Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Treforis yn ddiweddar, ga'dd brawf o ffafar Daw,
Trwy ei ymweliad grasol, gwnaeth lawer marw'n fyw;
Rhai hen a chanel oedran, ac hefyd ieuengctyd man,
Achubwyd rhai ugeiniau rhag myn'd i uffern dân;
Fe gerddai'r awel rymus i fyny ac i lawr,
A'i thro trwy Abertawy nes briwio muriau mawr;
Ac hefyd Llangafelach o amgylch Mynyddbach,
Cawd yn Nghwmbwrla berlau, fydd byth yn berffaith iach.

Y Gwr a'r bwa ganddo, a lwyddodd ar ei farch,
Nes gwneuthur rhai gelynion o'u bodd roi iddo barch;
Rhai canoedd ca'dd eu cymhell i mewn i eglwys Dduw,
A welwyd yn ddiweddar ar faes y byd yn byw.
Mae rhai o'r cablwyr creulon, gelynion gwaethaf gaed,
Yn moli Duw yn uchel am iachawdwriaeth rad,
A lifodd fel yr afon rhwng lladron ar y bryn,
I olchi'r rhai ffieiddiaf mor lân a'r eira gwyn.'

Yn ddioed ar ol y diwygiad tanllyd hwn, ysgubwyd llawer iawn o'r trigolion ymaith gan angau, yn enwedig yn Nhreforis. At hyny y cyfeiria y penillion canlynol o'r gân rag-grybwylledig.

"Mi edrychais, ac a welais, wr arall ar y ma's,
Yn tramwy trwy'r ardaloedd ar farch oedd welw las;
A rhoddwyd iddo awdurdod ar bob peth dan y nef,
Ac uffern ddu anhoffaidd yn canlyn gydag ef.
Ar dro daeth i Dreforis, fel gwr awyddus iawn,
I gwblhau gwaith ei Arglwydd yn ddiwyd fore a nawn;
Fe gwympodd frodyr gwrol oedd gu ac anwyl im',
A'u dodi mewn modd buan yn fud heb yngan dim.

Mi gollais eu cyfrinach, fu'n bleser lawer gwaith,
Ni welais byth o'u hwyneb o fewn i'r anial maith;
Aethant yn ngoleu'r haulwen, trwy'r hen Iorddonen ddu,
Maent 'nawr yn canu'r anthem yn nhref Caersalem fry.
Hwy dd'wedent yn dra eglur cyn myn'd o'r corph i ma's,
Fod Iesu Grist yn ddigon yn ngwyneb angau glas;
'Mae'r ffordd o'n blaen yn oleu, ni welwn dir ein gwlad,
Er maint yw grym y tonau, mae'r graig o dan ein traed.'

Ca'dd hefyd famau yn Israel, eleni eu tori lawr,
A'u symud mewn modd sydyn i'r tragwyddoldeb mawr;
Ni welai ddim o'u hwyneb o fewn i'r eglwys mwy,
Nes delo'r awr i ymddatod, gael myned atynt hwy.
Rhyw lawer welai'n eisiau, oedd llynedd ar y llawr,
Yn gwledda gyda'u gilydd wrth fwrdd ein Harglwydd mawr;
Maent 'nawr yn Sion dawel, heb ryfel o un rhyw,
Pob un wrth fodd ei galon, yn gyson foli Duw."

Cafwyd ychwanegiadau mawrion at yr eglwys hon yn nhymor gweinidogaeth Mr. Evans, ar wahanol amserau, ond yn y flwyddyn 1829, y bu y cyffroad rhyfeddaf o gwbl yma. Derbyniodd Mr. Evans y flwyddyn hono, yn ystod chwe' mis, chwe' chant a haner o aelodau newyddion i gymundeb eglwysig!! Cafodd yr eglwys hon ei hamddifadu o'r gwlaw grasol a ddisgynodd ar y rhan fwyaf o eglwysi y Dywysogaeth yn y blynyddoedd 1839-41, o herwydd y terfysg a'r rhwygiad anhapus a gymerodd le ynddi. Yn yr adfywiad a gymerodd le yn Morganwg, Mynwy, a chyrau o'r siroedd cylchynol, yn 1849, cafodd y Mynyddbach ran o'r gawod. Ychwanegwyd pedwar-ugain-a-phump at yr eglwys yn y flwyddyn hono. Oddiar hyny hyd yn awr, y mae yr achos wedi myned rhagddo yn ddymunol, er na fu yma unrhyw gyffroadau anghyffredin.

Mae eglwys y Mynyddbach i'w hystyried fel mam i'r holl eglwysi oddi amgylch. Mae yr eglwysi canlynol yn ganghenau uniongyrchol o honi—