Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mwrw i mewn; ond fe ddaeth Iesu anwyl yn mlaen, ac a 'wedodd wrth gyfiawnder am fy ngollwng i yn rhydd, y talsa ef fy nyled. Ych chi yn meddwl, syr, y galla i beidio a'i ganmol—Bendigedig fyddo ei enw." A chyda hyny, dechreuodd ei folianu yn swyddfa ei feistr, ac yr oedd llygaid y boneddwr yn llenwi o ddagrau wrth ei wrando, ac ni feddyliodd byth mwy am ei wahardd, canmoled a molianed a fynai. Mae lluaws o engreifftiau cyffelyb o angerddoldeb ei deimlad, yr hyn a ddangosai mor ddwfn a gwirioneddol oedd ei argyhoeddiad. Bu farw yr hen gristion nodedig hwn Rhagfyr 6ed, 1821, yn 78 oed. Ei gyfansoddiad ef yw y penillion canlynol o berthynas i'w droedigaeth a'i brofiad. Ni ddigwyddodd i ni weled dim arall o'i waith.

"Pan o'wn i ar fy ngwely,—Un prydnawn, &c.,
Heb feddwl dim ond pechu,—Un prydnawn,
Fe ddaeth ei danllyd saethau,
Y ddeddf a'i dychryniadau,
I'm tori lawr yn ddiau,—Un prydnawn, &c.,
A gado'm holl bleserau,—Un prydnawn.

O Iesu, mhriod hawddgar,—Diolch byth, &c.,
Ddanfonodd Duw i'r ddaear,—Diolch byth,
Fe lanwodd y cysgodau,
Cyflawnodd y 'Sgrythyrau,
Bu farw dros fy meiau,—Diolch byth, &c.,
Mae'n eiriol dros bechodau,—Diolch byth.

Ceir gwel'd yr arfaeth foreu—Cyn b'o hir &c
Yn esgor ar ei pherlau— Cyn b'o hir
Fe gwyd y meirw allan
Daw'r defaid idd ei gorlan
Trwy waed y bugail cadarn—Cyn b'o hir &c
Er gwaethaf dyfais Satan—Cyn b'o hir

Ni feddai'n wyneb angau,—Ond efe, &c.,
Pan elwyf i'r clorianau,—Ond efe,
Mi fentra yn ei glwytau,
Heb ddim o'm cyfiawnderau,
Ni feddai ddim yn bwysau,—Ond efe, &c.,
Pan elwy' i o flaen y frawdle,—Ond efe.

Fe'm prynodd o gaethiwed,—Do yn wir, &c.,
O ddwylo'r hen gythreuliaid,—Do yn wir,
O blith y criw uffernol.
Oddiwrth euogrwydd damniol,
Fe'm golchodd yn y ffynon,——Do yn wir, &c.,
Addawodd i mi goron,—Do yn wir.'

Mae yn ddiameu mai nefoedd ar y ddaear oedd gwrandaw yr hen bererin yn datganu y penillion hyn yn y teimlad a'i nodweddai ef.

Yn fuan wedi i Mr. Rees symud o Lanbrynmair, daeth gwr ieuangc o'r eglwys hono ar ei ol i'r ardal hon, er mwyn cael mwynhad o'i weinidogaeth. Ei enw oedd William Jones. Cafodd le mewn swyddfa yn Abertawy i ennill ei fywioliaeth, a threuliodd weddill ei oes yma. Yr oedd yn ysgolhaig rhagorol, ac yn ddyn nodedig o grefyddol. Elai i fyny o'r dref i'r Mynyddbach bob Sabboth, ac yr oedd yn cyrhaedd yno tuag awr cyn pryd oedfa, er mwyn darllen ychydig benodau i bobl y wlad a ddeuant yno yn gynar. Aeth darlleniadau William Jones, gydag amser, mor boblogaidd a'r pregethau, a byddai y capel yn orlawn yn gyffredin erbyn y buasai yno. Arferai y gwr da hwn ysgrifenu pob pregeth a wrandawai, ac yn neillduol pregethau ei hoffus weinidog, y rhai a gofnodai agos air