Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 3.pdf/26

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ardaloedd hyn, ond er ei holl ddefnyddioldeb, gwelodd e. Arglwydd yn dda ostwng ei nerth ar y ffordd, a pheri i'w haul fachludo tra yr oedd hi etto yn ddydd, rai blynyddau o flaen yr hen weinidog. Gorphenodd ei yrfa ddefnyddiol yn 1769. Yn wyneb hyn bu raid edrych allan drachefn am gynorthwywr i'r hen weinidog. Syrthiodd y dewisiad ar Mr. John Richards, myfyriwr o athrofa Abergavenny, yr hwn yr oedd Mr. Morris Griffiths wedi gymeradwyo i sylw yr eglwysi ar ei wely angau. Yn Rhosycaerau yr urddwyd Mr. Richards, ac i'r gangen hono yn benaf y bwriedid iddo roddi ei wasanaeth, ond bu yntau, fel ei ragflaenydd Mr. Griffiths, yn gwasanaethu yn yr holl gylch yn ddiwahaniaeth. Urddwyd ef yn 1770. Yn mhen ychydig amser wedi iddo ymsefydlu yma, priododd ag un o ferched yr hen weinidog, Mr. Maurice. Wedi marwolaeth yr hen weinidog, yn 1778, syrthiodd gofal yr eglwysi oll ar Mr. Richards. Bu ei lafur yn llwyddianus iawn. Casglodd a chorpholodd eglwys yn Rhodiad, yn mhlwyf Tyddewi, a bu Trefgarn, Rhosycaerau, a Rhodiad dan ei ofal bugeiliol ef nes iddo ymadael o'r wlad. Ar ol llafurio yma gyda pharch a llwyddiant rhyfeddol am bum'-mlynedd-ar-hugain, er mawr ofid i bobl ei ofal, a'r wlad yn gyffredinol, gwnaeth ei feddwl i fyny i ymfudo i'r America. Cynaliwyd cyfarfod ar yr achlysur o'i ymadawiad yn Nhrefgarn, yn mis Mawrth, 1795. Daeth torf ddirfawr yn nghyd, a phregethodd yntau ei bregeth ymadawol oddiar Actau xx. 38. "Gan ofidio yn benaf am y gair a ddywedasai efe, na chant weled ei wyneb ef mwy. A hwy a'i hebryngasant ef i'r llong." Dywedir fod pawb yno wedi teimlo i'r fath raddau fel nad oedd neb yn medru peidio wylo. Yn fuan wedi hyn hwyliodd ef a'i deulu tua'r Unol Daleithiau, ac yn mhen tair wythnos wedi tirio yno bu farw, a chladdwyd ef yn Elizabeth Town.

Y Sabboth cyntaf ar ol ymadawiad Mr. Richards, pregethodd Mr. Stephen Lloyd, Brynberian, yn Nhrefgarn, oddiar Mat. ix. 36, "A phan welodd efe y torfeydd, efe a dosturiodd wrthynt am eu bod wedi blino, a'u gwasgaru fel defaid heb ganddynt fugail." Yn fuan wedi hyny, yn unol a chyngor ymadawol Mr. Richards, cydsyniodd yr eglwysi yn Nhrefgarn, Rhosycaerau, a Rhodiad i roddi galwad i bedwar o frodyr oeddynt yn aelodau yn eu plith, ac wedi bod am lawer o flynyddau yn pregethu iddynt fel cynorthwywyr, sef Daniel Jenkins, Thomas Skeel, James Meyler, a William Harries. Urddwyd y pedwar Hydref 20fed, 21ain a'r 22ain, 1795. Yr oedd y gweinidogion canlynol yn wyddfodol ar yr achlysur, ac yn cymeryd rhan yn y gwasanaeth:-J. Griffiths, Glandwr; T. Davies, Pantteg; B. Evans, Drewen; S. Lloyd, Brynberian; John Thomas, Llangathen, gynt Raiadrgwy; Jenkin Lewis, Gwrecsam; J. Evans, Hwlffordd; P. Maurice, Ebenezer; M. Jones, Trelech, a J. Phillips, Trewyddel. Y cynllun bwriadedig oedd fod i Meistri D. Jenkins a T. Skeel i gymeryd gofal neillduol yr eglwys yn Nhrefgarn; Mr. J. Meyler i ofalu yn benaf yn Rhosycaerau, a Mr. W. Harries yn Rhodiad, gyda dealldwriaeth fod yr holl eglwysi i fwynhau yn gyfartal o ddoniau gweinidogaethol y pedwar. Ond ni thalwyd sylw i'r rhan olaf o'r cynllun ond dros ychydig amser. Yn fuan cyfyngodd pob un o honynt ei lafur agos yn hollol i'r bobl oedd yn fwyaf neillduol dan ei ofal. Yn mhen rhyw gymaint o amser ar ol hyn, adeiladwyd addoldy yn Solfach, yr hwn a fwriedid i fod fel cangen o Drefgarn a Rhodiad, ond wedi hyny cydunwyd iddo fod mewn cysylltiad a Rhodiad yn unig. Yn fuau drachefn adeiladodd pobl Trefgarn addoldy yn Mhenybont, yr hwn a adnabyddir yn awr fel y FORD.