Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 3.pdf/20

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cafodd Mr. Phillips lawer o brofion amlwg o gyfryngiadau rhagluniaeth yn ei blaid. Ychydig cyn ei farwolaeth, yr oedd yn marchogaeth tuag adref ar un noson dywyll yn agos i Frey strop, dros le yn mha un yr oedd amryw hen byllau glo. Syrthiodd yr anifail ac yntau i un o'r pyllau hyny, yr hwn oedd yn ddwfn iawn ac agos yn llawn o ddwfr, gan fod coed croesion o fewn chwe' troedfedd i enau y pwll, cadwyd hwy rhag myned i lawr i'r dwfr dwfn. Yn fuan wedi iddo syrthio i'r man peryglus hwnw digwyddodd fod hen wraig fyddar a'i hŵyr yn myned heibio. Clywodd y plentyn waeddi, a gwnaeth i'r hen wraig fyned at y man. Yr hon, wedi deall pwy oedd yno, a'r perygl yr oedd ynddo, a aeth i dŷ Cadben Longman, ac a'i hysbysodd o'r peth. Casglwyd dynion yno yn ddioed, a thrwy lawer o drafferth tynwyd Mr. Phillips a'i anifail o'u sefyllfa beryglus.

Er mai yn nhymor yr erledigaeth boeth y bu ef yn cyflawni ei weinidogaeth, yr ydym yn cael iddo dderbyn i gymundeb driugain a saith o aelodau, y rhai agos oll a fuant fyw ar ei ol ef. I'w lafur ef yn benaf y mae cyfodiad yr eglwysi Annibynol yn sir Benfro i'w briodoli.

THOMAS DAVIES. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1666 yn ardal Llanybri, sir Gaerfyrddin. Yn yr eglwys Annibynol yn Llanybri, dan ofal Mr. Stephen Hughes y dechreuodd grefydda a phregethu. Derbyniodd ei addysg yn athrofa Mr. John Woodhouse, yn Sheriffhales, sir Amwythig. Ar orpheniad ei amser yno, dychwelodd i'w ardal enedigol, lle y bu am dymor yn cadw ysgo c ar farwolaeth Mr. Peregrine Phillips, derbyniodd alwad i fyned yn ganiyuiedydd iddo. Dechreuodd ef ei weinidogaeth yno yn niwedd y flwyddyn 1691, a pharhaodd i weinidogaethu yn Hwlffordd, Trefgarn, a Phenfro hyd ddechreu y flwyddyn 1720, pryd y cyfyngodd ei lafur i Penfro, ac ar ei gymeradwyaeth ef rhoddodd yr eglwys yn Hwlffordd alwad i Mr. Evan Davies, a'r eglwys yn Trefgarn i Mr. William Maurice. Wedi bywyd o lafur a llwyddiant helaeth, bu y gweinidog da hwn farw Chwefror 20fed, 1724, yn 57 oed. Y Sabboth ar ol ei gladdedigaeth pregethwyd ei bregeth angladdol yn Penfro, oddiwrth Heb. xiii, 7, 8, gan Mr. Evan Davies, Hwlffordd, a'r Sabboth canlynol traddododd yr un bregeth yn y Green. Dywed Mr. E. Davies am dano fel y canlyn: "Bu farw ar ol bywyd o ddefnyddioldeb mawr fel gweinidog ac ysgolfeistr. Yr oedd yn enwog am ei sel dros grefydd bur, ac am ei ddull adeiladol o bregethu. Efe a ddaliodd hyd y diwedd y cymeriad o fod yn dduweinydd cadarn, yn areithiwr hyawdl, ac yn Gristion didwyll. Ar ol ei ail briodas cafodd lawer o ofid, yn enwedig yn mysg perthynasau ei wraig, yr hyn a fu yn rhwystr iddo yn ei waith a'i lwyddiant."

EVAN DAVIES. Yn nglyn a hanes Llanybri y rhoddir ei gofiant ef, gan mai dyna y lle diweddaf y bu yn gweinidogaethu ynddo yn Nghymru.

JENKIN JONES. Yr oll a wyddom am dano ef ydyw, iddo gael ei addysg yn yr athrofa yn Northampton, dan Dr. Doddridge, iddo ddyfod i Hwlffordd yn niwedd y flwyddyn 1743, iddo fod yn achlysur o rwygiad yr eglwys yno o herwydd ei fod yn cael ei ddrwgdybio o ddal golygiadau Ariaidd, ac nad oedd yn ddyn difrifol ei ysbryd, ei fod yn hoff o ddilyn arferion crachfoneddigion yr ardal trwy fyned allan i'r maes i hela, ac iddo unwaith wrth hela gael ei frathu yn ei lygad gan ddraen, yr hyn a achosodd ei farwolaeth yn ngwanwyn y flwyddyn 1745.

JOHN HUGHES. Ganwyd ef yn Llanelli, sir Gaerfyrddin, yn y flwyddyn 1720. Yn yr eglwys Annibynol yno y dechreuodd ei fywyd fel proffeswr crefydd a phregethwr. Mae yn debyg mai yn ysgol Mr. Samuel Jones,