Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 3.pdf/30

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr ydym eisioes yn hanes y Green, Hwlffordd, wedi rhodli cofiant am Meistri P. Phillips, a T. Davies, dau weinidog cyntaf yr eglwys hon.

WILLIAM MAURICE. Gan fod y gweinidog hwn yn ddyn mor enwog a defnyddiol yn ei ddydd, ac iddo adael y fath deulu lluosog ar ei ol, a bod amryw o'i blanta'i wyrion yn weinidogion a gwragedd gweinidogion, yr ydym yn synu na buasai rhai o honynt yn ysgrifenu ei hanes. Nid oes genym ond y peth nesaf i ddim o hanes boreu ei oes. Dywed yr hybarch W. Davies, Rhosycaerau, mai un genedigol o Ogledd Cymru ydoedd, ond dywed y diweddar Mr. Griffiths, Tyddewi, mai yn sir Gaerfyrddin y ganwyd ef. Yr ydym yn barnu mai Mr. Griffiths sydd yn iawn gyda golwg ar le ei enedigaeth, ond yr ydym wedi methu cael allan yn mha ran o sir Gaerfyrddin y ganwyd ef. Nis gwyddom ychwaith yn mha le y derbyniodd ei addysg. Os yn athrofa Caerfyrddin yr addysgwyd ef mae yn rhaid mai ar ei draul ei hun y bu yno, oblegid y mae genym enw pob myfyriwr a addysgwyd yno ar draul y Byrddau Henadurol a Chynnulleidfaol, ac nid yw enw William Maurice yn eu mysg. Yr ydym yn barnu iddo ymsefydlu yn Nhrefgarn tua'r flwyddyn 1720, er na chafodd ei urddo cyn Mehefin, 1725. Yn mhen ychydig amser wedi iddo ymsefydlu yn sir Benfro, ymunodd mewn priodas a Miss Perkins, merch Mr. David Perkins, un o sylfaenwyr yr achos yn Rhosycaerau. Cafodd un-ar-ddeg o blant o'i wraig gyntaf, un o ba rai oedd Mr. Thomas Maurice, yr hwn a fu yn weinidog yn Lacharn. Priododd yr ail waith ag un o aelodau y Bedyddwyr yn Llangloffan. Cafodd un-ar-ddeg o blant o hono drachefn. Priododd un o'i ferched a Mr. John Richards, Trefgarn, fel y nodasom eisioes. Priododd un arall a Mr. William Harries, gweinidog Rhodiad, ac un arall a Mr. Mortimer, Trewellwell. Hi oedd mam y diweddar Mr. T. Mortimer, gweinidog Solfach. Arferai Mr. Maurice ddyweyd, mai swn plant oedd y miwsig hyfrytaf yn ei glustiau. Gan iddo gael dau-ar-hugain o blant mae yn debyg iddo gael digon o'r miwsig a hoffai. Bu y gwr da hwn farw mewn henaint teg yn bed war-ugain-a-phump oed, Hydref 16cg, 1778, a chladdwyd ef yn medd ei ail wraig yn mynwent Llanrhian, yn agos i Dyddewi. Yr oedd William Maurice yn ddyn da, yn weinidog llafurus, ac yn bregethwr poblogaidd. Yr oedd y rhan fwyaf, os nad yr oll o'i deulu lluosog, yn grefyddol, ac y mae degau o'i ddisgynyddion hyd y dydd hwn yn grefyddwyr da ac yn Ymneillduwyr selog, ond y mae rhai o honynt hefyd wedi gwyro oddiwrth egwyddorion eu hynafiaid a myned yn Eglwyswyr penboeth.

MORRIS GRIFFITHS. Ganwyd ef yn mhlwyf Llangybi, yn sir Gaernarfon, yn y flwyddyn 1721. Cafodd ei eni a'i fagu mewn ardal lle yr oedd Ymneillduaeth wedi gwreiddio er's oesau, a digon tebyg iddo yntau o'i febyd gael ei ddwyn i fyny mewn gwybodaeth grefyddol. Cafodd y fraint o fyned yn lled ieuange i fyw i deulu y duwiol a'r dyoddefus William Pritchard, o Glasfrynfawr. Pan orfodwyd William Pritchard, gan erledigaeth, i symud o sir Gaernarfon i Fon, aeth Morris Griffiths gydag ef. Ryw amser, naill ai cyn neu wedi symud i Fon, dechreuodd arfer ei ddawn fel cynghorwr. Cynhyrfodd hyny ffyrnigrwydd yr erlidwyr yn ei erbyn. Pan yr oedd unwaith ar giniaw gyda y teulu, wedi i Mr. Pritchard symud i Blas, Penmynydd, Mon, daeth y pressgang i'r ty i ddal Morris, y gwas, i'w