Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 3.pdf/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

am lawer o flynyddau, ond oherwydd ei feddyliau isel am dano ei hun, gwrthododd ar bob cyfrif gymeryd ei urddo. Yn Trefgarn yn benaf y byddai yn pregethu fel cynorthwywr i'r gweinidog. Bu fyw nes yr oedd tua phedwar-ugain-a deg oed, a bu farw mewn tangnefedd Mawrth 3ydd, 1725, a phregethwyd ei bregeth angladdol gan Mr. William Maurice, yr hwn oedd ar y pryd newydd ddechreu ei weinidogaeth yn Nhrefgarn. Hiliogaeth y gwr da hwn yw yr Harriesiaid o Drefacwn.

Bu yr eglwys yn Nhrefgarn dan yr un weinidogaeth a Hwlffordd a Phenfro hyd nes i Mr. Thomas Davies gyfyngu ei lafur i Benfro yn unig. Yna dewiswyd Mr. Evan Davies yn Hwlffordd, a Mr. William Maurice yn Nhrefgarn. Yn Mehefin yn y flwyddyn 1725, yr urddwyd Mr. Maurice, ond barnwn iddo fod yn pregethu yma dair neu bedair blynedd cyn cael ei urddo, fel y bu Mr. E. Davies yn Hwlffordd. Dechreuodd Mr. Maurice ei fywyd gweinidogaethol yn y cylch eang hwn gyda bywiogrwydd a sel neillduol, a pharhaodd yn llafurus a ffyddlon nes i henaint a methiant ei luddias. Casglodd a chorpholodd gangen o eglwys Trefgarn yn Rhos-ycaerau yn y flwyddyn 1724, sef tua blwyddyn cyn iddo gael ei urddo. Yn mhen amryw flynyddau wedi marwolaeth Mr. Hugh Harries bu raid i'r eglwys yn Nhrefgarn ymadael o'i chapel. Nid yw yn gwbl sicr pa beth a achosodd hyn, ond bernir mai am nad oedd y lês yn darbod ffordd i fyned iddo, a bod perchenog y tir yn gomedd caniatau mynedfa ato. Yn y flwyddyn 1743 y bu hyn. Ond erbyn fod un drws yn cau fe agorodd rhagluniaeth ddrws arall. Yr oedd un o'r aelodau o'r enw Ellen Bury Perrot a chanddi chwaer yn cadw ty boneddwr o'r enw Thomas Jones, Ysw., Brideth, a thrwy hono llwyddwyd i gael gan y gwr hwnw i roddi tir cyfleus at adeiladu capel newydd arno, o fewn can' llath i'r gorllewin i'r hen gapel. Rhoddwyd lês ar y tir am 99 o flynyddau, am haner coron y flwyddyn. Yr ymddiriedolwyr oeddynt David Perkins, o blwyf St. Nicholas; William Williams, o blwyf Llanwnda, a George Watts, o blwyf Llandeloy. Dyddiad y weithred yw Gorphenaf 6ed, 1743. Cafodd yr addoldy newydd ei adeiladu yn ddioed ar ol tynu y weithred. Ei faint oedd 48 troedfedd wrth 15 troedfedd, a'i uchder oedd naw troedfedd. Y rhai mwyaf gweithgar gydag adeiladaeth y capel, heblaw yr ymddiriedolwyr, oeddynt Meistri Evan Griffiths, Treicert; Daniel Davies, Caswilia; Rees Davies, Tynewydd, a William Harries, Trenicol. Yn mhen tuag wyth-mlynedd-ar-hugain ar ol hyn, o herwydd cynydd y gynnulleidfa, bu raid helaethu y ty. Ni estynwyd dim arno, ond ychwanegwyd pedairtroedfedd-ar-ddeg at ei led, a gwnaed ei nen yn ddyblyg, yn ol ffurf rhai o'r hen eglwysi plwyfol. Ar ei agoriad, ar ol yr helaethiad, pregethodd Mr. Maurice, y gweinidog, oddiar y geiriau, "Os yr Arglwydd nid adeilada y ty, yn ofer y llafuria ei adeiladwyr wrtho." Yr oedd Meistri Henry Skeel, Castellhaidd, a David Moore, Trehywel, yn nghyd a chynifer ag oedd yn fyw o'r rhai a enwyd yn flaenorol, yn flaenllaw gyda y gwaith yn awr.

Wedi i Mr. William Maurice fod yn llafurio yn ddiwyd yn Nhrefgarn, Rhosycaerau, a'r ardaloedd o gwmpas am bedair-ar-ddeg-ar-hugain o flynyddau, ac yn gweled cylch ei lafur yn eangu, a'i nerth yntau yn lleihau, anogodd yr eglwysi dan ei ofal i edrych allan am gynorthwywr iddo. Yn y flwyddyn 1756 rhoddasant alwad i Mr. Morris Griffiths, o athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd ef yma Medi 29ain, 1757, pryd y pregethodd Meistri Lewis Rees, ac Evan Davies, Caerfyrddin. Yr oedd Mr. Griffiths yn ddyn llawn o sel a gweithgarwch, a bu ei lafur dan fendith neillduol yn yr