Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 3.pdf/14

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CAPEL ALBANY, NEU Y GREEN, HWLFFORDD.

Yr eglwys a gyferfydd yn y lle hwn yw yr eglwys Ymneillduol hynaf yn sir Benfro. Cafodd ei chasglu a'u ffurfio yn eglwys trwy lafur Mr. Peregrine Phillips, un o'r gweinidogion anghydffurfiol. Wedi i Mr. Phillips gael ei fwrw allan o eglwysi Llangwm a Freystrop yn Awst 1662, rhentiodd dyddyn o'r enw Dredgman-hill, yn agos i Hwlffordd, dan Syr Herbert Perrot, yr hwn a fu yn noddwr caredig iddo yn yr holl erledigaethau yr aeth trwyddynt. Yn fuan ar ol ymsefydlu yn Dredgman-hill dechreuodd Mr. Phillips bregethu yn ei dy ei hun, ond cafodd ef a rhai o'i wrandawyr eu cymeryd i garchar am wneyd hyny. Mae yn ymddangos iddo fod yn pregethu yn ei dy ei hun, yn cael ei gynnorthwyo yn achlysurol gan Mr. John Luntley, yr hwn a droesid allan o Lanstadwell a Nolton, mor fynych ag y goddefai peryglon yr amseroedd iddo wneyd, trwy yr holl dymor blin o 1662 hyd 1689, pan y cafodd yr Ymneillduwyr nodded Deddf y Goddefiad. Yn mis Hydref 1667 cadwyd y cymundeb cyntaf y mae genym hanes am dano yn Dredgman-hill. Mae yn dra thebygol mai y pryd hwnw y ffurfiwyd yr eglwys. Pan ganiataodd Siarl II. ychydig o ryddid i'r Ymneillduwyr darfu i Mr. Phillips drwyddedu ei dy ei hun a thy Mr. Richard Meyler, yn nhref Hwlffordd, at bregethu ynddynt fel gweinidog Annibynol. Dyddiad y trwyddedau yw Ebrill 30ain, 1672. Ond ni pharhaodd y rhyddid hwn fawr gyda blwyddyn, a bu raid iddo ef a'r bobl a ymlynent wrtho weithio eu ffordd goreu y medrent trwy bob gwrthwynebiad ac erledigaeth. Yn 1687, rhoddodd Iago II. ryddid i'r Ymneillduwyr Protestanaidd, er mwyn iddo gael esgus dros roddi rhyddid i'r Pabyddion. Daliodd Mr. Phillips drachefn afael ar y fantais hono. Trwyddedodd ei dy ei hun a thy Mr. R. Meyler, cawsant bellach fesur o lonyddwch nes i Ddeddf Goddefiad ddyfod i rym yn 1689. Yna cymerasant dy ar y Green yn Hwlffordd, yr hwn a drowyd ganddynt yn gapel yn 1691, ac yn y fan hono y mae y gynnulleidfa yn addoli hyd y dydd hwn. Yn fuan wedi cael y capel yn barod, os nad cyn hyny, cafodd yr hen weinidog fyddlon a dyoddefus ei alw oddiwrth ei waith at ei wobr. Bu addoliad yn cael ei gadw yn wythnosol yn Dredgman-hill am flynyddau wedi marw Mr. Phillips, ac wedi agoriad y capel ar y Green. Yr oedd Mr. Constantine Phillips, mab yr hen weinidog, yn parhau i gyfaneddu yn annedd ei dad ac yn aelod ffyddlon a defnyddiol o'r eglwys. Yr oedd yr eglwys yn wasgaredig iawn yn amser Mr. Phillips, cyfaneddai rhai o'r aelodau yn Tenby, Penfro, Trefgarn, Lawrenny, a pharthau pellenig eraill. Bernir mai tua thriugain oedd rhif yr aelodau yn 1691 pan y bu Mr. Phillips farw.

Yn dra buan wedi marwolaeth Mr. Phillips dewiswyd Mr. Thomas Davies yn ganlyniedydd iddo. Dechreuodd Mr. Davies ei weinidogaeth yma cyn diwedd y flwyddyn 1691. Yn fuan wedi iddo ef ymsefydlu yma ffurfiwyd canghenau o'r fam eglwys yn eglwysi yn Nhref Penfro, ac yn Nhrefgarn, a chan mai Mr. Davies oedd yn gweinidogaethu yn mhob un o honynt yr oedd ei lafur yn fawr, er fod ganddo rai pregethwyr yn mysg yr aelodau yn ei gynnorthwyo. Yn y flwyddyn 1701 cafodd y capel ar y Green ei niweidio i'r fath raddau gan ystormydd fel y bu raid ei ailadeiladu yn y flwyddyn ganlynol. Bu Mr. Davies yn llafurio yma, mewn cysylltiad a Phenfro a Threfgarn, hyd ddechreu y flwyddyn 1720, pryd y cyfyngodd ei lafur i Benfro yn unig.