Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/18

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

3. Creffwch hefyd os bydd neb o fewn eich terfynau yn esgeuluso'r farfodydd neillduol o weddio gyda'r eglwys. Heb. x. 25. "Heb esgeuluso ein cydgynnulliad ein hunain, fel y mae arfer rhai, ond annog pawb eu gilydd, a hyny yn fwy o gy. maint a'ch bod yn gweled y dydd yn neshau." Act. xii. 5—12. Rhybuddiwch y cyfryw mewn cariad i ddiwygio eu hesgeulusdra a'u diofalwch.

RHEOL IV.—Yn nghylch rheolaeth ac addoliad Duw mewn teuluoedd.—1. Gwyliwch ar bob pen teulu a ydyw efe yn cymeryd y cyfryw ofal a ddylai efe i osod i fyny addoliad y Duw mawr yn ei deulu, megis gweddio gyda hwynt, a darllen yr Ysgrythyrau sanctaidd iddynt. Act. x. 1. Yr oedd Cornelius yn ŵr defosiynol, yn ofni Duw yn nghyd a'i holl dŷ, ac yn gweddio Duw yn wastadol. Jer. x. 25. "Tywallt dy lid ar y cenhedloedd y rhai ni'th adnabuant, ac ar y teuluoedd ni alwasant ar dy enw." Jos. xxiv. 15. Ioan v. 39. Dat. i. 3.

2. Gwiliwch hefyd arnynt pa un a'u bod hwy yn cymeryd y cyfryw ofal ag a ddy. lent, yn ol gair Duw, i ddysgu eu plant yn addysg ac ofn, ffydd ac athrawiaeth yr Arglwydd. Eph. vi. 4. Deut. vi. 6, 7. "A bydded y geiriau hyn yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddyw, yn dy galon, a hyspysa hwynt i'th blant, a chrybwyll am danynt pan eisteddych yn dy dŷ, a phan gerddych ar y ffordd, a phan orweddych i lawr, a phan gyfodych i fyny." Diar. xxii. 6. 2 Tim. iii. 15.

3. Gwyliwch yn fanol arnynt, a ydynt yn sancteiddio dydd yr Arglwydd, ac yn ei barchu, rhag bod un aelod o fewn eich terfynau yn euog o ddyoddef eu plant, na neb o'u tylwyth, i halogi dydd yr Arglwydd.

RHEOL V.—Yn nghylch gofalu am dlodion yr eglwys.—Gwnewch eich goreu hyd y mae ynoch tuag at fod yn gydnabyddus a'r cyfryw aelod a fyddo o fewn eich terfynau, yn enwedig y cyfryw y tybygwch fydd trwy eu hymddangosiadau allanol yn dlawd ac yn anghenus, gan sefyll mewn diffyg o gynorthwy gan yr eglwys, "Os bydd yn dy fysg di un o'th frodyr yn dlawd o fewn un o'th byrth, yn dy dir, yr hwn y mae'r Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti, na chaleda dy galon, ac na chau dy law oddiwrth dy frawd tlawd," Deut. xv. 7. "Eithr yr hwn sydd ganddo dda'r byd hwn, ac a welo ei frawd mewn eisiau, ac a gauo ei dosturi oddiwrtho; pa fodd y mae cariad Duw yn aros ynddo ef ?" 1 Ioan iii. 17. Ewch atynt ac ymddiddanwch a hwynt eich hunain, yn ol ymddangosiad eu cyflwr, gwnewch chwithau of yn gydnabyddus i'r eglwys, gan annog eich brodyr allan o air Duw, i gyfranu yn rhwydd ac yn ewyllysgar o'u pethau tymhorol, er diwallu eu angenrheidiau presenol fel aelodau i'r Arglwydd Iesu, ac felly dwyn rhan o'u beichiau yn nydd eu cyfyngder. "Dygwch feichiau eich gilydd, ac felly y cyflawnwch gyfraith Crist," Gal. iv. 2. "Cofiwch y rhai sydd yn rhwym, fel pettech yn rhwym gyda hwynt." Heb. xiii. 3.

RHEOL VI.—Yn nghylch cyflwr ysbrydol a phrofedigaethau ein gilydd.—Ymofynwch hyd y mae ynoch am brofedigaethau y naill a'r llall, fel y gallech gynorthwyo eu gilydd ynddynt, fel y gweddai i gristionogion. "Gweddi ddyfal a wnaethpwyd gan yr eglwys at Dduw drosto ef," sef Pedr, Act. xii. 5. Mali aelod yw'r hwn ni theimla a bai yr aelodau eraill. "Pwy sydd wan, nad wyf finau wan? pwy a dramgwyddir, nad wyf finau yn llosgi?" 2 Cor. xi. 29. Ac os digwydda i un aelod gael ei daflu i lawr, yn anghysurus yn ei enaid, neu dan wan obaith, eich dyled yw myned at y cyfryw i geisio ei gynal, yn ol eich gallu a'ch gwybodaeth, ac hefyd ei gysuro a'i ddyddanu ef. "Ond yr ydym yn deisyf arnoch, frodyr, rhybuddiwch y rhai afreolus, dyddanwch y gwan eu meddwl, cynheliwch y gweiniaid, byddwch ymarhous wrth bawb, 1 Thes. v. 14. A gweddiwch gydag ef, a throsto ef hefyd; ac os na thycia hyny, rhaid myned a'i gyflwr i'r eglwys, fel y byddo iddi hithau weddio drosto ef, Act. xii. 5.


RHEOL VII.—Yn nghylch galwedigaethau ein cydaelodau.—Byddwch yn esiampl dda o dduwioldeb i'ch cydaelodau. Llewyrched felly eich goleuni ger bron dyn ion, fel y gwelont eich gweithredoedd da chwi, ac y gogoneddont eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd," Mat. v. 15. Ac hefyd byddwch yn ddiwyd yn y galwedigaethau neillduol a beunyddiol sydd genych i fyw wrthynt yn y byd. 1 Cor. vii. 17. "Megis y darfu i'r Arglwydd alw pob un, felly rhodied." Ac fel y mae'n ddyled arnoch chwi eich hunain, felly hefyd edrychwch at bob aelod gwryw a menyw, o fewn eich cyrhaedd, ar fod ganddynt rhyw alwedigaeth cyfreithlon a didramgwydd i fyw arno, oddieithr ei fod yn oedranus neu yn anhwylus, heb allu gweithio mewn un galwad; canys y mae segurdod yn un o bechodau Sodom, Ezec. xvi. 49., ac yn