Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 3.pdf/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn Mai, 1809, rhoddodd eglwys Trefgarn, yn cynwys yr aelodau a addolent yn nghapel Penybont, alwad unfrydol i Mr. Benjamin Griffiths, Llanboidy, sir Gaerfyrddin, i ddyfod i gydweinidogaethu a'r Meistri Jenkins a Skeel. Urddwyd Mr. Griffiths Tachwedd 9fed, 1809, pryd yr oedd y gweinidogion canlynol yn wyddfodol:-W. Harries, Rhodiad; T. Phillips, D.D., Neuaddlwyd; J. Davies, Bethlehem; B. Evans, St. Florence; M. Jones, Trelech; H. George, Brynberian; J. Meyler, Rhosycaerau; J. Lloyd, Henllan; W. Griffiths, Glandwr; T. Griffiths, Hawen, a W. Davies, Rhosycaerau. Bu farw Mr. Daniel Jenkins, un o'r gweinidogion, yn mhen ychydig gyda blwyddyn wedi urddiad Mr. Griffiths, ond parhaodd Mr. Skeel i gyd-lafurio ag ef hyd 1821, pryd y darfu iddo ef, mewn cysylltiad a'i nai, Mr. Daniel Davies, gyfyngu ei lafur i'r canghenau yn Mhenybont a Zion's-hill, gan adael Trefgarn i Mr. Griffiths ei hun. Bu Mr. Griffiths yn rhyfeddol o lwyddianus yma. Rhif yr aelodau pan yr urddwyd ef oedd 138, ond o'r pryd hwnw hyd y flwyddyn 1845, rhoddwyd deheulaw cymdeithas i 564 o aelodau newyddion. Yn y flwyddyn 1826, trowyd anedd-dy a elwid Penycwm yn lle at addoli a chadw ysgol Sabbothol. Agorwyd y capel bychan hwn Mehefin 14eg, 1826, pryd y pregethodd Meistri J. Roberts, Llanbrynmair, a Caleb Morris, y pryd hwnw o Narberth. Mr. a Mrs. Thomas, o'r Llethr, fu a'r llaw flaenaf yn adeiladiad capel Penycwm. Yn 1833, tynwyd hen gapel Trefgarn i lawr ac adeiladwyd yr addoldy presenol. Yr oedd gan y bobl y pryd hwnw y fath galon i weithio fel y talwyd holl draul yr adeiladaeth erbyn dydd yr agoriad. Pregethwyd ar yr agoriad gan Meistri J. Bulmer, Hwlffordd; D. Rees, Llanelli; D. Davies, Aberteifi; J. Davies, Glandwr, ac eraill. Adeiladwyd addoldy bychan arall, a elwir Paran, gan eglwys Trefgarn, at gynal ysgol Sabbothol a phregethu achlysurol. Cafwyd y tir at ei adeiladu gan Mr. Hicks, Trefmaenhir, ar les o 999 o flynyddoedd. Agorwyd ef yn mis Hydref, 1843, pryd y pregethodd Meistri Williams, St. Clears; Lewis, Henllan, a Hughes, Trelech.

Yn y flwyddyn 1845, gan fod cylch y weinidogaeth wedi myned yn fawr iawn, a Mr. Griffiths yn dechreu teimlo pwys henaint, rhoddwyd galwad i Mr. John Griffiths, o athrofa Aberhonddu, i ddyfod yn gyd-weinidog ag ef. Urddwyd Mr. Griffiths yma Hydref 15fed, 1845, pryd y cymerodd y rhan fwyaf o'r gweinidogion canlynol ran yn y gwasanaeth: D. Williams, Troedrhiwdalar; D. Rees, Llanelli; J. Davies, Glandwr; W. Davies, a D. Bateman, Rhosycaerau; T. Mortimer, Solfach; D. Davies, Zion's-hill; J. Evans, Hebron; S. Evans, Penygroes; J. Griffiths, Tyddewi; W. Williams, Llandilo; J. Lewis, Henllan; S. Thomas, Trefdraeth; E. Lewis, Brynberian; J. Williams, Hwlffordd, a B. James, Landilo. Bu Mr. J. Griffiths yma yn cyd-lafurio a'r henafgwr Mr. B. Griffiths yn gysurus a thra llwyddianus hyd y flwyddyn 1853, pryd, o herwydd cystuddiau a marwolaethau yn ei deulu, y penderfynodd roddi ei swydd i fyny. Bu yr achos drachefn dan ofal Mr. B. Griffiths yn unig hyd 1855, pryd y rhoddwyd galwad i Mr. John Morgan Evans, o athrofa Caerfyrddin. Urddwyd ef Awst 21ain a'r 22ain, pryd yr oedd yn bresenol o gylch deg-ar-hugain o weinidogion. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. W. Morgan, Caerfyrddin; holwyd y gofyniadau gan Mr. J. Griffiths, Tyddewi; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. S. Griffiths, Horeb; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. J. Davies, Glandwr, ac i'r eglwys gan Mr. H. Jones, Caerfyrddin. Yr oedd Mr. Griffiths wedi heneiddio a myned yn lled analluog i wneyd