Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/23

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Wedi marwolaeth Mr. Evans, rhanwyd ei gylch gweinidogaethol yn bedwar. Dewisodd yr eglwysi yn Nhreforis, Glandwr, a'r Felindre', weinidogion iddynt eu hunain, a chan fod yn y fam-eglwys yn y Mynyddbach rhwng tri a phedwar cant o aelodau, yr oedd yn ddigon galluog i gynal gweinidog ei hun. Yn nechreu y flwyddyn 1836, rhoddwyd galwad i Mr. Isaac Harris, Talysarn, Arfon, a dechreuodd ei weinidogaeth yma yn Mai y flwyddyn hono. Yr oedd Mr. Harris yn bregethwr galluog lawn, a bu yn dra llwyddianus yma am tua dwy flynedd. Yna cafwyd allan nad oedd ei fuchedd yn deilwng o weinidog yr efengyl, a'r canlyniad fu i'r eglwys fyned i gyflwr terfysglyd a rhanedig iawn. Gwrthwynebai rhai y gweinidog yn benderfynol, ac yr oedd eraill yn gwrthod credu y cyhuddiadau a ddygid yn ei erbyn, ac am hyny, yn ei bleidio. Y canlyniad fu i'r eglwys rwygoaeth dau cant a phedwar-ar-bymtheg o'r aelodau allan gyda Harris, ac adeiladasant gapel eang yn y gymydogaeth. Aeth Harris yn fuan yn rhy ddrwg i'w bleidwyr ei hun i'w ddyoddef, a bu raid iddynt ymwrthod ag ef. Yna cynygiasant eu hunain i gyfundeb y sir, a phan ddarfu i'r gymanfa yn y Taihirion yn Mai, 1841, eu gwrthod, cynygiasant eu hunain i'r Bedyddwyr, a chymerodd y rhan fwyaf o honynt eu trochi. Dyna ddechreuad yr achos yn Nghaersalem newydd. Yr oedd yn eu mysg lawer o ddynion da, ac y mae yn ddiameu pe buasid ychydig yn fwy tirion a phwyllog, y gallesid eu cadw gyda'r Annibynwyr hyd y dydd hwn. Yr oedd, ac y mae, yr ardal yn ddigon poblog i gynal dau achos. Yn Mai, 1840, dechreuodd Mr. John Davies, Aberdar, ei weinidogaeth yn y Mynyddbach. Yr oedd yr hen eglwys hon yn awr, trwy y rhwygiad diweddar, ac ymadawiad tua thriugain o'r aelodau i ddechreu yr achos yn Nghadle, wedi myned yn wan a chydmarol fechan. Dywed Mr. Davies, mai cant ac ugain oedd rhif yr aelodau pan ddechreuodd ef ei weinidogaeth yma. Cynyddodd wedi hyny yn raddol fel yr oedd y rhif yn fwy na dau gant cyn marwolaeth Mr. Davies, yn 1854. Yn y flwyddyn 1855, rhoddwyd galwad i Mr. John Daniel, aelod gwreiddiol o'r Bryn, Llanelli, y gweinidog presenol. Yr oedd Mr. Daniel wedi ei urddo yn America; a chynaliwyd cyfarfod ei sefydliad yma Hydref 17eg a'r 18ed, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri D. Evans, Clydach; H. Evans, Carmel; J. Davies, Cwmaman; D. Rees, Llanelli; W. Watkins, Maesteg; T. Davies, Siloa, Llanelli; J. Thomas, Bryn; W. Jones, Abertawy; J. Thomas, Glynnedd; T. Davies, Treforis; L. Davies, Ysgetty, a J. Joseph, Llanedi. Mae Mr. Daniel wedi llanw ei le yn deilwng yma, a'r achos yn myned rhagddo yn ddymunol. Yn y flwyddyn 1860, adeiladwyd ysgoldy cyfleus ar y Drefboeth at gadw Ysgol Sabbothol, cyfarfodydd gweddio, a phregethu achlysurol. Mae yn 48 troedfedd o hyd wrth 20 o led. Bwriadwyd ef at gynal Ysgol Sabbothol, cyfarfodydd gweddio, a phregethu achlysurol. Mae tua chant a haner o blant ac eraill yn mynychu yr Ysgol Sabbothol a gedwir yma, a chan fod y lle mewn ardal sydd yn cynyddu yn gyflym yn ei phoblogaeth, mae yn dra thebyg y corpholir eglwys yma cyn pen llawer o flynyddau. Yn y flwyddyn 1865, tynwyd yr hen addoldy i lawr, ac adeiladwyd tŷ newydd, 56 troedfedd o hyd wrth 38 o led, y tu fewn i'r muriau. Gellir dyweyd yn ddibetrus, nad oes yr un capel harddach a mwy cyfleus na hwn yn yr holl Dywysogaeth. Y cynllunydd oedd Mr. J. Humphreys, un o ddiaconiaid yr eglwys, ac y mae Mr. Humphreys wedi cynllunio ac adeiladu amryw gapeli yn y gymydogaeth, heblaw y Mynyddbach. Amgylchynir y capel gan fynwent eang, yr hon a helaeth-