Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 3.pdf/29

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Thomas Maurice. Rhoddir ei hanes ef yn nglyn a Lacharn, lle y bu ddiweddaf yn gweinidogaethu.

Ebenezer Skeel. Gweler hanes yr eglwys yn Abergavenny.

William Harries. Rhoddasom ei hanes yntau yn nglyn a hanes yr eglwys yn Abergavenny.

William Warlow. Gweler hanes Milford.

William Harries, Solfach. Daw ei hanes yn nglyn a'r eglwys hono.

Daniel Jenkins. Rhoddir ei hanes ef isod yn mysg y gweinidogion.

Thomas Skeel. Rhoddir ei hanes ef yn nglyn a Phenybont.

Daniel Davies. Gweler hanes yr eglwys yn Zion's-hill.

David Griffiths. Mab Mr. B. Griffiths, y gweinidog, oedd ef. Addysgwyd ef yn athrofa Highbury. Bu am ddeng mlynedd yn weinidog yn Tean, swydd Stafford. Symudodd oddiyno i Lichfield, lle y bu yn nodedig o barchus a defnyddiol am ddwy flynedd. Bu farw yno ar ol ychydig ddyddiau o gystudd Hydref 13eg, 1848, yn 34 oed. Yr oedd yn weinidog ieuange rhyfeddol o addawol a galluog.

Dr. Thomas Nicholas, gynt athraw yr athrofa yn Nghaerfyrddin.

James Evans. Yr hwn a adwaenid dan yr enw "Y bachgen dall." Ganwyd ef mewn lle a elwir Treserfach, yn mhlwyf Brideth, Mehefin 28ain, 1814. Cafodd addysg dda pan yn blentyn, ond collodd ei olygon yn raddol, ond etto yn hollol ddiboen. Dechreuodd pan oedd tua 13 oed, ac erbyn ei fod tua 14 oed, nid oedd yn gweled dim. Gwnaed prawf ar bob meddygon hyd y gellid ond yn gwbl ofer. Ymddadblygodd ei alluoedd yn foreu, ac anogwyd ef i ddechreu pregethu pan nad oedd ond 16 oed. Bu ar daith trwy y Gogledd, a bu yn Liverpool yn ymgynghori a'r meddygon yn y sefydliad llygeidyddol (Eye Institution), ond ni chafodd fawr calondid. Teithiodd gryn lawer ar hyd y wlad i bregethu, ac yr oedd yn dra pharchus a chymeradwy gan bawb. Yr oedd yn ddyn ieuange rhyfeddol o dalentog, ac yn bregethwr grymus. Er ei fod yn ddall, cyfansoddodd lawer o ysgrifau i'r misolion, ac ennillodd rai gwobrwyon mewn eisteddfodau. Cyfansoddodd a chyhoeddodd lyfr a elwir Y Cristion Dyddorgar. Bu farw Mehefin 5ed, 1842, cyn ei fod yn llawn wythmlwydd-ar-hugain oed.

Jonas E. Evans. Brawd James Evans. Ganwyd ef Gorphenaf 14eg, 1820. Derbyniwyd ef yn aelod yn Nhrefgarn cyn ei fod yn un-ar-bymtheg oed. Yn fuan wedi iddo ddechreu pregethu aeth i ysgol Mr. H. Davies, Narberth, ac oddiyno yn Ionawr, 1844, i athrofa Newport Pagnal. Urddwyd ef yn Lofthouse, sir Gaerefrog yn 1848. Priododd yno i deulu parchus, ac ymddangosai pob peth yn dymhorol ac yn ysbrydol yn obeithiol iawn iddo; ond cyn iddo gael nerth i lafurio yn ngwinllan ei Arglwydd gyflawn chwe' mlynedd, ymaflodd y darfodedigaeth ynddo, fel y bu raid iddo yn 1854 roddi ei ofal gweinidogaethol i fyny. Bu farw Mai 8fed, 1856.

D. W. Evans, Stansfield, yn swydd Suffolk, a B. W. Evans, Yelvertoft, swydd Northampton, ydynt frodyr i James & Jonas Evans, ac yn weinidogion parchus a defnyddiol.

Deallwn fod amryw bregethwyr cynorthwyol tra pharchus a defnyddiol wedi cyfodi yma o bryd i bryd, ond gan nad ydym yn gwybod eu henwau nis gallwn eu crybwyll.