Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iodd ei Arglwyddiaeth o Dyddewi, orchymyn brenhinol i ddadysgymuno y tri gwr. Dichon mai dyma yr engraifft olaf yn Nghymru o ysgymundod esgobol.

Pan oedd Mr. Rees wedi myned dros bedwar ugain mlwydd oed, ac wedi llafurio yn ddiattal yn y weinidogaeth am fwy na thriugain mlynedd, teimlai ei fod yn analluog i lenwi ci gylch eang yn y Mynyddbach, yr Ysgetty, Treforis, ac amryw leoedd eraill yn yr ardal, lle y bydol yn arfer pregethu yn rheolaidd; gan hyny, anogodd y bobl i edrych allan am weinidog ieuengach. Buasai yn fwy cydweddol a theimladau yr hen veinidog parchus, pe buasai pobl ei ofal yn dewis ei fab-yn-nghyfraith, Mr. John Davies, Llansamlet, yn gynorthwywr iddo, yn hytrach nag edrych allan am neb arall, a buasai hyny yn eistedd yn esmwyth ar deimladau lleiafrif lluosog o'r eglwys, ond yr oedd teimlad y mwyafrif am gael gweinidog mwy poblogaidd ei ddoniau na Mr. Davies, a rhoddodd y gweinidog oedranus a'r lleiafrif o'r eglwys, ffordd iddynt. Rhoddwyd galwad unfrydol i Mr. David Davies, Llangeler, a'r hon y cydsyniodd. Dechreuodd ei weinidogaeth yma yn y flwyddyn 1795. Arferid dyweyd a chredu mai fel cydweinidog a Mr. Rees y daeth Mr. Davies i'r Mynyddbach a'r Ysgetty, ac nid fel ei ganlynydd; ond mewn llawysgrifen, o gyfansoddiad rhagorol, wedi ei llawnodi gan swyddogion eglwys y Mynyddbach, ar yr 16eg o Fedi, 1802, cawn, yn mysg pethau eraill, yr hyn a ganlyn :"Tua diwedd y flwyddyn 1794, neu ddechreu 1795, hysbysodd Mr. Rees, yn gyhoeddus o'r areithfa, yn mhresenoldeb canoedd o bobl, fod ei oed a'i lesgedd ef yn ei gwneyd yn angenrheidiol iddo roddi gofal gweinidogaethol yr eglwysi i fyny, yr hyn a wnaeth y pryd hwnw, ac anogodd ni i ddewis gweinidog arall. Yr oedd efe amryw weithiau cyn hyn wedi hysbysu ei fwriad i wneuthur felly, ond perswadid ef dro ar ol tro gan y gynnulleidfa i beidio. Mewn canlyniad i'w waith ef yn rhoddi y weinidogaeth i fyny, ni a roddasom alwad i Mr. David Davies, Llangeler, i ddyfod yn weinidog i ni, ar gymeradwyaeth ac yn ol cydsyniad Mr. Rees, yr hwn ei hun a lawnododd yr alwad."

Pan aeth y son allan fod cais wedi ei anfon at Mr. Davies i symud, parodd gyffroad mawr trwy'r eglwysi yn siroedd Caerfyrddin ac Aberteifi, ac yn enwedigol yn ei eglwysi ef ei hun. Cynhyrfwyd eglwys y Neuaddlwyd braidd i ddigofaint, fel yr ysgrifenodd y llythyr llym a cheryddol canlynol at eglwys y Mynyddbach :

"Frodyr Cristionogol yn y Mynyddbach.—Yr ydym yn anfon yr anerchiad hwn atoch gyda dymuniad am eich llwyddiant yn ysbrydol a thymhorol. Er fod ein helyntion fel eglwysi wedi bod i raddau yn anhysbys y naill i'r llall hyd yn awr, yr ydym yn cymeryd yn ganiataol nad ymddengys yn ddyeithr i chwi ein bod yn bresenol yn eich anerch, gan i'r pleidgarwch a'r hunanles a amlygir genych wrth geisio cymeryd oddi wrthym ein gweinidog, Mr. D. Davies, roddi achlysur i ni i wneyd hyn. Nid ydym am ei gwbl ryddhau ef o fai, gan iddo roddi mesur o wrandawiad i'ch cymhellion chwi cyn ymgynghori a phobl ei ofal, y rhai a'i galwasant allan gyntaf i'r weinidogaeth, ac eiddo pa rai ydyw mewn modd penodol. Yr ydym yn dal ar y cyfle yma i ymresymu a chwi mewn modd gonest a didderbynwyneb. Yn gyntaf, ystyriwch mai nid ymddygiad brawdol yw cyflogi dyn cyn y byddo amser ei wasanaeth drosodd gydag arall, ac heb ymgynghori dim a'r hwn sydd a hawl ganddo i'w wasanaeth. Ymddygiad yw hwn a gondemnir hyd y nod gan ddynion y byd; oni ddylech chwi, gan hyny, gywilyddio o'i blegid ? Yn ail, gan eich bod chwi wedi mabwysiadu dull anmhriodol i geisio denu Mr. Davies i ddyfod atoch; os bydd i chwi lwyddo yn eich amcan, a thrwy hyny, amddifadu dwy eglwys luosog o wasanaeth eu hanwyl weinidog, y rhai yn ddiweddar a