Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/22

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

luosogwyd yn fawr trwy fendith Duw ar ei ymdrechion ffyddlon a llafurus ef, yetyriwch y fath gyhuddiad pwysig y byddwch yn gorwedd dano; y fath euogrwydd blin a lyn wrthych i derfysgu eich meddyliau; a'r fath dal annheilwng a roddwch i'r diwy eglwys hyny am alw i'r weinidogaeth y fath bregethwr llwyddianus ag ydy w ef. Nid oes neb a all ddyweyd eich bod yn rhodio yn uniawn, ac yn ymddwyn yn ddidramgwydd, wrth geisio denu gweinidog eglwysi eraill i ddyfod atoch chwi, gan adael yr eglwysi hyny i ymdaro fel y gallont. Nid ffordd tangnefedd, deddf cariad, na chyfraith Crist yw hyn. Nid ydym ni yn dewis dilyn eich esiampl chwi trwy ddymuno i chwi fod heb weinidog, a llawenhau am eich bod yn ddigynorthwy; ond nis gallwn mewn un modd deimlo yn foddlawn i chwi gymeryd ein gweinidog ni.

Er ei bod yn amlwg eich bod chwi yn sefyll mewn angen o gynghor, peth arali ydyw a fyddwch yn ewyllysgar i ddilyn y cynghor goreu a ellid roddi i chwi. Yr oll a allwn ni wneuthur drosoch ydyw eich gorchymyn chwi a'ch helyntion i ofal y Duw Hollalluog, i arweiniad ei Air a'i Ysbryd sanctaidd, ac i weddiau a chyfarwyddiadau dynion duwiol, fel y byddo i chwi a ninau fyw mewn heddwch a chydgordiad, rhodio mewn cariad, a marw mewn gobaith o wynfyd tragwyddol. Hyn yn gywir a brawdol, oddiwrth aelodau eglwys Crist, cynnulledig yn y Neuaddlwyd.

EVAN THOMAS EVAN,
JAMES EVAN, Henuriaid
JOHN JENKIN,

JAMES WILLIAM,
EVAN DAVID,Diaconiaid."
JAMES THOMAS,

Er i symudiad Mr. Davies fod yn ddolur mawr i deimladau ei eglwysi, a lluaws eraill yn siroedd Caerfyrddin ac Aberteifi, ac i'w deimladau ei hun yn fwy na neb arall; etto dangosodd y canlyniad iddo wneyd yr hyn oedd unol ag ewyllys ei Arglwydd. Yr oedd Abertawy a'i hamgylchoedd poblog yn llawer eangach, pwysicach, a chyfaddasach cylch i weinidog o'i gymhwysderau ef, na'r holl wlad o I angeler i Aberaeron.

Cyn gynted ag yr ymsefydlodd Mr. Davies yn y lle, adfywiodd yr eglwys, a chynyddodd y gwrandawyr yn ddirfawr, fel y bu raid helaethu y capel yn y flwyddyn 1797. Ei faint, fel y nodasom, pan adeiladwyd ef yn 1762, oedd 45 troedfedd wrth 24, ond yn 1797, gwnaed ef yn 51 wrth 35, fel yr oedd yn un o'r capeli helaethaf yn Nghymru y pryd hwnw. Gan i weinidogaeth danllyd ac effeithiol Mr. Davies, fod yn offerynol i ychwanegu lluaws at yr eglwysi, a bod capel eang Ebenezer yn y dref, yr hwn a adeiladwyd yn 1803, yn gofyn am ei wasanaeth yn fynych, bu raid iddo ef a'r eglwysi edrych allan am gynorthwywr yn y weinidogaeth. Yn 1808, rhoddwyd galwad i Mr. Daniel Evans, Bangor, a'r hon y cydsyniodd. Daeth ef a'i deulu yma, Mehefin 20fed, 1808. I fod yn gydweinidog a Mr. Davies y galwyd Mr. Evans yma, ond cafwyd allan yn fuan mai y cynllun mwyaf cysurus i'r gweinidogion a'r eglwysi, oedd rhanu maes y llafur, a rhoddi i bob gweinidog ei ran ei hun. Felly cyfyngodd Mr. Davies ei lafur i'r Dref, Clydach, a'r Ysgetty, a Mr. Evans, i'r Mynyddbach a Threforis. Yn fuan drachefn, helaethodd cylch Mr. Evans yn ddirfawr, pan aed i alw am bregethu cyson yn Nglandwr, Llansamlet, a'r Felindre'. Wedi marwolaeth Mr. Davies, disgynodd gofal y ddiadell fechan yn Nghlydach arno, ac ar ol i'r holl ganghenau hyn fyned yn annibynol ar y fam—eglwys, yr oedd yn rhaid iddo dori bara yn y naill le a'r llall bob Sabboth, a dwy waith bob yn ail Sabboth. Yr oedd ei lafur yn awr yn ddirfawr, trwy ei fod yn gorfod pregethu dair gwaith bob Sabboth, a bod yn bresenol mewn cynifer o gyfarfodydd eglwysig, angladdau, &c. Bu farw y gweinidog defnyddiol a llafurus hwn, Mawrth 3ydd, 1835.