Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 3.pdf/17

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iawn am yr un-mlynedd-ar-bymtheg olaf o'i fywyd, yr hyn a'i hanalluogodd i fod o gymaint o wasanaeth i'r achos ag a allasai dyn o'i dalent a'i sirioldeb ef fod pe buasai yn ddyn iach.

Oddiar farwolaeth Mr. Williams hyd yr haf diweddaf, bu yr eglwys yn ymddibynu ar weinidogaeth achlysurol. Mehefin 27 ain, 1872, urddwyd Mr. William J. Evans, o athrofa Aberhonddu, yma. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. J. Lewis, Tenby; holwyd y gweinidog ieuange gan ei frawd, Mr. E. Evans, Caernarfon; dyrchafwyd yr urddweddi gan Mr. C. Guion, Milford; pregethwyd i'r gweinidog gan Proff. Morris, athraw Duwinyddol athrofa Aberhonddu, ac i'r eglwys gan Mr. J. Davies, Glandwr, a dybenwyd trwy weddi gan Dr. Thomas Davies, athraw athrofa y Bedyddwyr yn Hwlffordd. Mae golwg obeithiol iawn ar y lle yn awr, ac arwyddion y bydd gweinidogaeth Mr. Evans yn dderbyniol a llwyddianus yma. Yr oedd amryw deuluoedd tra chyfrifol a dylanwadol yn perthyn i'r achos hwn ar ei gychwyniad, megis y Cadben Longman, o High Freystrop; Hugh Harries, Ysw, Crug-glas; William Meylett, Ysw., Bryn, gerllaw Penfro; Meistri Samuel Smith Sympston; Samuel Ferrior, Pennar; Richard Meyler, Hwlffordd, a llawer eraill. Mae hiliogaeth rhai o'r personau hyn yn awr yn mysg boneddigion cyfoethocaf sir Benfro, ond y maent er's rhai cenedlaethau bellach wedi ymwrthod ag egwyddorior Ymneillduol eu henafiaid duwiol, ac wedi myned yn Eglwyswyr penboeth. Nid ydym yn deall i'r gynnulleidfa ar un adeg o'i hanes fod yn nodedig am ei lluosogrwydd, ond y mae personau o gryn nod fel gwladwyr wedi bod yn perthyn iddi o oes i oes. Yr ydym yr casglu oddiwrth ryw awgrymiadau a gawn mewn hen gofnodion, na fu nemawr o dymor yn hanes yr achos heb fod rhyw ddynion lled anhywaith ac ymrysongar yn perthyn iddo. Dynion o'r fath fu yr achos o ymadawiad Mr. Thomas Davies, Mr. Evan Davies, a Mr. Thomas Davies yr ail, a'r lle. Yr ydym yn hyderu nad oes yma yn awr, ac na fydd byth mwyach, ddynion o gyffelyb ysbryd yn perthyn i'r lle. Mae yn ddiau y buasai yr achos lawer yn gryfach nag ydyw, ac y mae yn dra thebygol y buasai rhai o hiliogaeth yr hen aelodau enwog, sydd wedi ymadael o'r lle, yn glynu wrtho, pe buasai pethau yn cael eu dwyn yn mlaen yn fwy tangnefeddus yn yr oesau a aethant heibio. Mae yn ddigon tebygol i lawer o aelodau yr eglwys hon gael eu cyfodi i bregethu o bryd i bryd, ond nid ydym ni wedi gallu dyfod o hyd i enwau neb o honynt ond y rhai canlynol:

Hugh Harries Ysw., Crug-glas. Daw ef dan sylw etto yn nglyn a hanes eglwys Trefgarn.

Edward Evans. Urddwyd ef yn Bridgenorth yn y flwyddyn 1747. Un genedigol o Newmarket, sir Flint, ydoedd. Nis gwyddom pa fodd y daeth i Hwlffordd i ddechreu pregethu. Trodd allan yn ddyn anfoesol, ac wedi ei fwrw allan o'r weinidogaeth ymneillduol aeth yn offeiriad yn 1760. Nid oes genym ni ychwaneg o'i hanes.

David Jenkins. Urddwyd ef yn Battle, yn Sussex, yn 1747. Mae ei hanes ar ol hyny yn anhysbys i ni.

George Phillips, M.A. Yr oedd y dyn ieuange enwog hwn yn un o hiliogaeth yr enwog Peregrine Phillips, gweinidog cyntaf yr eglwys yn Hwlffordd. Yr oedd ei dad yn henuriad yn yr eglwys. Ganwyd ef Tachwedd 15fed, yn y flwyddyn 1784. Derbyniwyd ef yn aelod yn y Green pan yr oedd tua thair-ar-ddeg oed, gan Mr. John Evans, y gweinidog. Wedi tranlio rhai blynyddan mewn ysgol ragbarotoawl yn Hwlffordd, derbyniwyd