Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/28

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Brynteg, Crwys, Ysgetty, Ebenezer Abertawy, Glandwr, Libanus a Horeb, Treforis, Clydach, Felindre', Bethel, Llansamlet, a Chadle. Merched i'w merched hi y gellir ystyried yr eglwysi diweddaraf a ffurfiwyd yn y gymydogaeth. Aelodau o'r Mynyddbach hefyd oedd y rhan fwyaf o sylfaenwyr yr achosion Methodistaidd yn Llansamlet, Crug-glas, Abertawy, ac yn neillduol Treforis.

Gellid yn naturiol ddisgwyl fod lluaws o bregethwyr wedi cyfodi o bryd i bryd mewn eglwys mor hen a lluosog a hon. Mae yn ddigon tebyg i amryw gael eu cyfodi yma yn nhymor boreuaf yr achos, er nas gallasom ni ddyfod o hyd i'w henwau. Y rhai canlynol yw yr unig rai y gwyddom ni am danynt.

William Llewellyn, Cwmmawr. Gweler hanes y Crwys.

Noah Jones, Walsall, sir Stafford. Yr oedd yn enedigol o'r parth uchaf o blwyf Llangafelach. Addysgwyd ef yn Nghaerfyrddin. Bu am ychydig amser yn y Drefnewydd, Maldwyn, ond ni chafodd ei urddo yno. Symudodd i Cradley, yn sir Gaerwrangon, lle yr urddwyd ef yn 1750. Symudodd i Walsall yn 1762, lle yr ymddengys iddo dreulio gweddill ei oes. Mae Mr. Thomas Morgan, Henllan, yr hwn oedd yn gydfyfyriwr ag ef yn yr athrofa, yn dyweyd ei fod yn ŵr ieuangc teilwng a chrefyddol iawn, ac yn ysgolhaig rhagorol.

Daniel Gronow, Bala. Gwelir ei hanes yn nglyn a'r Bala.

Thomas Gray, Abermeurig. Glowr oedd ef wrth ei alwedigaeth, ac yn ei ieuengctyd yr oedd yn wyllt ac annuwiol iawn. Un prydnawn ceisiodd goruchwyliwr y gwaith ganddo fyned yn fore dranoeth ar neges drosto ef i Gastellnedd, yr hyn a wnaeth. Tra yr oedd ef yn Nghastellnedd, dygwyddodd damwain angeuol yn y pwll lle y gweithiai, a chafodd amryw o'i gydweithwyr eu hangau. Yntau, wrth ddychwelyd adref yn feddw, a gyfarfyddodd a dyn yr hwn a'i hysbysodd o'r ddamwain a ddigwy ddasai i'w gydweithwyr, gan ei gyfarch, Twm Gray, yr wyf fi yn synu dy weled di yma; yr oeddwn i yn meddwl dy fod yn uffern er wyth o'r gloch bore heddyw." Effeithiodd y newydd, a geiriau y dyn gymaint arno fel y sobrodd yn y fan, ac ni chafodd ei feddwl lonyddwch o hyny allan, nes iddo ymgymeryd a chrefydd. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn y Mynyddbach, ac yn mhen ychydig amser cafodd anogaeth i ddechreu pregethu. Derbyniwyd ef i'r athrofa yn Abergavenny, Hydref 3ydd, 1757. Ar orpheniad ei amser yno, cafodd alwad i fyned yn ganlynydd i'r enwog Phillip Pugh yn Abermeurig, Llwynpiod, &c. Syrthiodd yn raddol i gyfeillgarwch mynwesol a'i gymydog Mr. Rowlands, Llangeitho; ac o ychydig i ychydig aeth i ymgymysgu mwy a'r Methodistiaid nag a'r Annibynwyr, a'r canlyniad fu i'r hen eglwysi Annibynol dan ei ofal, erbyn terfyn ei oes ef, fyned yn hollol Fethodistaidd. Bu Mr. Gray farw yn y flwyddyn 1810. Dywedir y byddai ar amserau yn pregethu yn nodedig o effeithiol. John Vulk. Ganwyd ef tua y flwyddyn 1745) Bu am rai blynyddau yn cyfaneddu yn y tŷ wrth gapel y Mynyddbach. Teithiodd lawer trwy dde a gogledd fel pregethwr. Ar ol bod am lawer o flynyddau yn pregethu gyda'r Annibynwyr, trodd at y Bedyddwyr, a chyda hwy y terfynodd ei oes yn 90 oed, tua y flwyddyn 1835.

Thomas Jones. Yr oedd yn briod a chwaer Mr. D. Davies, y gweinidog, ac yn enedigol o gymydogaeth Llangeler, ond dywedir mai yn y Mynyddbach y dechreuodd bregethu. Bu am rai blynyddau yn pregethu i'r Cymru yn Lambeth, Llundain. Bu farw Ionawr 27ain, 1817.