Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/24

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wyd yn fawr yn y flwyddyn 1850. Cafwyd tir gan Esgob Tyddewi at ei helaethu. Hyd prydles y capel yw, mil ond un o flynyddau, o ba rai y mae cant a naw wedi pasio.

Cafodd yr eglwys hon ei bendithio yn rhyfeddol, o bryd i bryd, a diwygiadau crefyddol nodedig o ddylanwadol a grymus. Nid oes genym ddefnyddiau i roddi hanes yr hyn a gymerodd le yma o ddechreuad yr achos hyd ddechreuad gweinidogaeth Mr. Lewis Rees, ond o hyny allan y mae genym hanes lled gyflawn. Nid oedd yr achos ond cymharol wan yma pan ymsefydlodd Mr. Rees yn y lle, er fod pregethu cyson yn cael ei gadw i fyny mewn gwahanol gyrau o'r ardal, heblaw Ty'rdwncyn, megis yn yr Ysgetty, y Wiguchaf, a'r Tycoch, gerllaw Treforis. Yn fuan wedi i Mr. Rees ddyfod i'r lle, cafwyd ychwanegiadau cyson at yr eglwys, nes y daeth mewn ychydig flynyddau yn eglwys luosog a dylanwadol. Yn mhen ychydig flynyddau wedi i Mr. Rees ddyfod yma, derbyniwyd dyn hynod iawn, dan amgylchiadau tra nodedig, i gymundeb yr eglwys. Ei enw oedd Roger Rogers, neu "Rotch o Gadle," fel y gelwid ef yn gyffredin. Yr oedd y gwr hwn yn more ei oes, ac yn mhell hyd at ganol ei ddyddiau, wedi bod yn nodedig o wyllt ac afreolaidd ei fywyd, fel meddwyn, ymladdwr, a digrif-ddyn. Trwy ryw foddion anhysbys yn awr, gweithiwyd argyhoeddiad ofnadwy o effeithiol o bechadurusrwydd ei gyflwr i'w feddwl. Teimlai ei gydwybod yn llosgi fel tân o'i fewn nes oedd ei boenau yn anoddefol. Elai oddiamgylch fel dyn gwallgof, a gofynai i bob un a gyfarfyddai a wyddent hwy am ryw foddion i ddiffoddi tân cydwybod euog. Aeth un bore Sabboth i eglwys Llangafelach, a chyfarfyddodd yno a'r person a'r clochydd. Dywedodd ei helynt wrthynt, ond nid oedd ganddynt hwy un cyfarwyddyd i'w roddi iddo amgen na'i gynghori i fyned at Mr. Lewis Rees, fel y dyn tebycaf yn y plwyf o allu ei wellhau. Dilynodd eu cynghor. Deallodd Mr. Rees ar unwaith natur ei glefyd a chyfarwyddodd ef at yr unig feddyginiaeth. Pan yr oedd Mr. Rees ar ei liniau yn gweddio drosto, teimlai loesion ei gydwybod yn dofi i raddau. Yn mhen ychydig derbyniwyd ef i aelodaeth eglwysig, a threuliodd weddill ei oes yn gristion disglaer, ac yn ddiarhebol am ei wresogrwydd. Byddai yn fynych yn tori allan i waeddi dan y bregeth, "O diolch, y mae yn gan mil gwell yma nag yn y dafarn." Dywedai Mr. Rees wrtho weithiau ar ganol y bregeth, "Taw Rotch, fy nhro i sydd i siarad yn awr." Ychydig a wyddai ac a deimlai Rotch am enwadyddiaeth. Byddai yn gwrandaw ac yn cymuno gyda'r Annibynwyr a'r Methodistiaid yn ddiwahaniaeth. Lle byddai fwyaf o dân oedd y lle a hoffai ef. Adroddir fod rhai o gymydogion Rotch wedi achwyn arno wrth feistr y gwaith ei fod gyda'i folianu a'i orfoleddu yn aflonyddu arnynt hwy. Galwodd ei feistr ef ato i'r swyddfa ryw ddiwrnod, a gofynodd iddo beth oedd hyn. Atebodd Rotch nad oedd neb o honynt yn achwyn arno pan oedd yn tyngu a rhegi, a meddwi, ac ymladd nes dychrynu pawb o'i gwmpas; ond yn awr, pan oedd e yn gweddio ac yn canmol ei Dduw, eu bod yn achwyn arno. "Wel Rotch,' ebe ei feistr, "rhaid i ti beidio a dy stwr, a bod yn ddistaw gyda dy grefydd fel pobl eraill." "Alla i ddim syr," atebai Rotch. "Beth wedsech chwi syr tyswn i yn myned yn llaw y swyddog i'r carchar am ddyled, a chwithau yn dod i'n cwrdd ni, ac yn gofyn iddo, ble yr oedd e yn myn'd a fi; ac wedi cael gwybod yn talu drostw i, ac yn fy ngollwng i yn rhydd. Odych chi yn meddwl, syr, y gallaswn i beidio a'ch canmol wrth bawb. O! syr, yr own i yn llaw cyfiawnder, yn ymyl drws y carchar, ar gael y