Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 3.pdf/22

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i Abergavenny, ond y fath oedd ei wylder fel y bu am gryn amser yn gomedd myned. Wedi ymadael o ysgol Mr. Griffiths, bu am ryw faint o amser yn cadw ysgol yn Mhenygroes, sir Benfro. Oddi yno yr aeth i'r athrofa i Abergavenny yn y flwyddyn 1772. Mae yn ymddangos mai ar ei draul ei hun y bu yno, oblegid nid yw ei enw yn mysg y myfyrwyr a dderbynient gymorth oddiwrth y Bwrdd Cynnulleidfaol. Ar orpheniad ei amser yn yr athrofa, cafodd alwad oddiwrth yr eglwys yn Hanover, ac urddwyd ef yno Mai 23ain, 1776. Yr oedd pan yn yr athrofa wedi cael ei ddewis yn athraw cynnorthwyol, a pharhaodd yn y swydd hono nes iddo ymadael o Hanover. Yn 1780, symudodd i Hwlffordd, lle y bu hyd 1788, pryd y symudodd i'w ardal enedigol. Bwriadai dreulio gweddill ei oes fel efengylwr neu bregethwr teithiol, ond darfu am ei holl amcanion ef trwy i un o'i waed-lestri dori yn hollol annisgwyliadwy wrth bregethu. Bu fyw am ychydig ddyddiau ar ol hyny, ond bu farw Gorphenaf 25ain, 1788, pryd nas gallasai fod ond rhy brin ddeugain mlwydd oed. Yr oedd Mr. Jones, Trelech, yn ddyn ieuange yn eistedd wrth ei wely pan y bu farw. Y geiriau diweddaf a ddaethant o'i enau oeddynt:-"Caniata o Arglwydd dy gymorth i'th wasanaethwr tlawd yn yr ymdrech ddiweddaf."

Yr oedd Mr. Davies, yn ol tystiolaeth y rhai a'i hadwaenai, yn ddyn rhyfeddol o ostyngedig a gwylaidd, yn bregethwr efengylaidd a melus, ac yn gristion o'r radd uchaf. Nid oeddem yn hysbys o'i hanes pan yn ysgrifenu hanes eglwys Hanover.

JOHN EVANS. Nid ydym wedi gallu cael allan le ei enedigaeth ef. Cafodd ei dderbyn yn fyfyriwr i athrofa Croesos wallt yn Medi, 1784. Mae ei athraw, Dr. Edward Williams, yn ei adroddiadau blynyddol o sefyllfa yr athrofa, yn ei ganmol fel myfyriwr diwyd a galluog. Dechreuodd bregethu ar brawf yn Hwlffordd Mai 11eg, 1788, ac urddwyd ef, fel y nodwyd eisioes, Gorphenaf 22ain, 1789. Yn mhen tua phedair blynedd wedi ei ddyfodiad i Hwlffordd, ymunodd mewn priodas a Mrs. Anne Meylett, gweddw Morgan Meylett, Ysw., o Lawrenny. Cyfododd ei briodas ef i sefyllfa fydol uchel a dylanwadol, ond bernid na fu o un lles i'w ddylanwad a'i ddefnyddioldeb fel gweinidog, trwy iddo gael ei arwain i lawer o ymdrafodaeth a phethau bydol, ac i gymdeithas boneddigion a dynion o arferion ac ysbryd croes i ddifrifoldeb a sobrwydd crefyddol. Cyhuddid of gan rai o fod yn fwy ysgafn ac annifrifol nag y gweddai i weinidog yr efengyl, a dywedir iddo mewn hunan-amddiffyniad draddodi pregeth i ddangos y dylai proffeswyr crefydd fod yn siriol a llawen, oddiwrth y geiriau, "Gwasanaethwch yr Arglwydd mewn llawenydd." Ond nid ymddengys fod neb yn ei feio am fod yn llawen mewn modd ysbrydol, eithr am lawenydd bydol a chellweirus. Yr oedd ef hefyd yn cael ei ddrwg-dybio o fod yn gogwyddo at olygiadau Ariaidd, ond dywedir na chafwyd dim yn ei bregethau i roddi sail i'r cyfryw ddrwg-dybiaeth, ac mai ei waith yn pregethu unwaith yn nghapel yr Undodiaid yn Lewin's Mead, Caerodor, yn nghyd a'i gymeradwyaeth o gasgliad o Hymnau gan Dr. Abraham Rees at wasanaeth ei gynnulleidfa, a barodd iddo gael ei gyhuddo o afiechyd mewn barn. Mae ei ganlyniedydd, Mr. Bulmer, yn coleddu barn ffafriol am dano, ac yn dyweyd fod amryw ddynion duwiol iawn wedi dyweyd wrtho ef, mai trwy weinidogaeth Mr. Evans y cawsant eu dychwelyd at yr Arglwydd. Mae yn ymddangos ei fod yn bregethwr galluog iawn, a bod ganddo ddawn digyffelyb mewn gweddi. Dywedai Mr. Skeel, Trefgarn, wrth Mr. Bulmer, iddo unwaith wrandaw Mr. Evans yn pregethu mewn