Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 3.pdf/15

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Wedi ymadawiad Mr. Thomas Davies rhoddodd yr eglwys yn y Green alwad i Mr. Evan Davies, myfyriwr o athrofa Dr. Ridgley, Llundain. Ar ol bod yn pregethu ymi ar brawf am yn agos tair blynedd urddwyd ef Mehefin 5ed, 1723. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Meistri David Price, Maesyronen, Thomas Perrot, Caerfyrddin, Thomas Davies, y gweinidog blaenorol, Phillip Pugh, Blaenpennal, Benjamin Lewis, a Mr. Watkins. Nid ydym yn gwybod dim o hanes y ddau ddiweddaf. Y flwyddyn ganlynol i urddiad Mr. Davies aed i'r draul o gan' gini i adgyweirio y capel. Bu Mr. Davies yn dra llwyddianus yma am dair-blyneddar-hugain, ond cwyna iddo gael ei ofidio yn fawr yma gan rai dynion anhywaith, ac moi o'u hachos hwy y gwnaeth ei feddwl i fyny i ymadael a'r lle. Yn 1741, wedi marwolaeth Mr. Vavasor Griffiths, dewisodd y Bwrdd Henadurol a'r Bwrdd Cynnulleidfaol Mr. Davies yn athraw yr Athrofa yn ei le. Mewn canlyniad i hyny symudwyd yr Athrofa o sir Faesyfed i Hwlffordd, a bu yno hyd 1743, pryd y derbyniodd Mr. Davies alwadau oddiwrth yr eglwysi yn Llanybri a'r Bwlchnewydd, ac y symudodd yno. Ar hyn symudwyd hi i Gaerfyrddin, ac unwyd hi a'r ysgol ramadegol a ged wid yno gan Mr. Samuel Thomas, gweinidog Heol-awst. Cafodd Mr. Thomas yn awr ei ddewis yn gyd-athraw a Mr. Davies. Canlyniedydd Mr. Davies yn y Green oedd Mr. Jenkin Jones, myfyriwr o athrofa Dr. Doddridge. Methodd yr eglwys gyduno i roddi galwad iddo, am fod amryw yn barnu ei fod n gogwyddo yn ei farn at Ariaeth, ac nid oeddent yn cael ynddo y difrifola hyny a ddysgwylient gael mewn gweinidog. Gan i fwyafrif yr eglwys fynu ei gael, ymneillduodd ei wrthwynebwyr a chymerasant ystafell at addoli ynddi hyd nes y gwelent eu ffordd yn agored iddynt i ddychwelyd i'r capel. Yr oeddynt yn barnu mai byr fuasai ei arosiad ef yn y lle; ac felly y bu. Bu farw yn mhen dwy flynedd, mewn canlyniad i ddamwain a'i cyfarfyddodd wrth hela. Wedi ei farwolaeth ef dychwelodd y rhai a ymadawsent ar ei ddyfodiad, yn ol i'r capel.

Wedi marwolaeth Mr. Jenkin Jones, rhoddwyd galwad i Mr. John Hughes, o athrofa Caerfyrddin, i ddyfod yma ar brawf. Dechreuodd bregethu yma Medi 14eg, 1745, ac ar ol bod ar brawf am ddwy flynedd rhoddwyd galwad unfrydol iddo, ac urddwyd ef Medi 23ain, 1747. Traddodwyd yr hyn a elwid "pregeth yr urddiad" gan Mr. David Williams, Caerdydd; gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. Samuel Thomas, Caerfyrddin, a phregethodd Mr. George Palmer, Abertawy, ar ddyledswydd y gweinidog. Yr oedd y gweinidogion canlynol hefyd yn bresenol, a rhai o honynt yn cymeryd rhan yn y gwasanaeth:-William Maurice, Trefgarn; Samuel Jones, Capel Seion; David Thomas, Castellredd; David Evans, Drewen; David Griffiths, Llechryd; David Lloyd, B., uberian; Thomas Morgan, Henllan, a William Llewelyn, Cwmmawr. Rhif yr aelodau a arwyddasant alwad Mr. Hughes oedd deunaw-a-deugain. Parhaodd ef i weinidogaethu yma hyd Gorphenaf 10fed, 1775, pryd y rhoddodd ofal yr eglwys i fyny. Yr ydym yn hollol anhysbys o achos ei ymadawiad. Mae llyfr yr eglwys yn dangos iddo dderbyn dros chwechugain o aelodau yma yn ystod y deng-mlynedd-ar-hugain y bu yn y lle, ac mai yn raddol, yn ol y cyfartaledd o dri neu bedwar yn y flwyddyn, dros ysbaid yr holl flynyddau hyn, y bu y cynydd. Yn y flwyddyn 1777, rhoddwyd galwad i Mr. Benjamin Evans, Llanuwchllyn, a'r hon y cydsyniodd; ond ni bu ei arosiad ef yma ond byr. Derbyniodd alwad oddiwrth eglwys y Drewen, sir Aberteifi, a symudodd yno Mehefin 24ain, 1779. Wedi ymadawiadd Mr. B. Evans, rhoddwyd