Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 3.pdf/28

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nemawr gyda'r weinidogaeth pan ddechreuodd Mr. Evans ar ei lafur, ac felly syrthiodd y rhan fwyaf o'r gwaith arno ef. Yn y flwyddyn 1856, gosododd Mr. Evans i fyny wasanaeth crefyddol rheolaidd yn Nolton, lle ar lan y mor tua chwe' milldir o Drefgarn, ac ardal hollol Saesnigaidd. Yn 1857, dechreuwyd adeiladu capel yno yn benaf trwy lafur Mr. D. Banton, Nolton, a Mr. J. Thomas, Llethr. Rhoddodd eglwys Trefgarn tua thriugain punt at draul yr adeiladaeth. Wedi agor y capel corpholwyd ynddo eglwys o bymtheg o aelodau; sef wyth o Drefgarn, a'r gweddill Keyston, a manau eraill. Parhaodd Mr. Evans i wasanaethu y lle hwn yn rhad nes oedd yr eglwys yn 70 o aelodau, a'r ddyled wedi ei thalu. Yn fuan wedi urddiad Mr. Evans, dewisodd eglwys Trefgarn ddeuddeg o'r aelodau i fod yn ddiaconiaid trwy bleidlais ddirgel, ac aeth y cwbl drosodd yn dangnefeddus. Yn y flwyddyn 1862, bu farw yr hen weinidog, Mr. Griffiths, yn hen ac yn llawn o ddyddiau a pharch gan fyd ac eglwys. Yr oedd Mr. Evans wedi cael ei ofidio yn fawr er's cryn amser trwy ddeall fod teimladau anngharedig rhwng rhai o'r aelodau a'u gilydd, ac wedi arfer pob moddion er ceisio symud y drwg-deimlad, ond yn aflwyddianus, digalonodd gymaint fel y rhoddodd y weinidogaeth i fyny. Nid oedd wedi edrych am, na derbyn galwad o un lle arall, cyn rhoddi ei ofal yn Nhrefgarn i fyny. Cyn gynted ag y deallwyd ei fod yn symudol, cafodd alwad unfrydol o Ebenezer, Caerdydd, lle y mae yn bresenol. Rhoddodd ei weinidogaeth i fyny yn Nhrefgarn yn 1866, a dechreuodd ei waith yn Nghaerdydd yn nechreu 1867.

Wedi ymadawiad Mr. Evans, rhoddodd eglwys Trefgarn alwad i Mr. D. L. Jenkins, o athrofa Caerfyrddin. Urddwyd ef yma Gorphenaf laf, 1868. Ar yr achlysur gweinyddwyd gan Meistri H. Davies, Bethania; D. Henry, Penygroes; J. Davies, Glandwr; W. Morgan, Caerfyrddin, ac eraill. Yn ystod gweinidogaeth Mr. Jenkins adeiladwyd capel newydd tlws yn Penycwm, a chliriwyd y ddyled cyn diwedd 1871. Yn niwedd y flwyddyn 1871, derbyniodd Mr. Jenkins alwad oddiwrth yr eglwys Saesonig yn Splotlands, Caerdydd, a symudodd yno. Mae eglwys Trefgarn oddiar ei ymadawiad ef heb un gweinidog sefydlog ynddi.

Mae yr achos yma yn bresenol mewn sefyllfa lewyrchus, a chynnulleidfaoedd Huosog yn cyfarfod yn y fam-eglwys a'i changhenau. Bu yma lawer o bobl nodedig mewn crefydd o oes i oes, ac y mae eu henwau yn berarogl yn yr ardal hyd heddyw; ac y mae yma rai o hiliogaeth y gwyr enwog hyny yn dwyn eu henwau, ac yn etifeddu eu hysbryd. Bu yr eglwys yma yn faes dadleuon brwd yn y dyddiau gynt yn nghylch y System Newydd; a chrybwylla Mr. JM. organ Evans, i un o'r hen aelodau, Thomas Watts, taid y gantores enwog Miss Watts, ddyweyd wrtho ef ar ol iddo bregethu yn lled gymhelliadol, "Pe pregethech chwi y bregeth yna yma ddeugain mlynedd yn ol, tynid chwi lowr o'r pwlpud." Yr oedd teulu o'r enw y Siarliaid, y rhai a gyfrifent eu hunain yn warcheid waid yr athrawiaeth, a thost fuont wrth lawer pregethwr ieuangc wedi iddo ddyfod i lawr o'r pulpud. Profent ef a chwestiynau caled, a mynych y byddent yn dadleu hyd doriad gwawr y boreu.

Mae yn ddiameu i lawer o bregethwyr gyfodi yn yr eglwys henafol hon nad ydym ni wedi gallu dyfod o hyd i'w henwau. Y rhai canlynol yw yr unig rai y gwyddom ni am danynt:

Hugh Harries, Ysw. Yr ydym eisioes wedi rhoddi a wyddom o'i hanes ef.