Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 3.pdf/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Capel Seion, y derbyniodd ei addysg ragbarotoawl. Aeth oddiyno i athrofa Caerfyrddin. Dechreuodd ei lafur gweinidogaethol yn Hwlffordd, Medi 14eg, 1745. Ar ol bod yno ddwy flynedd ar brawf, cafodd ei urddo, fel y nodwyd, Medi 23ain, 1747. Llanwodd ei gylch yn effeithiol a llwyddianus am ddeng-mlynedd-ar-hugain. Yn fuan wedi ei urddiad, ymunodd mewn priodas ag Elizabeth, merch Francis Meyler, Ysw., meddyg, ac un o ddiaconiaid yr eglwys. Yn nhymor ei weinidogaeth derbyniodd Mr. Hughes rhwng cant a chwechugain o aelodau i'r eglwys, a bedyddiodd 166 o blant yr aelodau. Yr oedd am rai blynyddau wedi bod yn cael ei flino gan y clefyd blin hwnw y clefri poethion (scurvy), ac o'r diwedd aeth mor flin fel y bu raid iddo roddi ei ofal gweinidogaethol i fyny. Er mwyn bod yn agosach at feddygon galluog, symudodd ef a'i briod i Gaerodor yn y flwyddyn 1775, a bu farw yno Medi 31ain, 1777. Claddwyd ef yn mynwent yr Ymneillduwyr, yn agos i Brunswick Square, yn Nghaerodor. Bu ei weddw fyw fwy na dwy-flynedd-a-deugain ar ei ol ef. Yr oedd hi hyd derfyn ei hoes yn aelod parchus o'r eglwys Annibynol yn Bridge-street, Caerodor. Yn ei hewyllys gadawodd ddau gant o bunau i'r eglwys yn y Green, Hwlffordd, i'r dyben i'w llog blynyddol gael ei roddi at gyflog y gweinidog. Mae y darlleniad canlynol ar feddfaen Mr Hughes:-"Er coffadwriaeth am y Parch. John Hughes, gweinidog yr efengyl yn Hwlffordd. Efe a fu farw yn y ddinas hon Mai 31ain, 1777, yn 55 mlwydd oed. Bu ei fywyd yn gysegredig i ogoniant Duw a daioni penaf dynion. Llafuriodd yn y weinidogaeth gyda diwydrwydd a llwyddiant am ddengmlynedd-ar-hugain, a phan y gorfodwyd ef gan gystudd i roddi i fyny ei weinidogaeth, parhaodd i ganmol crefydd trwy ei ymostyngiad a'i sirioldeb dan gystudd hir a phoenus, a thrwy y tawelwch a'r gwroldeb gyda pha rai y dynesai at angau.

"Hefyd, er coffadwriaeth am Elizabeth Hughes, gweddw y Parch. John Hughes, yr hon a ymadawodd a'r byd hwn Awst 12fed, 1817, yn 95 oed. Cafodd ei bywyd hirfaith ei gysegru mewn modd nodedig i Dduw, a'i lenwi a gweithredoedd da. Bu farw mewn tangnefedd."

Nid ydym yn feddianol ar ddefnyddiau i roddi desgrifiad o Mr. Hughes o ran ei berson, a'i nodwedd fel pregethwr. Mae yn ymddangos ei fod yn ddyn cydwybodol iawn, ac na wnelai ddim a farnai yn afreolaidd er boddloni neb. Dywedir i wraig unwaith yn ei chystudd ddeisyf arno roddi y cymun iddi yn ei gwely. Gwrthododd yntau am ei fod yn barnu mai ordinhad i'w gweinyddu yn yr eglwys pan fyddai wedi "dyfod yn nghyd i'r un lle," (1 Cor. xi. 20), ac nid i bersonau unigol, ydoedd. Gwellhaodd y wraig, ond digiodd gymaint wrth Mr. Hughes fel yr ymadawodd a'i gynnulleidfa ef ac yr ymunodd a'r Methodistiaid.

BENJAMIN EVANS. Yn nglyn a hanes y Drewen, lle y bu yn gweinidogaethu am ddwy-flynedd-a-deugain wedi ymadael o Hwlffordd, y mae lle priodol ei gofiant ef.

THOMAS DAVIES. Ganwyd ef yn mhlwyf Llanfynach, yn sir Benfro. Yr ydym wedi methu cael allan amser ei enedigaeth. Yr oedd ei dad a'i fam yn aelodau ffyddlon o'r eglwys yn Nglandwr, a'i dad John Davies, yn ddiacon. Derbyniwyd yntau i gymundeb pan yn dair-ar-ddeg oed. Bu yn ysgol Mr. Griffiths, Glandwr, agos o'i febyd, nes iddo ddyfod i'w faintioli. Yn mb rhai blynyddau wedi ei dderbyn yn aelod eglwysig, anogwyd ef i ddechreu pregethu, a bu ei weinidog yn daer am iddo fyned i'r athrofa