Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/20

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

3. A wyddoch chwi fod neb o'r aelodau yn euog o esgeuluso addoliad Duw yn y gymanfa gyhoeddus, neu Swper yr Arglwydd, na'r cwrdd neillduoi, o fewn eich terfynau ?

4. A wyddoch chwi fod neb o'r aelodau ag sydd yn benteuluoedd, yn euog o esgeuluso addoliad Duw yn eu teula, neu adael eu plant heb eu dysgu yn athrawiaeth yr Arglwydd, neu'n halogi y dydd Sabboth?

5. A wyddoch chwi am neb dan amheuaeth, neu ryw dan brofedigaeth anarferol arall, o fewn eich terfynau?

6. A wyddoch chwi a oes neb yn byw yn rhodresgar a gwag-siaradus segur, ac allan o alwedigaeth onest i fyw arni, o fewn eich terfynau chwi?

7. A wyddoch chwi a oes neb o'r aelodau yn dlawd, yn sefyll mewn diffyg o gynorthwy'r eglwys, a fuoch chwi yn ymresymu a'r cyfryw yn nghylch eu cyflwr? 8. A wyddoch chwi a oes neb yn glaf ac yn gystuddiol, o fewn eich terfynau chwi? 9. Pa mor fynych a threfnus yr ydych yn dyfod diwedd dydd yr Arglwydd, er adeiladaeth eich gilydd.

10. A wyddoch chwi a oes neb o'r aelodau yn chwedleua ar gyfrif priodas, a'r rhai annuwiol a gwrthwyneb i grefydd, o fewn eich terfynau chwi?

Fel y dywedasom eisioes, nis gwyddom amser marwolaeth Mr. Lewis Davies, ond y mae genym sicrwydd iddo gael ei ddilyn yn y weinidogaeth tua 1712, gan Mr. David Thomas. Yr oedd yr eglwys yn Nhy'rdwncyn er y flwyddyn 1662, os nad cyn hyny, yn un a'r eglwys yn y Chwarelaubach, Castellnedd, ond tua'r flwyddyn 1720, neu yn fuan ar ol hyny, cafodd y cylch gweinidogaethol eang hwn, yr hwn hyd yn hyn a gyrhaeddai o Flaengwrach, yn mhen uchaf Glynnedd, hyd Gasllwchwr, ei ranu yn dri. Urddwyd Mr. Henry Davies yn Mlaengwrach, a Mr. Samuel Jones yn Nhy'rdwneyn a'r canghenau yn Nghasllwehwr, y Cwmmawr, a'r Ysgetty, a chyfyngwyd llafur Mr. David Thomas i Gastellnedd, a'r gymydogaeth. Mae yn debygol fod Mr. Thomas Davies erbyn hyn, naill ai wedi marw neu wedi symud i ryw gylch arall. Nis gwyddom y flwyddyn yn gywir y dechreuodd Mr. Samuel Jones ei weinidogaeth yn Nhy'rdwncyn, ond yr ydym yn barnu iddo ei dechreu yn fuan ar ol 1720. Yr oedd yn hen wr oedranus yn 1759, pryd y daeth Mr. Lewis Recs, o Lanbrynmair, i gydweinidogaethu ag ef. Yn fuan ar ol sefydliad Mr. Rees yn y lle, fe adfywiodd yr achos yn fawr. Adeiladwyd capel y Mynyddbach yn y flwyddyn 1762, ei faint oedd 45 troedfedd wrth 24 o fewn y muriau. Testyn cyntaf Mr. Rees yn Nhy'rdwncyn ydoedd, Act. x. 29. "O ba herwydd, ie, yn ddinag y daethum, pan anfonwyd am danaf; yr wyf gan hyny yn gofyn am ba achos y danfonasoch am danaf." Parhaodd Mr. Rees yn ei boblogrwydd a'i ddefnyddioldeb yn y cylch pwysig hwn nes i lesgedd henaint ei analluogi. Yn y flwyddyn 1770, adeiladwyd capel yn yr Ysgetty, ac yn 1782, un arall yn Nhreforis. Yn y flwyddyn 1777, cymerodd peth lled anghyffredin le yma. Yr oedd tri gwr perthynol i'r gynnulleidfa, sef Meistri Robert Terry, Penlle'rmarch; John Rosser, Wigucha', a John Mathew, Tregernydd, yn ddiv ygwyr blaenllaw-pell o flaen eu hoes. Gwrthodasant dalu treth eglwys, ac mewn canlyniad taflwyd hwy i lys Esgob Tyddewi, a chawsant eu hysgymuno. Peth difrifol iawn yw ysgymundod Eglwys Loegr; gan ei fod yn amddifadn y rhai fyddo dano o'u hawliau fel gwladwyr, ac yn eu gosod allan o nodded cyfraith y tir, fel y gallo pob dihyryn ymddwyn tuag atynt fel y myno, heb neb yn gallu ei alw i gyfrif. Pan daflwyd y tri wyr hyn i'r fath amgylchiad enbyd, cymerodd eu gweinidog eu hachos mewn llaw Ysgrifenodd at ei fab, Dr. Abraham Rees, yr hwn, trwy gydweithrediad Bwrdd y Tri enwad yn Llundain, a osododd yr achos ger bron y brenhin, ac yn ddioed derbyn-