi megis yr Ethnig a'r Publican,"

RHEOL. II.—Yn nghylch undeb yr eglwys.—Mae yn rhaid i chwi ymegnio yn ddiwyd ac yn ofalus i gynal a chadw undeb yr eglwys. 1 Cor. i. 10. "Ac yr wyf yn atolwg i chwi, frodyr, trwy enw ein Harglwydd Iesu Grist, ddywedyd o bawb o honoch chwi yr un peth, ac na byddo ymbleidio yn eich plith; eithr bod o honoch wedi eich cyfan—gysylltu yn yr un meddwl ac yn yr un farn." Phil. ii. 1—3. "Od oes gan hyny ddim diddanwch yng Nghrist, od oes dim cysur cariad, od oes dim cymdeithas yr Ysbryd, od oes dim ymysgaroedd a thosturiaethau. Cyflawnwch yn awr fy Hlawenydd, fel o byddoch yn meddwl yr un peth, a'r un cariad genych, yn gytun yn synied yr un peth," &c. 2 Cor. xiii. 11. "Bellach, frodyr, byddwch wych, byddwch berffaith, diddaner chwi, syniwch yr un peth, byddwch heddychol; a Duw y cariad a'r heddwch a fydd gyda chwi." Act. iv. 32. "A lluaws y rhai a gredasent oedd o un galon ac un enaid," &c. Eph. iv. 3. "Gan fod yn ddyfal i gadw undeb yr Ysbryd yn nghwlwm tangnefedd."

Ac i'r dyben hyn dylech graffu yn ddiwyd, a gochelyd yn ofalus yn gystal yr achos o'r ymraniad a'r rhai a fyddant yn peri ymryson ac anghydfod yn yr eglwys. Rhuf. xvi. 17. "Yr ydwyf yn atolwg i chwi, frodyr, graffu ar y rhai sydd yn peri anghydfod a rhwystrau yn erbyn yr athrawiaeth a ddysgasoch chwi, a chiliwch oddiwrthynt." Sef hudolwyr y gau athrawon, yn dal heresiau a chyfeiliornadau yn wrthwyneb i'r ffurf o ymadroddion iachus. Act. xx. 29. "Canys mi wn hyn, y daw yn ol fy ymadawiad i, fleiddiau blinion i'ch plith, heb arbed y praidd. Ac o honoch chwi eich hunain y cyfyd gwyr yn llefaru pethau gwyr—draws, i dynu disgyblion ar eu hol." 1 Tim. vi. 3. "Od oes neb yn dysgn yn amgenach, ac heb gytuno a iachus eiriau ein Harglwydd Iesu Grist, a'r athrawiaeth sydd yn ol duwioldeb. Chwyddo y mae ac heb wybod dim. Cilia oddiwrth y cyfryw," Dat. ii. 14, 15. Ac os digwydd i chwi gael allan neb a fo'n gwneuthur yn orchwyl iddo, i ranu a rhwygo, hudo a themtio un o'ch cydaelodau i dori ei gyfamod a'r eglwys, gyda pha un yr unodd efe yn ol y rheol yn yr Ephesiaid iv. 16., eich dyled yw myned at y cyfryw un a fo yn cael ei demtio, ac ymdrechu hyd eithaf eich gallu, gan arfer pob moddion tuag at ei waredu ef neu hi o faglau'r cyfryw hudolwr. Ac os bydd y gorchwyl hwn yn rhy anhawdd i chwi eich hunan, eich dyled yw cymeryd rhyw frawd arall gyda chwi i'w gynghori ef. Os hyny ni thycia gydag ef i wella ei amcan, eich dyled yw mynegi i'r eglwys brofedigaethau'r cyfryw un; ac yna yr eglwys a ddylai wneuthur ei dyledswydd tuag ato.

RHEOL III.—Yn nghylch addoliad Duw yn ei eglwys.—1. Edrychwch at bob aelod yn fanol, rhag bod neb o fewn eich terfynau yn esgeuluso addoliad Duw yn y gymanfa gyhoeddus, sef gweddio a gwrando pregethiad gair Duw, neu ynteu yn gwrando addysg a bar iddynt gyfeiliorni. Diar. xix. 27. "A thrwy hyny osod tramgwydd o flaen eu cydaelodau." 2 Tim. iv. 3, 4. "Canys daw'r amser, pan na ddyoddefont athrawiaeth iachus; eithr yn ol eu chwantau eu hunain, y pentyrant iddynt eu hunain athrawon, gan fod eu elustiau yn merwino. Ac oddiwrth y gwirionedd y troant ymaith eu clustiau, ac at chwedlau y troant."

2. Daliwch hefyd sylw enwedigol o fewn eich terfynau, pwy a fyddo yn esgeuluso cymuno yn Swper yr Arglwydd. Act. xx. 7. 1 Cor. xxv. 26. "A phan gaffoch allan nob a fyddo yn esgeuluso ewch ato a gofynwch ei resymau am ei esgeulusdra, a pha ham y mae efe neu hi yn tori addunedau eu cyfamod a Christ ac a'i eglwys." Act. ii. 42, 46. "Ac yr oeddent (sef y rhai a dderbyniasant y gair) yn parhau yn athrawiaeth, ac yn nghymdeithas yr apostolion, ac yn tori bara, ac mewn gweddiau," &c. 1 Cor. xi. 1. 1 Thes. ii. 14.