Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 3.pdf/31

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gymeryd i'r fyddin. Gofynodd Mrs. Pritchard iddynt am adael iddo fyned i'r llofft i roddi ei esgidiau am ei draed, fel y buasai yn hawddach iddo gerdded. Caniatawyd hyny iddo. Wedi myned i'r llofft, diangodd allan trwy y ffenestr, ac felly collodd yr erlid wyr eu hysglyfaeth y tro hwnw. Bob yn ychydig aeth i fyned oddiamgylch y wlad i bregethu, fel y gwnelai Jenkin Morgan, a llawer eraill. Un tro yr oedd i bregethu yn Llanrwst, ac wedi dechreu y gwasanaeth, torodd yr erlidwyr i'r ty gyda bwriad i ddal ac anmharchu y pregethwr. Ar y pryd, diffoddodd gwr y ty y canwyllau, a llwyddodd i guddio a chloi y pregethwr mewn cist fel y methasant ddyfod o hyd iddo. Ar ol bod yn pregethu cryn lawer yma ac acw yn y Gogledd, aeth ar gymeradwyaeth Mr. Lewis Rees yn fyfyriwr i athrofa Caerfyrddin. Derbyniwyd ef yno Mehefin 4ydd, 1750, ar draul y Bwrdd Cynnulleidfaol. Wedi gorphen ei amser yn yr athrofa, ymsefydlodd yn weinidog yn Nhrefgarn a Rhosycaerau. Urddwyd ef, fel y nodasom, Medi 29ain, 1757. Testyn Mr. Lewis Rees yn yr arddiad ydoedd, 2 Bren. ii. 9., a thestyn Mr. Evan Davies, athraw yr arddedig, oedd 1 Tim. iv. 16. Wedi llafurio yn ddiwyd a llwyddianus yn y weinidogaeth am rai blynyddau, gwaelodd ei iechyd ac aeth wanach, wanach, fel y bu farw Hydref 17eg, 1769, yn 48 mlwydd oed. Yn y Garnachenlwyd, yn mhlwyf Mathry, yr oedd yn cyfaneddu yn ei flynyddau diweddaf. Bu farw yn orfoleddus iawn. Claddwyd ef yn mynwent eglwys Mathry. Bu ei weddw fyw hyd Ebrill 22ain, 1807. Claddwyd hi yn medd ei phriod.

Yr oedd Morris Griffiths yn ddyn gwerthfawr, a hollol ymroddedig i'w waith. Mae yn ymddangos iddo ddyoddef ei ran o erledigaeth yn moreu ei oes, ac na fu yn rhydd oddiwrth ofidiau tra y bu fyw, ond cadwodd ei gymeriad crefyddol yn loew a'i fwa yn gryf yn ngwasanaeth ei Arglwydd. "Aml ddrygau a gaiff y cyfiawn, ond yr Arglwydd a'i gwared ef oddiwrthynt oll.'

JOHN RICHARDS. Un genedigol o sir Gaerfyrddin oedd ef, ond nis gwyddom o ba le yno. Derbyniwyd ef yn fyfyriwr i Abergavenny, Mai 8fed, 1767. Ar orpheniad ei amser yno, cafodd alwad i fyned yn ganlyn. iedydd i Mr. Morris Griffiths. Urddwyd ef yn y flwyddyn 1770. Dy. wedir i Mr. Griffiths ei glywed yn gweddio mewn cyfarfod gweinidogion ac iddo adael argraff mor dda ar ei feddwl, fel y darfu iddo ar ei wely angau ddymuno ar bobl ei ofal roddi galwad iddo i ddyfod yn ganlynied. ydd iddo ef. Yr ydym yn barod wedi rhoddi cymaint ag sydd genym o hanes ei weinidogaeth yn Nhrefgarn a Rhosycaerau, ei ymfudiad i'r America, a'i farwolaeth yno, fel nad oes genym ddim i'w ychwanegu yma. DANIEL JENKINS. Ganwyd ef yn agos i Drefgarn yn y flwyddyn 1750. Yr oedd ei rieni yn aelodau gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Woodstock, ond gan fod ganddynt tua deuddeg milldir o ffordd i fyned yno, nis gallent fyned a'u plant gyda hwy, ac felly ymunodd y rhai hyny agos oll a'r enwad Annibynol yn Nhrefgarn. Gosodwyd Daniel yn ieuangc i ddysgu galwedigaeth crydd, a bu am flynyddau lawer yn dilyn yr alwedigaeth hono. DerbyLiwyd ef yn aelod eglwysig yn Nhrefgarn yn ieuange, ac yn gymaint a'i fod yn rhagori ar y cyffredin yn ei wybodaeth a'i ddoniau, anogwyd ef i bregethu. Bu am lawer o flynyddau yn bregethwr cynorthwyol parchus yn ei fam-eglwys a'r eglwysi cymydogaethol. Ar ymadawiad Mr. John Richards i'r America yn 1795, cafodd ef, a'r tri brawd eraill a enwyd yn barod, eu hurddo yn gydweinidogion i'r eglwysi yn Nhref-