Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 3.pdf/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Penfro, Monktown, a manau eraill. Pregethai unwaith bob Sabboth yn mhob un o'r eglwysi hyn, a gwnaeth ddaioni dirfawr i'r plwyfolion. Pan wrthryfelodd rhai o foneddigion Cymru yn erbyn y llywodraeth, cymerasant feddiant o gastell Penfro. Ar ddyfodiad milwyr Cromwell i lawr i ddarostwng y gwrthryfel, ac i warchae y castell, bu Mr. Phillips a'i deulu mewn enbydrwydd mawr gan fod eu hanedd mor agos i'r castell, fel y byddai y peleni ar adeg y rhyfel yn disgyn o gylch eu ty. Byddai y peleni yn fynych yn disgyn ar y cae yn ymyl y forwyn pan yn godro, ac weithiau hyddent yn dyfod i'r ardd ac i'r ty. Ond fe fu yr Arglwydd yn dirion o'i was a'i deulu fel na chafodd un o honynt eu niweidio. Bu Mr. Phillips yn pregethu i'r Arglwydd Cromwell a swyddogion ei fyddin pan yr oeddynt yn Mhenfro, a rhoddodd foddlonrwydd neillduol iddynt. Unwaith pan yr oedd llynges yn myned allan o Milford i'r Iwerddon, bu ef, ar gais Cromwell, yn pregethu ar fwrdd un o'r llongau cyn iddynt hwylio. Bu yn nodedig o ddefnyddiol a llafurus yn nhymor y werin-lywodraeth, yn pregethu yn Saesoneg a Chymraeg ar hyd a lled sir Benfro, a chyrau o'r siroedd cymydogaethol. Gelwid arno yn aml i bregethu gerbron y barnwyr, yn Hwlffordd, Aberteifi, a Chaerfyrddin. Wedi ei droi allan o'r eglwysi ar adferiad Siarl II., symudodd, fel y crybwyllasom eisioes, i dyddyndy o'r enw Dredgman-hill, yn agos i Hwlffordd, ac yno y treuliodd weddill ei oes. Bu yn ddyoddefydd mawr yn achos ei grefydd. Cafodd ei garcharu ddwy neu dair gwaith am bregethu, a'r waith ddiweddaf, ar ol bod yn y carchar am ddau fis, cymerwyd ef yn glaf o dwymyn, ac felly cafodd, ar orchymyn y meddyg, ei ollwng allan. Y fath oedd parch ei feistr tir, Syr Herbert Perrot, iddo, fel pan glywodd am ei gystudd yr anfonodd ei gerbyd at ddrws y carchar i'w gludo i'w balas ef. Bu yn gorwedd yno yn beryglus o glaf am rai wythnosau. Yn y cyfamser yr oedd yr eglwys yn cynal cyfarfodydd gweddic yn ei achos agos bob dydd. Heblaw ei garcharu yspeiliwyd ef amryw weithiau o'i anifeiliaid a'i feddianau eraill er talu y dirwyon a osodid arno am bregethu. Unwaith anfonodd y siryf geisbwliaid i gymeryd ei wartheg. Gwnaeth y weithred hono fwy o niwed i'r erlidiwr nag i'r erlidiedig. Dywedir i'r siryf pan yr oedd ar ei wely angau anfon am Mr. Phillips i ofyn ei faddeuant am iddo gymeryd ei anifeiliaid, yr hyn a ganiataodd Mr. Phillips gyda phob parodrwydd. Wedi i'r ystorm dawelu, i Ddeddf y Goddefiad ddyfod i rym, ac i Mr. Phillips a'i bobl gael capel i addoli ynddo yn nhref Hwlffordd, heb ofn i neb eu drygu na'u dirwyo mwyach, gwelodd yr Arglwydd yn dda alw ei was ffyddlon i'w orphwysfa, ac anfon gweinidog arall i fyned i mewn i'w lafur. Trwyddedwyd y capel newydd at bregethu ynddo Ionawr 17eg, 1691, a bu farw Mr. Phillips, Medi 17eg yn yr un flwyddyn, yn yr wythfed flwyddyn a thriugain o'i oed. Pregethodd ddwy waith y Sabboth diweddaf y bu fyw. Claddwyd ef yn barchus yn eglwys Haroldston, yn agos i'r pulpud. Bu ei weddw Mrs. Esther Phillips, fyw hyd Mai 26ain, 1706. Er nad oedd Peregrine Phillips yn ddyn eithafol yn ei olygiadau a'i dymer, ond yn nodedig am ei gymedroldeb a'i fwyneidd-dra, etto yr oedd yn benderfynol a hollol ddiysgog yn mhlaid ei egwyddorion. Cafodd ei orfodi unwaith i fyned i ddadl, gyhoeddus fel y tybiwn, ag un Dr. Reynolds, offeiriad, yn Nghaerfyrddin, o berthynas i ddefodau a dysgyblaeth yr Eglwys Wladol, a thro arall bu mewn dadl a'i hen athraw Dr. W. Thomas, Esgob Tyddewi. Cyhoeddodd yr Esgob adroddiad unochrog o'r ddadl hono heb gydsyniad Mr. Phillips.