Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gymhwysach i'w gyfrif ef gyda'r Sodomiaid, nag i'w ddyoddef mewn eglwys. Mae'n wrthwyneb i reol yr efengyl i'w ddyoddef, 2 Thes. iii. 10. "Os byddai neb ni fynai weithio, na chai fwyta chwaith." Nis gallwn addo i'n hunain ddim cysur oddiwrth gymundeb y cyfryw rai rhodresgar, afreolus, ond yn hytrach cywilydd a gwaradwydd yn mlynyddau eu hieuengctyd, a baich trwm i'r eglwys yn mlynyddau eu mhethiant a'u hoedran; am hyny ein dyled yw dal sylw ar y cyfryw mewn pryd, a'u rhybuddio hwy.

RHEOL VIII.—Yn nghylch y claf a'r cystuddiol mewn eglwys.—Eich dyledswydd yw bod yn gydwybodol i ymweled a'r claf a'r cystuddiol. Iago v. 14. "A oes neb yn eich plith yn glaf? galwed ato henuriaid yr eglwys; a gweddiant hwy drosto." Job ii. 11. "Canys hwy a gytunasent i ddyfod i gyd—ofidio ag ef, ac i'w gysuro." Mat. xxv. 36. “Bum glaf, ac ymwelsoch a mi;" yn enwedig y rhai y mae eu cyflyrau neu eu blinderau tu fewnol neu allanol yn gwneyd eu profedigaethau yn eu drygfyd yn ddyfnach ac yn drymach ar gyfrif y cyfryw amgylchiadau, sefy tlodion, yr amddifaid, y gweddwon, neu ddyeithriaid, a'r cyffelyb. Iago i. 27. "Crefydd bur a dihalogedig ger bron Duw a'r Tad yw hyn; Ymweled a'r amddifaid a'r gwragedd gweddwon yn eu hadfyd, a'i gadw ei hun yn ddifrycheulyd oddiwrth y byd." Yn ol i chwi eich hunain gyflawni eich dyledswydd tuag atynt, rhaid i chwi wneuthur eu clefyd a'u cystudd yn gydnabyddus i'r eglwys, fel y byddo iddi hithau weddio drostynt, Iago v. 14, 16.

RHEOL IX.—Yn nghylch adeiladaeth eu gilydd yn neillduol.—Eich dyled yw bod yn nghyd yn fynych mewn gweithredoedd o gymundeb ysbrydol er adeiladaeth eu gilydd. Judas 20. "Eithr chwy—chwi anwylyd, gan eich adeiladu eich hunain ar eich sancteiddiaf ffydd." 1 Thes. v. 11. "O herwydd paham y cynghorwch eich gilydd, ac adeiledwch bob un eich gilydd, megis ag yr ydych yn gwneuthur." Mal. iii. 16. Eph. iv. 16. I'r dyben hyn yr amser mwyaf cyfaddas yw diwedd dyddiau'r Arglwydd, tra na byddo yn rhwystro cyfarfodydd cyhoeddus. I bob rhai o fewn eich terfynau eich hunain alw ar enw yr Arglwydd. Mat. xviii. 19, 20. "Os cydsynia dau o honoeh ar y ddaear am ddim oll, beth bynag a'r a ofynant, efe a wneir iddynt gan fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd. Canys lle y mae dau neu dri wedi ymgynnull yn fy enw i, yno yr ydwyf yn eu canol hwynt." I ddarllen gair Duw, Act. viii. 32. I ail adrodd pregethau, Heb. ii. 1 "Am hyny y mae yn rhaid i ni ddal yn well ar y pethau a glywsom, rhag un amser i ni eu gollwng hwy i golli." I ganu mawl i'r Arglwydd. 1 Cor. xiv. 26. "Pan ddeloch yn nghyd, y mae gan bob un o honoch salm." I hyfforddi eich gilydd allan o air Duw, er cynydd cariad, gwybodaeth, profiadau, ymddiddan cristionogol, ac arfer y doniau a dderbyniwyd; i bob un roi dim cymhorth ag y gallo tuag at adeiladaeth y babell tra fo genym oedfa, oblegid ein hamser sydd fyr, a'n dyddiau yn ddrwg, gan hyny, bydded i'r rhan sy'n ol o'n bywyd gael ei dreulio i fyw i'r hwn a fu farw trosom. na chydymffurfiwn a'r byd hwn, nag ag arferiadau'r bobl gnawdol sydd ynddo chwaith.

RHEOL. X.—Yn nghylch priodas.—Dyled pob aelod yn arddel crefydd cristionogol yw gofalu am briodi yn yr Arglwydd, pan alwo Duw ef i newid ei gyflwr. 1 Cor. vii. 39. Gen xxxiv. 14. "Ni allwn wneuthur y peth hyn, gan roddi ein chwaer i ŵr dienwaededig; oblegid gwarthrudd yw hyny i ni." 2 Cor. vi. 14. "Na iauer chwi yn anghydmarus gyda'r rhai digred." Os digwydd fod un o fewn eich terfynau yn troseddu y rheol hon, trwy chwedleua ar gyfrif priodas a rhyw un cyfeiliornus yn ei farn, neu'n annuwiol a drwg yn ei fywyd, neu yn wrthwyneb i grefydd. Deut. vii. 4. " Canys efe a dry dy fab di oddiar fy ol i, fel y gwasanaethont dduwiau dyeithr." Neh. xiii. 28. "Ac un o feibion Joiada, mab Eliasib, yr archoffeiriad, oedd ddaw i Sambalat yr Horoniad; yr hwn a ymlidiais i oddi wrthyf." Dylid rhybuddio'r cyfryw o'r bai, ac oni thycia hyny, ei fynegi ef i'r eglwys.

'Holiadau neu gwestiynau buddiol i'w gofyn i swyddogion eglwysig, ar gyrddau neillduol mewn trefn i chwilio allan pwy sydd yn ein mysg yn esgeuluso'r rheolau hyn.'

1. A wyddoch chwi fod neb yn byw yn anaddas i'r efengyl, neu yn dramgwyddus yn eu bywyd o fewn eich terfynau chwi?

2. A wyddoch chwi am neb sy'n anesmwyth, ac yn ceisio ymranu neu neillduo oddiwrth yr eglwys, o fewn eich terfynau chwi ?