Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/26

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn ngair. Mae tair cyfrol o'i ysgrifeniadau yn ein meddiant ni yn awr, sef y pregethau a wrandawodd yn y blynyddoedd 1764, '65, '66 a '78. Heblaw y pregethau, cynwysa y cyfrolau gwerthfawr hyn lawer o nodiadau hanesyddol a phrofiadol o eiddo yr ysgrifenydd. Yr oedd yr achos yn y Mynyddbach yn y blynyddoedd hyn, yn ol tystiolaeth William Jones, yn rhyfeddol o lewyrchus. Ar ddiwedd ei gofnodiad o bregeth Mr. Rees, oddiar Esaiah xliv. 5., ar Sul cymundeb, Chwefror 10fed, 1765; ysgrifena, "Heddyw yr oedd un-ar-ddeg o aelodau yn cael eu derbyn i mewn i'r gynnulleidfa—saith o ferched ifainc, a dau ŵr ifanc, a dwy wraig newydd briodi. Duw a wyr pa faint o honynt oedd mewn undeb dirgelaidd a Iesu Grist. Rhwng y bregeth a'r ordinhad efengylaidd o Swper yr Arglwydd, ynghyd a'r olwg ddymunol o weled cynifer o ddynion ifainc yn ymofyn y ffordd tua Sïon, a'u hwynebau (mewn golwg allanol o'r hyn lleiaf,) tuag yno. Rhwng y naill beth a'r llall, meddaf, ni a gawsom un o'r oedfeydd mwya' dymunol ag a gefais erioed, a hyn oedd cyfaddefiad neillduol amryw eraill. O Dduw na âd i'n mwynder ni ymado, ond helpia ni, yn enwedig y rhai ifainc, i ddal ein ffordd ac i chwanegu cryfder. O Arglwydd na chaffer fi, yr hwn wyf yn awr er's rhai blynyddoedd wedi cyfenwi fy hun ar enw Israel, a rhoi fy hunan i ti, yn byw yn segur nac yn ddiffrwyth yn dy winllan di. Amen." Mawrth 10fed, 1765, ar ol pregeth Mr. Rees, oddiar Phil. iii. 8. Ysgrifena, "Yn wir, y mae genyf achos mawr i gwyno am fy nghalongaledwch dan y gyfryw weinidogaeth wresog ac efengylaidd. Heddyw y derbyniwyd Pally Rees[1] i'r gynnulleidfa, ac o mor serchiadol, mor ddifrifol, ac mor syml, yr oedd ei thad yn ymddiddan a hi, yn mhlith eraill, a hithau newydd wella ychydig ar ol bod yn glaf. Duw bendithia y naill beth a'r llall iddi hi, ac i ninau hefyd, i'n dwyn yn nes atat ti dy hun." Ar ol cofnodiad helaeth o bregeth gan Mr. John Powell, Henllan, oddiar Salm lxxxvii. 5. Sylwa, "O mor hyfryd oedd hi wrth gyfranu y Sacrament, pan oedd Mr. Rees yn holi ac yn rhybuddio y llangc ifanc oedd yn cael ei dderbyn i mewn. Fe fyddai yn dda genyf, debygwn weithiau, pe byddwn i yn un bob tro yn cael fy nerbyn i mewn, pan fwyf yn gwrando ar ein gweinidog anwyl a pharchedig yn cynghori, yn anog, ac yn gweddio dros y brodyr a'r chwiorydd fo yn cael eu derbyn i mewn, yn enwedig y rhai ifainc." Mae yn ymddangos fod y deng-mlynedd-ar-hugain cyntaf o dymhor gweinidogaeth Mr. Rees yn y Mynyddbach, yn ysbaid o lwyddiant graddol a chyson, ond yn y chwe' mlynedd blaenorol i sefydliad Mr. D. Davies, yr oedd yr achos yn hytrach yn dadfeilio, o herwydd methiant Mr. Rees gan henaint, a'r gradd o oerni oedd rhyngddo a'r eglwys ar gyfrif eu hanewyllysgarwch i dderbyn ei fab-yn-nghyfraith i fod yn gydweinidog ag ef.

Yn ddioed ar sefydliad Mr. Davies yn y lle, adfywiodd yr achos yn anghyffredin, ac ychwanegwyd canoedd yma, ac yn yr Ysgetty mewn ychydig amser. Yn y flwyddyn 1807, torodd diwygiad nodedig o rymus allan. Yr cedd y dylanwadau mor nerthol nes y byddai y bobl yn aros yn y capeli hyd haner nos i ganu, wylo, a gweddio, a byddent drachefn yn finteioedd wrth fyned adref yn aros yma a thraw i weddio. Cafodd İlawer o'r dynion mwyaf annuwiol yn yr ardal eu hennill at grefydd yn y diwygiad hwn. Mae rhanau o'r gân a gyfansoddodd Mr. Davies mewn cyfeiriad ato yn deilwng o'u cofnodi yma.

  1. Merch Mr. Rees, y gweinidog, ac wedi hyn, gwraig Mr. John Davies, Llansamlet.