Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 3.pdf/18

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ef ar gymeradwyaeth ei weinidog i athrofa Wymondley, yn y flwyddyn 1801. Ar ol gorphen ei amser yno aeth i brif Athrofa Glasgow, lle yr ennillodd iddo ei hun enw da fel un o'r myfyrwyr mwyaf diwyd, ac y graddiwyd ef yn M.A. Ar derfyniad ei amser yn Glasgow dychwelodd i Loegr, a bu yn gweinidogaethu ar brawf yn olynol yn Liverpool, Kidderminster, a Southampton, ond ni chafodd ar ei feddwl i dderbyn galwad o un o'r lleoedd hyny. Cafodd hefyd gynyg ar alwad oddiwrth ei fam eglwys yn y Green, ond gwrthododd hi. Buwyd am iddo dderbyn y swydd o athraw clasurol yn Wymondley, yr hyn hefyd a wrthododd. O'r diwedd, ar sefydliad Coleg Annibynol Lancashire, yn Mehefin, 1810, yn Leat-square, gerllaw Manchester, cymerodd ei ddarbwyllo i ymgymeryd a'r swydd o fod yn athraw clasurol yn y sefydliad newydd. Ar yr un pryd, derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys yn New Windsor, Manchester, ac urddwyd ef yno Mai 29ain, 1811. Yr oedd wedi bod yn athraw yn yr Athrofa am yn agos i flwyddyn cyn ei urddiad, ac yn cyfodi yn gyflym iawn mewn enwogrwydd fel athraw a phregethwr. Priododd yn fuan ar ol ei urddiad, ond cyn pedwar mis ar ol priodi, rhoddodd ei iechyd ffordd fel y bu rhaid iddo ef a'i briod, dan gyfarwyddyd meddygol, fyned i Devonshire ei orphwyso. Ar ei ffordd tuag yno bu farw yn ddisymwth yn Gladstonbury, Hydref 24ain, 1811. Dygwyd ei gorph i Gaerodor, a chladdwyd ef yno yn mynwent y Bedyddwyr. Felly machludodd y seren ddysglaer hon gyda bod y byd crefyddol yn dechreu myned i lawenychu yn ei llewyrch.

James Rowlands, o Hanley-on-Thames. Y mae ef er's yn agos haner can' mlynedd yn un o'r gweinidogion parchusaf yn Lloegr. Cafodd ei eni a'i fagu yn agos i Maenclochog. O'r eglwys hon hefyd yr aeth Mr. Henry Griffiths, gynt athraw athrofa Aberhonddu, a'i gefnder, Mr. David Griffiths, i'r athrofa.

COFNODION BYWGRAPHYDDOL.

JOHN LUNTLEY. Nid ydym yn gwybod dim o hanes bore ei oes ef. Ryw amser yn nhymor y Werin-lywodraeth cafodd ei osod gan yr awdurdodau yn weinidog plwyfol Llanstadwell a Nolton. Trowyd ef allan o'r lleoedd hyn gan Ddeddf Unffurfiaeth yn 1662. O'r pryd hwnw hyd derfyn ei oes bu yn pregethu fel cynorthwywr i Mr. Peregrine Phillips yn Dredgman-hill, Hwlffordd, a phob lle a agorid iddo yn yr ardaloedd hyn. Dywedir ei fod yn bregethwr derbyniol iawn. Bu farw yn y flwyddyn 1672.

PEREGRINE PHILLIPS. Ganwyd ef yn Amroth, yn sir Benfro, yn y flwyddyn 1623. Yr oedd ei dad yn vicer y plwyf hwnw. Dywedir ei fod yn ddyn duwiol iawn, yn buritan selog, ac iddo fod yn ddyoddefydd am wrthod darllen y "Llyfr Chwareuyddiaethau." Derbyniodd Mr. Phillips ei addysg foreuol mewn ysgol ramadegol yn Hwlffordd. Bu wedi hyny am dymor yn yr ysgol yn Brampton Bryan, dan ofal caplan Syr Robert Harley, ac am ryw gymaint o amser yn ysgol y Dr. William Thomas, wedi hyny Esgob Tyddewi. O ysgol y Dr. Thomas yr aeth i brif athrofa Rhydychain, lle y bu nes iddo orfod ymadael o herwydd y rhyfel a dorodd allan yn 1642. Wedi ymadael o Rhydychain bu am dymor yn gwasanaethu fel curad i'w ewythr, Dr. Collins, yn Nghydweli, sir Gaerfyrddin. Symudodd oddiyno i Langwm, yn sir Benfro. Gan ei fod yn cael ei gyfrif y pregethwr galluocaf yn y sir, cafodd ei ddyrchafu trwy ddylanwad Syr Hugh Owen, Syr Roger Lort, a Syr John Meyrick, i fod yn weinidog plwyfydd St. Mary,