Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 3.pdf/24

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd James Williams, fel ei dad patriarchaidd, yn ddiarhebol am ei garedigrwydd. Yr oedd yn ysgolhaig rhagorol ac yn bregethwr galluog.[1]

TREFGARN OWAIN.

Dywed rhai mai llygriad o'r gair Trefwgan Owain yw y gair Trefgarn, ac i'r enw Trefwgan Owain gael ei roddi i'r lle oblegid mai gwr o'r enw Wgan Owain oedd ei berchenog a'i breswylydd yr amser gynt. Ond nid ag ystyr yr enw y mae a fynom ni, eithr a hanes yr achos Annibynol yn y lle. Yn mhlwyf Brideth, tuag wyth milldir i'r gogledd-orllewin o dref Hwlffordd, y mae capel Trefgarn. Nid yw yn hysbys pa bryd y dechreuwyd yr achos yma. Mae yn lled sicr fod Mr. Peregrine Phillips yn pregethu yn lled fynych yn y parthau hyn yn amser y werinlywodraeth, a dywedir hefyd fod Mr. Stephen Hughes, Meidrym, wedi bod yma rai gweithiau. Yr oedd traddodiad yn yr ardal flynyddau yn ol i Mr. Hughes ddyfod yma a phregethu yn eglwys Brideth trwy ganiatad y Gwarcheidwad eglwysig, sef un Price, o Dreicert, yr hwn oedd ar y pryd wedi syrthio allan ag offeiriad y plwyf, ac o ddirmyg arno a adawodd i'r Ymneillduwr bregethu yn ei eglwys. Dywedir hefyd fod Price a'r offeiriad wedi cymodi a'u gilydd erbyn i Mr. Hughes ymweled a'r ardal drachefn, ac i'r eglwys gael ei chau yn ei erbyn. Os oes rhyw bwys i'w osod ar y traddodiad hwn, mai yn rhaid mai ar ol 1662 y talodd Mr. Hughes yr ymweliadau hyn a'r ardal, oblegid cyn hyny yr oedd ef, a phob pregethwr rheolaidd arall, at eu rhyddid i bregethu yn mhob eglwys blwyfol. Yn lled fuan wedi 1662, ffurfiodd Mr. Peregrine Phillips eglwys yn ei dŷ ei hun yn Dredgman-hill, yn agos i Hwlffordd, ac yr oedd rhai o'i aelodau yn byw yn ardal Trefgarn. Gydag amser cafodd yr aelodau a breswylient yn yr ardal hon eu ffurfio yn gangen o'r fam eglwys. Pa bryd y cymerodd hyn le nis gwyddom. Rhif yr aelodau perthynol i gangen Trefgarn tuag amser marwolaeth Mr. Phillips, yn 1691, oedd deuddeg-ar-hugain; yn mysg y rhai yr ydym yn cael enwau Hugh Harries, Ysw., Crug-glas, a'i wraig; David Skeel, Isaac Banner, James a David Hicks, George a Thomas Gilbert, &c. Mae yr enwau oll i'w gweled yn ben lyfr eglwys y Green, Hwlffordd. Mewn anedd-dy yn Eveston, tua milldir o Brideth, y buwyd yn addoli am rai blynyddau, ac oddeutu y flwyddyn 1686, adeiladwyd addoldy bychan yn agos i Drefgarn, ar dir Mr. Hugh Harries, a bernir mai Mr. Harries ei hun yn benaf, os nad yn hollol, a ddygodd draul yr adeiladaeth. Dywedir yn bendant yn llyfr eglwys y Green iddo ef adeiladu capel ar ei dir ei hun yn Nhrefgarn. Ni byddai yn anmhriodol i ni, cyn myned yn mhellach, reddi cymaint o hanes ag sydd gonym am y gwr da hwn. Yr oedd yn foneddwr o ran cyfoeth, ac yn foneddwr mewn ystyr llawer uwch, trwy ei fod wedi ei brydferthu a gras. Derbyniwyd ef i gymundeb eglwysig yn Dredgman-hill, Mawrth 4ydd, 1668, a dewiswyd ef yr ddiac on Mawrth 3ydd, 1672. Cafodd ei garcharu yn Hwlffordd yr un amser a'i weinidog, Mr. Phillips, o herwydd ei ymneillduaeth, ond nis gallodd dim ei siglo oddiwrth ei egwyddorion. Anogwyd ef i bregethu, a bu yn bregethwr cymeradwy a defnyddiol iawn

  1. Yr ydym yn ddyledus am y rhan fwyaf o ddefnyddiau yr hanes blaenorol i hen lyfrau eglwys y Green, y rhai yn garedig a anfonwyd i ni gan Mr. Evans, y gweinidog presenol. Gwnaethom hefyd ddefnydd helaeth o'r hyn a ysgrifenwyd gan Mr. Bulmer