Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 3.pdf/23

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

urddiad yn Keyston, oddiwrth y geiriau, "Yr wyf yn mawrhau fy swydd," ac nad oedd un llygad sych yn y gynnulleidfa. Dywedir hefyd iddo draddodi pregeth yn Heol Awst, Caerfyrddin, ar ddyledswydd y deiliaid tuag at y llywodraeth, gyda grym a dylanwad nodedig. Yr amser hwnw yr oedd boneddigion Toriaidd y wlad yn gyffredin, a'r offeiriaid wrth gwrs, yn cyhuddo yr Ymneillduwyr o fod yn bleidwyr i'r chwildroad yn Ffrainge, ac yn elynion i'r llywodraeth. Dyben Mr. Peter wrth wahodd Mr. Evans i Gaerfyrddin i bregethu ar y pwnge hwn oedd, gwrthbrofi y cyhuddiad enllibus hwnw. Daeth yno dorf fawr i wrandaw, ac yn eu plith amryw wyr mawr. Rhoddodd ei bregeth foddlonrwydd cyffredinol, a gosododd law ar yr enllib. Bu Mr. Evans farw yn gymharol ieuange, yn mis Hydref, 1808. Mab iddo ef yw y Counsellor Evans, yr hwn sydd yn dra adnabyddus fel cyfreithiwr enwog.

JOHN BULMER. Ganwyd ef yn sir Gaerefrog, yn y flwyddyn 1784. Cafodd ei dueddu yn ieuange i ymuno a chrefydd. Bu yn fyfyriwr yn athrofa Rotherham, dan yr enwog Dr. Edward Williams. Yn y flwyddyn 1812, daeth ar brawf i Hwlffordd, ac urddwyd ef yno yn 1813. Bu yno yn llafurus iawn hyd y flwyddyn 1840, pryd y symudodd i Rugeley, yn sir Stafford, lle y bu am bum' neu chwe' mlynedd. Symudodd oddiyno i Gaerodor, lle y bu am rai blynyddau, ond heb ofal eglwysig. Wedi hyny bu am ychydig amser yn weinidog cynorthwyol yn Newbury, yn Berkshire. Oddiyno symudodd i gymeryd gofal dwy eglwys fechan yn Longrove a Ruxton, yn agos i Ross, yn sir Henffordd, lle y terfynodd ei yrfa Tachwedd 26ain, 1857, yn 74 mlwydd oed.

Nid oedd Mr. Bulmer yn bregethwr galluog, ond yr oedd yn ddyn da ac efengylaidd ei olygiadau. Ysgrifenodd gyfrol o gofiant i Mr. Evans, Drewen, a pheth dirfawr o erthyglau bywgraphyddol a hanesyddol i'r cyhoeddiadau Saesonig. Ychydig cyn ei ymadawiad o Hwlffordd, yr oedd wedi cychwyn cyhoeddiad misol, dan yr enw The Pembrokeshire Congregational Magazine. Pe buasai pob gweinidog yn gwneyd ei ran mor dda i gasglu a chofnodi llafur a hanes y tadau, ni buasai fawr drafferth i gael defnyddiau at hanes yr eglwysi. Bu y dyn da hwn farw fel y bu fyw—mewn cymundeb agos a'r Arglwydd.

JAMES WILLIAMS, oedd fab hynaf yr hybarch David Williams, Troedrhiwdalar. Ganwyd ef yn y йwyddyn 1806. Cafodd ei dderbyn yn aelod eglwysig yn Nhroedrhiwdalar pan yn blentyn ieuangc. Anfonwyd ef i Athrofa y Neuaddlwyd, lle y bu am rai blynyddau yn cael ei barotoi ar gyfer myned i athrofa Caerfyrddin. Pan yr oedd yn y Neuaddlwyd aeth allan unwaith mewn cwch i'r mor, a dau o'i gydysgolheigion gydag ef, yn nghyda merch ieuange o'r ardal. Dymchwelodd y cwch, a boddodd ei ddau gyfaill a'r ddynes ieuange, ond yn rhagluniaethol achubwyd ei fywyd ef. Aeth o'r Neuaddlwyd i athrofa Caerfyrddin, ac ar derfyniad ei amser yno derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys yn Keyston, yn sir Benfro, lle yr urddwyd ef yn mis Tachwedd, 1828. Yn y flwyddyn 1845 derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys yn y Green, Hwlffordd, a bu yn gwasanaethu y ddwy eglwys, cyn belled ag y caniataodd ei iechyd iddo, hyd derfyn ei oes. Ni chafodd nemawr fwynhad o iechyd am yr un—mlynedd—ar—bymtheg olaf o'i fywyd. Bu farw dydd Mawrth, Hydref 4ydd, 1870, yn driugain—a—phedair oed, ac yn yr eilfed—flwyddyn—a—deugain o'i weinidogaeth. Claddwyd ef wrth gapel y Green.