Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 3.pdf/16

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

galwad i Mr. Thomas Davies, o Hanover, sir Fynwy, a dechreuodd ef ei weinidogaeth yma Medi 17eg, 1780. Yn mhen rhyw ysbaid wedi ei scfydliad, cyfododd rhyw ymrysonau yn yr eglwys, yr hyn a barodd flinder nid bychan i feddwl y gweinidog duwiol, ac yn mis Ebrill, 1788, rhoddodd ei ofal gweinidogaethol i fyny. Nid oes genym unrhyw wybodaeth am natur nac achosion yr ymry son. Y cwbl a ddywedir wrthym ydyw, mai "rhyw amgylchiadau amheus" a achosodd yr anghydfod, yr hwn a derfynodd yn ymadawiad y gweinidog rhagorol hwn.

Wedi ymadawiad Mr. Thomas Davies, rhoddwyd galwad i Mr. John Evans, o athrofa Croesoswallt, i ddyfod yma ar brawf. Efe a ddechreuodd bregethu yma Mai 11eg, 1788, ac wedi ei gadw ar brawf hyd Mehefin 5ed, 1789, rhoddwyd galwad iddo. Rhif yr aclodau y pryd hwnw oedd triugain a chwech, ond gwrthododd pedwar o honynt arwyddo yr alwad, o herwydd nad oedd Mr. Evans yn ddigon Calfinaidd ei olygiadau yn ol eu barn hwy. Ymddengys fod y pedwar hyn yn bobl lled gyfoethog, oblegid dywedir iddynt ar ol ymadael a'r Green, roddi cymorth i'r Bedyddwyr i adeiladu capel. Cymerodd urddiad Mr. Evans le Gorphenaf 22ain, 1789. Traddodwyd pregeth yr urddiad gan Mr. John Griffiths, Glandwr; gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. Richard Morgan, Henllan, a thraddodwyd y bregeth ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. B. Evans, Drewen. Yr oedd Meistri John Richards, Trefgarn, a Stephen Lloyd, Brynberian, hefyd yn wyddfodol ar yr achlysur. Parhaodd Mr. Evans i lafurio yma hyd derfyn ei oes yn 1808. Mae yn ymddangos ei fod yn barchus gan y bobl, ac i fesur yn Ilwyddianus. Gan nad yw ef, fel y gweinidogion o'i flaen, wedi cofnodi enwau y rhai a dderbyniwyd ganddo, nis gallwn ddyweyd eu nifer. Wedi marwolaeth Mr. Evans, bu yma un ar brawf, yr hwn oedd yn credu athrawiaeth adferiad, ond gwrthododd yr eglwys roddi galwad iddo. Nid ydym wedi gallu cael ei enw. Bu Mr. Josiah Hill yma hefyd ar brawf, ond nid ymsefydlodd yma fel gweinidog.

Y gweinidog nesaf yma oedd Mr. John Bulmer, o athrofa Rotherham. Cymerodd ei urddiad le Ebrill 28ain, 1813. Dechreuwyd y gwasanaeth gan Mr. Harries, Penfro; traddodwyd y gynaraeth gan Mr. Peter, Caerfyrddin; gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. Lloyd, Henllan; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. Warlow, Milford, ac yn yr hwyr pregethwyd ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr. Peter, Caerfyrddin. Yr oedd Mr. Griffiths, Glandwr; Mr. Evans, St. Florence, a Mr. Griffiths, Tyddewi, hefyd yn wyddfodol, ac yn cymeryd rhan yn y gwasanaeth. Bu Mr. Bulmer yn weinidog yma am saith-mlynedd-ar-hugain, ac yr oedd yn barchus iawn gan ei gynnulleidfa a thrigolion y dref a'r ardal yn gyffredinol. Yn y flwyddyn 1840 rhoddodd ei ofal gweinidogaethol i fyny, a symudodd i Loegr. Wedi ymadawiad Mr. Bulmer, rhoddwyd galwad i Mr. W. W. Fletcher, mab Dr. Fletcher, o Lundain. Urddwyd ef Gorphenaf 14eg, 1841. Cafodd y capel ei ailadeiladu yn yr adeg yma, ac agorwyd ef Mawrth 18fed, 1841. Arhosodd Mr. Fletcher yma tua thair blynedd. Yn y wyddyn 1845, rhoddwyd galwad i Mr. James Williams, Keyston, yr hwn a gymerodd ofal y Green mewn cysylltiad a Keyston. Cynaliwyd cyfarfod sefydliad Mr. Williams yma Medi 2il, 1845. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. Griffiths, Tyddewi; gweddiwyd am fendith ar yr undeb gan Mr. Warlow, Milford; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. Rees, Llanelli, ac i'r eglwys gan Mr. Caleb Morris. Bu ef yma yn barchus iawn hyd derfyn ei oes yn 1870. Yr oedd ei iechyd yn wael